Cofnodion:
Roedd y Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth
wedi parhau â’r gwaith o adolygu, datblygu a diweddaru polisïau allweddol. Yn
dilyn ymgynghoriad, cafodd y polisïau a’r canllawiau canlynol eu trafod a’u
diwygio a bu i’r undebau llafur corfforaethol cydnabyddedig gytuno iddynt:
Diben pob polisi a
gweithdrefn ar gyfer y gweithwyr oedd amlinellu'n glir yr ymddygiad sy'n
ofynnol ohonynt ynghyd â'r prosesau a'r gweithdrefnau oedd angen iddynt eu
dilyn. Roedd y dogfennau hyn yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'r cymorth a'r
cyngor oedd ar gael ac roedd yn sôn am y canlyniadau o beidio â glynu wrth y
polisi a/neu weithdrefn.
Polisi Recriwtio Diogel
Roedd y Polisi Recriwtio
Diogel yn nodi’r safonau yr oedd Cyngor Sir Ceredigion wedi’u gosod ynghylch
recriwtio a chadw pobl sy’n dymuno gweithio gyda grwpiau agored i niwed (plant
a/neu oedolion) mewn ffordd ddiogel. Roedd y Polisi cyfredol, a oedd wedi’i
gyflwyno yn 2017, wedi’i adolygu i sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â’r
ddeddfwriaeth a’i fod yn addas i’r diben. Dim ond mân newidiadau oedd wedi’u
cynnig, ac roedd y rhain yn cael eu nodi isod. Roedd y newidiadau yn cael eu
cyflwyno er mwyn sicrhau proses fetio gadarn a thrylwyr ar gyfer yr holl staff,
gwirfoddolwyr a chontractwyr sy’n gweithio i Gyngor Sir Ceredigion neu sy’n
gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion.
Nid oedd unrhyw
newidiadau i’r arfer presennol o gynnal gwiriadau DBS ar ôl i weithwyr gael eu
penodi i rolau sy’n cyflawni gweithgarwch a reoleiddir. Dim ond o dan rai
amgylchiadau y byddai angen ymgymryd â’r gwaith o ailwirio bob hyn a hyn h.y.
pan fyddai’r ddeddfwriaeth yn mynnu bod angen gwneud hynny neu pan fyddai
pryder, cwyn neu wybodaeth yn dod i law ynghylch euogfarn neu rybudd a roddwyd
i weithiwr mewn rôl sy’n cyflawni gweithgarwch a reoleiddir.
Roedd y newidiadau
arfaethedig i’r Polisi fel a ganlyn:
Yn ogystal ag ymgynghori
â’r undebau llafur, roedd Bwrdd Diogelu Corfforaethol y Cyngor wedi adolygu’r
polisi.
Cynllun Prynu Gwyliau
Blynyddol
Trefniadau gwirfoddol
oedd Cynlluniau Prynu Gwyliau Blynyddol a oedd yn cynnig mwy o hyblygrwydd i
weithwyr dros eu hawl i gael gwyliau trwy ganiatáu iddynt brynu gwyliau
ychwanegol o dan drefniant ad-dalu cyflog. Roedd y cynlluniau hyn i’w gweld yn
eang ar draws sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Byddai’r cynllun yn
cynnig arbedion i’r Cyngor am na fyddai dim costau cyflog ar gyfer cyfnod y
gwyliau blynyddol ychwanegol ac y byddai gostyngiad yng nghyfraniadau Yswiriant
Gwladol y Cyflogwr. Un o’r buddion i’r gweithiwr fyddai’r cyfle i wasgaru cost
absenoldeb di-dâl dros gyfnod o hyd at 12 mis.
Dyma grynodeb o amodau’r
cynllun:
Canllawiau Teithio,
Cynhaliaeth a Llety
Cafodd y canllaw i
weithwyr mewn perthynas â theithio a chynhaliaeth ei ddiweddaru ddiwethaf yn
2015. Fel rhan o’r broses adolygu, ceisiwyd cyngor gan ymgynghorwyr treth y
Cyngor er mwyn sicrhau bod y ddogfen derfynol yn cydymffurfio â rheoliadau
Cyllid a Thollau EF.
Roedd y canllawiau
diwygiedig yn nodi’r amgylchiadau a fyddai’n caniatáu i weithwyr a oedd yn
cyflawni gwaith ar ran y Cyngor (a oedd wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor)
gyflwyno hawliadau am gostau teithio megis lwfansau milltiroedd, treuliau
tanwydd, trafnidiaeth gyhoeddus, cynhaliaeth neu gostau llety.
Rhaid ystyried y dull
trafnidiaeth mwyaf economaidd bob amser.
Roedd y newidiadau
arfaethedig i’r Canllawiau fel a ganlyn:
·
Gwaredu’r “Lwfans te” a dalwyd yn flaenorol am
absenoldebau o dros 4 awr
i gynnwys rhwng 3pm a 6pm
·
Cynyddu’r trothwy uchaf am lety dros nos o £150 i £200 yn
Llundain ac o £95 i £120 mewn mannau y tu allan i Lundain. Dylid archebu pob
llety dros nos trwy Dîm Caffael y Cyngor. Nid oedd lefel wedi cael ei phennu
gan CThEF ar gyfer llety dros nos ac roedd y cynnig i
gynyddu’r trothwy yn cael ei gyflwyno yn dilyn gwaith a wnaethpwyd i
ddadansoddi’r prisiau presennol ar gyfer llety yn Llundain a thu allan i
Lundain.
Yn dilyn trafodaeth a
chwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell y canlynol i’r Cabinet:-
·
Polisi Recriwtio Diogel
·
Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol
·
Canllawiau Teithio, Cynhaliaeth a Llety
Dogfennau ategol: