Eitem Agenda

Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Cwarter 3 2023/24

Cofnodion:

Croesawyd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad CYSUR/CWMPAS chwarter 3. 

 

Dyma grynodeb o’r prif bwyntiau:

 

Yn Chwarter 3, roedd gostyngiad bach iawn yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd ynghylch plant/pobl ifanc o'i gymharu â Chwarter 2 - gyda 926 o gysylltiadau/adroddiadau wedi’u derbyn yn Chwarter 3 o'i gymharu â 928 o gysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 2.

Fodd bynnag, er bod lleihad yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 3, roedd cynnydd mawr yn y nifer cyffredinol o gysylltiadau/adroddiadau a arweiniodd at yr angen i gymryd camau gweithredu yn unol â’r Gweithdrefnau Amddiffyn Plant; cynnydd o 132 yn Chwarter 2 i 179 yn Chwarter 3.

O’r adroddiadau a dderbyniwyd, canran yr adroddiadau a aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth yn y chwarter hwn oedd 19.3%, o'i gymharu â 14.2% yn Chwarter 2 ac 19.4% yn Chwarter 1.

Yn Chwarter 3, aeth 9.6% ymlaen i ymholiad Adran 47 o'i gymharu â 5.9% yn Chwarter 2 ac mae hyn o’i gymharu ag 8.8% yn Chwarter 1.

Roedd 1.3% yn mynd i Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant yn Chwarter 3 o'i gymharu â 0.9% yn Chwarter 2, a 0.7% yn Chwarter 1.

Felly, yn anffodus, mae nifer yr achosion yr oedd angen gweithredu arnynt o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant yn ôl i’r un lefel ag yr oedd yn Chwarter 1.

Mae cyfanswm y plant sy'n destun Cynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant wedi cynyddu i 17 yn y chwarter hwn o'i gymharu ag 16 yn Chwarter 2 a 10 yn Chwarter 1.

Cyfanswm y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn yn dilyn y Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant oedd 16 o'i gymharu â 10 yn Chwarter 2.

Cyfanswm y plant a dynnwyd oddi ar y gofrestr ar ôl Cynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn oedd 21 o'i gymharu â 22 yn y chwarter diwethaf.

Ar ddiwedd y chwarter hwn, roedd 33 o blant/pobl ifanc wedi'u cofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o'i gymharu â 40 ar ddiwedd Chwarter 2 a 52 ar ddiwedd Chwarter 1. Felly, mae gostyngiad cyson yn nifer y plant sydd ar y gofrestr.

Roedd cynnydd sylweddol yn nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd gan yr Heddlu a staff mewnol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, yr ysgolion oedd y ffynhonnell gyfeirio fwyaf yn ystod y chwarter. Bu i’r ysgolion hefyd gofnodi cynnydd sylweddol mewn pryderon diogelu.

Mae cyfanswm yr ymholiadau Adran 47 a wnaed wedi cynyddu yn y chwarter hwn hefyd, gyda 89 yn Chwarter 3 o'i gymharu â 55 yn Chwarter 2. Roedd 74 ar y cyd â'r Heddlu yn y chwarter hwn ac roedd 15 fel Asiantaeth Sengl Gwasanaethau Cymdeithasol.

Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 3 oedd honiadau o gam-drin corfforol a cham-drin/cam-fanteisio rhywiolyr un oedd y sefyllfa yn Chwarteri 1 a 2.

Yr hyn sy'n dal i beri pryder yn y chwarter hwn yw’r ffaith nad oeddem yn gallu bodloni ein hamserlenni statudol o gynnal Cynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant o fewn y 15 diwrnod ar ôl penderfynu ar ganlyniad ymholiad Adran 47 lle nodir bod angen cynhadledd gan fod y plentyn yn parhau i fod mewn perygl. Er bod gwelliant wedi bod ers Chwarter 2 lle mai dim ond 43.7% oedd o fewn yr amserlen (58.8% oedd y ffigwr yn Chwarter 3) roedd materion staffio ac argaeledd gweithwyr proffesiynol o asiantaethau eraill, yn dal i effeithio ar gydymffurfiad ag amserlenni statudol, er bod hyn yn gwella. Fodd bynnag, cynhaliwyd 93.8% o'r grwpiau craidd o fewn yr amserlen.

O ran Diogelu Oedolion, bu gostyngiad bach yn nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin a/neu eu hesgeuluso a adroddwyd yn y chwarter hwn (180) o'i gymharu â Chwarter 2 (181).

Cyfanswm yr adroddiadau a dderbyniwyd yn y chwarter hwn oedd 226 o'i gymharu â 228 yn Chwarter 2.

Staff yn yr Awdurdod Lleol oedd prif ffynhonnell yr atgyfeiriadau yn y chwarter hwn fel yn y chwarter blaenorol gydag asiantaethau darparu yn ail brif ffynhonnell.

Y categori cam-drin a adroddwyd amdano fwyaf yn y chwarter hwn oedd cam-drin emosiynol/seicolegol (111) ac esgeulustod (90). Roedd 66 o adroddiadau yn ymwneud â cham-drin corfforol, roedd 36 yn ymwneud â cham-drin ariannol ac roedd 7 yn ymwneud â cham-drin rhywiol. Cam-drin emosiynol/seicolegol ac esgeulustod oedd y categorïau cam-drin a adroddwyd amdanyn nhw fwyaf yn y chwarter blaenorol hefyd ond roedd esgeulustod yn fwy cyffredin yn y chwarter hwnnw.

O’r adroddiadau a dderbyniwyd, mewn perthynas â’r holl gategorïau cam-drin, roedd mwy o fenywod yn ddioddefwyr o gymharu â dynion, ac eithrio cam-drin ariannol lle’r oedd nifer gyfartal o adroddiadau ar gyfer dynion a menywod mewn perthynas â hyn.

Yn Chwarter 3, fel yn achos Chwarter 2, adroddwyd bod rhan fwyaf y gamdriniaeth/esgeulustod wedi digwydd yng nghartrefi’r bobl eu hunain, gyda pherthynas / cyfaill yn gyfrifol am y gamdriniaeth/esgeulustod a gofnodwyd. Yr ail uchaf oedd mewn cartref gofal, gyda gweithiwr cyflogedig yn gyfrifol am y gamdriniaeth/esgeulustod honedig.

 

Dyma’r prif bwyntiau a godwyd fel rhan o’r drafodaeth:

 

·       Wrth ymateb i gwestiwn am gysylltiadau ac atgyfeiriadau, cadarnhawyd bod yr holl gysylltiadau ac atgyfeiriadau yn y lle cyntaf yn cael eu brysbennu.

·       Wrth ymateb i gwestiwn am gysylltiadau ac atgyfeiriadau yng nghyswllt plant, cadarnhawyd mai’r prif gategorïau o gamdriniaeth a gofnodwyd  oedd cam-drin corfforol a cham-drin rhywiol. O ran oedolion, y prif gategorïau o gamdriniaeth a gofnodwyd oedd cam-drin emosiynol,     cam-drin seicolegol a cham-drin domestig.

·       Cadarnhawyd bod Swyddog Diogelu ar gyfer yr Ysgolion yn cael ei gyflogi.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

 

Argymhelliad: nodi cynnwys yr adroddiad a'r lefel o weithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol

 

Rheswm dros y penderfyniad: fel bod trefniadau llywodraethu’r Awdurdod Lleol a’r asiantaethau sy’n bartneriaid yn cael eu monitro.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad a’r lefel o weithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a’r Swyddog am gyflwyno’r wybodaeth.

.        

 

Dogfennau ategol: