Eitem Agenda

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar geisiadau datblygu, hysbysebu; yr awdurdod lleol a statudol:-

 

Anerchodd Mr Emyr Jones a Mr Rob Jones (Asiantiaid) y pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A211186  Codi siop adwerthu bwyd Dosbarth A1 - Aldi, adnewyddu pafiliwn chwaraeon rhestredig Gradd II, gosod tri phod arddangos o bren parod a chreu ardal natur a bioamrywiaeth, gyda mynedfa, maes parcio a gwaith tirlunio yn gysylltiedig.  Caeau Chwarae Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Heol Pontfaen, Llanbedr Pont Steffan.

 

 

GOHIRIO'r cais i'r Grŵp Callio yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o'r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol.

 

_________________________________________________________________

 

Anerchodd Jon Wilks y pwyllgor yn unol â'r

weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A230727  Datblygiad preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig gan gynnwys cynllun tirlunio, strategaeth ecoleg a draenio. Tir i'r De o Stryd Alma, Llannarth

 

CYMERADWYO’r cais yn destun amodau a chytundeb adran 106.

 

Roedd Aelodau'r Pwyllgor yn dymuno iddo gael ei nodi yng nghofnodion y cyfarfod, bod Cyngor y Gymuned yn ceisio budd cymunedol o'r cais a'u bod yn cynnig ardal wedi'i lleoli y tu ôl i neuadd Llannarth ar gyfer maes parcio y mae'r Datblygwr wedi cytuno iddi. 

 

 

_______________________________________________________________

Anerchwyd y pwyllgor gan Mr James Scarborough yn unol a'r

weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A230865  Ystafell arddangos arfaethedig ac adeilad ar gyfer Gweithdy/MOT yn lle'r gweithdy presennol, Garej Whitehall, Stryd Fawr, Llan-non

 

CYFEIRIO'r cais i'r Panel Arolygu Safleoedd yn unol â

pharagraff 2 a 3 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor.

 

_______________________________________________________________

 

A240148  Uned blwch storio (storage container unit) newydd arfaethedig i ddarparu ar gyfer busnes therapi harddwch (at ddefnydd unigryw sui generis), Parc Piliau, Ystâd Ddiwydiannol Pentood, Aberteifi

 

GOHIRIO penderfynu ar y cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ofyn am gadarnhad gan Ddŵr Cymru os oeddent yn barod i ddileu’r amod a argymhellwyd ganddynt yn atal meddiannaeth tan 31 Mawrth 2027 neu hyd nes y bydd y gwaith uwchraddio i  waith trin dŵr gwastraff Aberteifi wedi’i gwblhau, bod y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Economi ac Adfywio wedi’i awdurdodi i WRTHOD y cais os nad yw Dŵr Cymru yn cytuno i ddileu'r amod.

 

_________________________________________________________________

 

A240180 Adeiladu uned i gynnwys llety staff dros dro,  Neuadd Cyngor Ceredigion, Ffordd Mynediad Swyddfeydd y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron

 

CYMERADWYO'r cais yn destun amodau.

 

_____________________________________________________________

 

A240417 Diwygiadau Ansylweddol i A190729 i ddiwygio geiriad amodau 12, 15 a 17 i ofyn am ryddhad rhannol o'r amodau 12, 15 a 17 ar gyfer rhan gyfyngedig o'r datblygiad arfaethedig, Llwybr Ystwyth, Tregaron

 

CYMERADWYO bod caniatâd yn cael ei roi ar gyfer diwygiad ansylweddol i ganiatáu newidiadau i eiriad amod 12, 15 ac 17 yn y drefn honno o ganiatâd cynllunio A190729.

 

Dogfennau ategol: