Eitem Agenda

Adroddiad am y gweithdy a gynhaliwyd ddechrau'r flwyddyn fwrdeistrefol gydag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol ac adolygiad o'r templed asesu ynghylch Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol yn cydymffurfio â'u dyletswyddau

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn cadw’n annibynnol ar faterion gweithredol a byddai’n gofyn i Arweinwyr y Grŵp adrodd unwaith y flwyddyn.  Byddai’r Pwyllgor wedi hynny yn cyfarfod â phob arweinydd grŵp yn anffurfiol i archwilio ei adroddiad.

Byddai adroddiad blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn   cynnwys y canlynol:

a)    crynodeb byr o'r camau a gymerwyd gan arweinwyr grwpiau i gyflawni'r ddyletswydd,

b)    ei farn ynghylch a wnaed digon,

c)    unrhyw argymhellion ynglŷn â'r hyn y gall arweinwyr grwpiau ei wneud i gyflawni eu dyletswyddau,

d)    unrhyw argymhellion ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud i gadw tystiolaeth o gamau arweinwyr grwpiau

e)    unrhyw argymhellion o ran yr hyn y gellir ei wneud i wella'r drefn o adrodd

f)      pa hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen, os oes yna o gwbl

g)    unrhyw ddarnau o waith a allai gael eu gwneud yn y dyfodol

 

Roedd arweinwyr y grwpiau wedi cwblhau eu hadroddiadau erbyn 15/4/24. Ar 29/4/24, cynhaliwyd gweithdy gyda phob un o arweinwyr y grwpiau yn unigol:

· Y Cynghorydd Bryan Davies (Plaid Cymru)

· Y Cynghorydd Elizabeth Evans (Democratiaid Rhyddfrydol)

· Y Cynghorydd Gareth Lloyd (Grŵp Annibynnol)

 

Bu i’r Pwyllgor asesu i ba raddau yr oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol wedi:

1. cymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau’r grŵp

2. cydweithredu â’r Pwyllgor wrth arfer swyddogaethau’r Pwyllgor

3. nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddiant

 

Dyma asesiad y Pwyllgor:

  • Roedd arweinwyr y grwpiau wedi cymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp, ac wedi gwneud hynny mewn modd ystyrlon;
  • Mae Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol yn ymgysylltu ac yn cydweithio â'r Pwyllgor Moeseg a Safonau;
  • Mae'n gadarnhaol nad oes nifer uchel o atgyfeiriadau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
  • Mae angen cynnwys hyfforddiant gorfodol ar y templed cydymffurfio;
  • Mae angen cynnwys hyfforddiant ychwanegol y mae'r Pwyllgor Moeseg a Safonau wedi gofyn amdano ar y templed cydymffurfio;
  • Dylai aelodau nad ydynt eisoes wedi cyflawni’r hyfforddiant ynghylch y cyfryngau cymdeithasol, wneud hynny (os ydynt yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol)
  • Mae angen i Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol rannu adroddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru gyda'u grŵp a’u trafod yn eu cyfarfodydd grŵp;
  • Canfu Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol fod y cyfarfodydd misol gyda'r Swyddog Monitro yn effeithiol iawn ac roeddent yn ddiolchgar amdanynt. 
  • Cynigiwyd bod y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i'r templed cydymffurfio:
    • Diwygio'r templed er mwyn ei wneud yn haws i'w gwblhau ac er mwyn i Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar y Pwyllgor Moeseg a Safonau;
    • Ail-eirio penawdau;
    • Ei wneud yn fwy strwythuredig;
    • Cynnwys blwch tystiolaeth Ie/Na;
    • Sicrhau nad yw'r templed yn rhy ben agored;
    • Cynnwys argymhellion y flwyddyn flaenorol ar y templed. 

 

  CYTUNWYD i wneud y canlynol:

(i) nodi sut y bydd Arweinwyr y Grwpiau a'r Pwyllgor yn gweithio gyda'i gilydd, nodi pa mor aml y cytunwyd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal a nodi’r trothwy cydymffurfio; a

(ii) cytuno ar y mecanwaith adrodd diwygiedig: Holiadur i Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol ynghylch Cydymffurfio â’u Dyletswyddau yn amodol ar adolygu’r cwestiynau yn flynyddol er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau.

 

Dogfennau ategol: