Eitem Agenda

Arolygiadau Estyn, blwyddyn academaidd 2023/24

Cofnodion:

           

 

Yn dilyn ailddechrau arolygiadau Estyn gydag ymweliadau peilot ym mis Chwefror 2022, mae arolygiadau Estyn wedi mynd i mewn i flwyddyn olaf y cylch hwn. Mae’r arolygiadau ysgolion wedi bod yn gadarnhaol, ac Awdurdod Lleol Ceredigion oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru heb unrhyw ofynion dilynol ar ôl arolygiadau.

 

Arolygwyd yr ysgolion canlynol yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24:

 

  • Ysgol Cenarth

 

  • Ysgol Felinfach

 

  • Ysgol Llanfarian

 

  • Ysgol Rhos Helyg

 

  • Ysgol Talgarreg

 

  • Ysgol Syr John Rhys

 

  • Ysgol Gymunedol Tal-y-Bont

 

  • Ysgol Llannon

 

CYTUNWYD i nodi'r adroddiadau cadarnhaol er gwybodaeth.

 

Dogfennau ategol: