Cofnodion:
Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) yw’r rheoleiddiwr annibynnol Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Arolygiaeth yn cofrestru ac yn arolygu gwasanaethau gan gymryd camau
i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.
Mae gan Gyngor Ceredigion
sawl gwasanaeth rheoleiddiedig sy’n cael eu harolygu’n
rheolaidd gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae'r rhain yn
cynnwys:
· Cartref Gofal Preswyl Bryntirion
· Cartref Tregerddan
Residential Care Home
· Cartref Gofal Preswyl Min y Mȏr
· Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg
· Cartref Gofal Preswyl Y Hafod
· Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun
· Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi’i Dargedu
· Gwasanaeth Maethu
Mae'rarolygiadau
yn canolbwyntio ar bedwar maes
allweddol:
1. Llesiant
2. Gofal
a chymorth
3. Yr Amgylchedd
4. Arweinyddiaeth
a Rheoli
Mae’r Unigolyn Cyfrifol yn unigolyn yr ystyrir ei fod
yn gymwys o dan adran 21, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Gall Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol ddirprwyo’r swyddogaeth hon ac yng Nghyngor Sir Ceredigion, mae’r swyddogaeth wedi’i dirprwyo i’r Rheolwr
Corfforaethol – Gwasanaethau
Uniongyrchol.
Mae gan yr Unigolyn
Cyfrifol rôl hanfodol o ran monitro ansawdd ac mae ymweliadau monitro rheolaidd yn cael
eu cwblhau gyda phob gwasanaeth.
Caiff yr adroddiadau monitro eu hystyried
a’u hadolygu mewn cyfarfodydd rheolaidd â’r Cyfarwyddwr.
Mae’r Unigolyn Cyfrifol yn gweithio’n
agos gyda’r Tîm Monitro Ansawdd
mewnol sydd hefyd yn cynnal
ymweliadau monitro rheolaidd ar gyfer
pob un o wasanaethau rheoleiddiedig y Cyngor.
Mae’r Adroddiadau arolygu
sy’n cyd-fynd â'r adroddiad yn
nodi bod gwasanaethau’r Cyngor yn
gweithredu o safon ym meysydd Llesiant,
Gofal a Chymorth ac arweinyddiaeth a rheoli. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi tynnu sylw
at faterion sy’n ymwneud â sawl amgylchedd. Mae’r Cyngor yn cymryd y materion
hyn o ddifrif ac mae buddsoddiad cyfalaf sylweddol yn cael ei
wneud i wella’r amgylchedd yn y mannau hyn ac i fodloni’r gofynion perthnasol o ran diogelwch tân. Mae hyn wedi
arwain at gyhoeddi Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth yng nghyswllt Rheoliad 44 – Amgylchedd Safle. Mae cydweithio cadarnhaol rhwng adrannau’r Cyngor wedi arwain at ddatblygu rhaglen waith fanwl ac mae’r gwaith o weithredu’r rhaglen yn mynd rhagddo.
Hefyd, darperir diweddariadau rheolaidd ynglŷn â’r gwaith gwella a’r
cynllun gweithredu.
Yn dilyn cwestiynau
o’r llawr, CYTUNWYD i:-
(i) Nodi cynnwys yr adroddiada
ac adroddiadau arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n cyd-fynd â’r
adroddiad; a
(ii) gofyn i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach ystyried y canlynol:
amserlen y gwaith cynnal a chadw sy'n cael
ei wneud yng nghartrefi preswyl y Cyngor i sicrhau eu bod yn cael
eu cwblhau mewn modd amserol;
canfod nifer y gwelyau sydd ar
gael yn y sector preifat i gael trosolwg gwell o'r holl welyau
sydd ar gael
yn y Sector Lleol a Phreifat
yn y Sir; yr angen i ystyried darparu cartrefi gofal newydd yn y dyfodol
a lobïo Llywodraeth Cymru
am gyllid ychwanegol tebyg i’r cynllun
cyllido Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Dogfennau ategol: