Cofnodion:
Ystyriwyd Asesiad Cydymffurfiaeth Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol.
Dywedwyd bod gweithdy wedi’i gynnal gydag arweinwyr y grwpiau ar 5 Mehefin
2024:
· Y Cynghorydd Bryan Davies (Plaid Cymru)
· Y Cynghorydd Elizabeth Evans (Y Democratiaid Rhyddfrydol)
· Y Cynghorydd Rhodri Evans (Grŵp Annibynnol)
Roedd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol o’r farn fod y cyfarfodydd misol
gyda’r Swyddog Monitro yn effeithiol iawn ac roeddent yn ddiolchgar amdanynt.
Cafwyd trafodaeth ynghylch yr amser mwyaf addas i arweinwyr y grwpiau gyfarfod
â'r Pwyllgor Moeseg a Safonau a chytunwyd y byddai'n well pe bai'r cyfarfod
swyddogol yn cael ei gynnal yn yr hydref yn hytrach nag ym mis Ionawr oherwydd
y pwysau sy'n ymwneud â gosod y gyllideb ym mis Ionawr. Roedd arweinwyr y
grwpiau gwleidyddol hefyd yn barod i fynychu cyfarfodydd ar adegau eraill o'r
flwyddyn pe bai'r angen yn codi.
Cytunwyd ar amserlen ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a ganlyn:
• Gweithdy yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol (diwedd Mai/dechrau Mehefin)
• Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol i fynychu
cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn yr hydref (Medi/Hydref)
• Gweithdy ar ddiwedd y flwyddyn fwrdeistrefol (Mai
– cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol)
Mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2024 lle cyfarfu'r Pwyllgor ag
Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol yn unigol, asesodd y Pwyllgor i ba raddau yr
oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol wedi gwneud y canlynol:
1. cymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan
aelodau'r grŵp
2. cydweithredu â'r Pwyllgor wrth arfer ei swyddogaethau
3. nodi unrhyw anghenion hyfforddi
• Mae Arweinwyr y Grwpiau
Gwleidyddol yn ymgysylltu ac yn cydweithio â'r Pwyllgor Moeseg a Safonau;
• Mae'n gadarnhaol nad oes
nifer uchel o atgyfeiriadau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
• Mae angen cynnwys
hyfforddiant gorfodol ar y templed cydymffurfio;
• Mae angen cynnwys
hyfforddiant ychwanegol y mae'r Pwyllgor Moeseg a Safonau wedi gofyn amdano ar
y templed cydymffurfio;
• Mae angen i Arweinwyr y
Grwpiau Gwleidyddol rannu adroddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a
Phanel Dyfarnu Cymru gyda'u grŵp a’u trafod yn eu cyfarfodydd grŵp;
• Canfu Arweinwyr y
Grwpiau Gwleidyddol fod y cyfarfodydd misol gyda'r Swyddog Monitro yn
effeithiol iawn ac roeddent yn ddiolchgar amdanynt.
Cynigiwyd bod y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i'r templed
cydymffurfio:
O ran y trothwy cydymffurfio, felly, ystyrid:
Yna trafodwyd y Templed Cydymffurfio gan Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol.
Teimlai’r Arweinwyr bod y cwestiynau'n rhy agored ac efallai y byddai’r
wybodaeth y byddai’r Pwyllgor ei hangen, yn cael ei hepgor. Rhoddwyd pwyslais
ar yr angen am fanylion a thystiolaeth. Cytunwyd i sefydlu gweithgor o'r
Pwyllgor er mwyn adolygu'r templed. Mae nifer yr aelodau sydd wedi mynychu
hyfforddiant ar y cyfryngau cymdeithasol i'w ychwanegu at y templed. Cytunwyd
mai Caryl Davies, Gail Storr, Alan Davies a'r Swyddog Monitro fyddai’n aelodau
o’r gweithgor.
Roedd y templed wedi'i adolygu: Holiadur i Arweinwyr y Grwpiau
Gwleidyddol ynghylch Cydymffurfio â’u Dyletswyddau.
CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol a fyddai’n cael ei chynnwys yn
Adroddiad Blynyddol Moeseg a Safonau.
Dogfennau ategol: