Eitem Agenda

Adroddiad ynghylch Adroddiad Ystadegol Uwch Grwner Ceredigion

Cofnodion:

        Ystyriwyd Adroddiad ynghylch Adroddiad Ystadegol Uwch Grwner Ceredigion ar gyfer 2023 ac Adroddiad y Prif Grwner.

 

Dywedwyd nad oedd Adroddiad Ystadegol Ceredigion ar gyfer 2023 wedi’i gyhoeddi eto ond bod disgwyl yr adroddiad cyn diwedd mis Mehefin 2024. Byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 8 Hydref 2024. Ychwanegwyd bod Adroddiad Blynyddol y Prif Grwner ar gyfer 2023 bellach wedi’i gyhoeddi a bod modd gweld yr adroddiad ar ei wefan. Roedd yr adroddiad yn amlinellu canfyddiadau’r Prif Grwner ar gyfer  2023. Roedd y rhain fel a ganlyn:-

  • Nid oedd gan y gwasanaeth ddigon o staff
  • Roedd yr adnoddau sylfaenol a ddarperir gan wahanol awdurdodau lleol yn amrywio’n fawr ac roedd hyn yn annerbyniol 
  • Yn gyffredinol, roedd yr angen am fwy o Grwneriaid Ardal cyflogedig yn parhau
  • Roedd y 'triongl cyfrifoldeb' yn achosi anawsterau gweithredol
  • Roedd y strwythur adnoddau presennol yn effeithio ar annibyniaeth farnwrol
  • Roedd trefniadau diogelwch y llysoedd yn amrywio'n fawr ac anaml iawn oedd y trefniadau’n ddigonol
  • Roedd y cynnydd yn y gwaith yn ddiweddar yn debygol o fod yn rhywbeth parhaol.
  • Oedi
  • Cwestau dan arweiniad barnwr
  • Penodi crwneriaid
  • Cymorth i grwneriaid

 

Roedd y camau gweithredu fel a ganlyn:-

  • ymgysylltu â'r Uwch Grwner a'r awdurdod lleol perthnasol i geisio annog gwelliannau
  • herio nifer o gynrychiolwyr awdurdodau lleol ynghylch swyddfeydd a llysoedd annigonol
  • annog awdurdodau lleol a heddluoedd i ystyried symleiddio'r model ariannu yn ardaloedd eu crwneriaid, drwy drefnu bod yr awdurdod lleol perthnasol yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddarparu a rheoli swyddogion y crwner
  • darparu addysg gyffredinol ar faterion cyfansoddiadol sy’n berthnasol i grwneriaid.
  • cynlluniau i weithredu'r cynllun archwiliwr meddygol statudol a diwygio'r system ardystio marwolaethau o fis Ebrill 2024 ymlaen
  • addysgu awdurdodau lleol ynghylch ystyriaethau diogelwch

 

Wrth grynhoi, soniwyd am y canlynol:-

  • nid oedd llawer o ardaloedd crwneriaid wedi'u moderneiddio eto i adlewyrchu goblygiadau pellgyrhaeddol y diwygiadau cenedlaethol hynny.
  • roedd angen newid strwythurol i symleiddio a mireinio trefniadau llywodraethu a rheoli ardaloedd unigol y crwneriaid
  • symud i ffwrdd o'r model 'triongl cyfrifoldeb' hen ffasiwn gan fabwysiadu system lywodraethu symlach a mwy effeithlon.
  • prinder patholegwyr
  • roedd yr adroddiad hefyd yn edrych ar nifer yr achosion oedd wedi bod yn y system am fwy na 12 mis yn 2023 o gymharu â 2022.
  • Yn 2023, roedd 10 achos wedi bod yn y system yng Ngheredigion am fwy na 12 mis. 2 oedd y ffigwr yn 2022.

 

Dywedwyd hefyd fod Prif Grwner newydd wedi’i phenodi ar 25 Mai 2024, sef Ei Hanrhydedd y Barnwr Alexia Durran a hynny am gyfnod o dair blynedd.

 

Roedd ystadegau cenedlaethol y Crwneriaid ar gyfer 2023 wedi’u cyhoeddi.

Roedd yr adroddiad yn dangos bod 36,855 o gwestau wedi’u hagor ledled y Deyrnas Unedig yn 2023 a oedd yn gynnydd o 2% ers 2022. Dyma oedd y nifer uchaf ers dechrau’r cyfnodau blynyddol yn 1995, ac eithrio'r blynyddoedd pan oedd angen ymchwiliadau Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS). Roedd y marwolaethau yr adroddwyd yn eu cylch a arweiniodd at gwestau yn cyfateb i 19% o'r holl farwolaethau a adroddwyd i grwneriaid yn 2023. 17% oedd y ffigwr yn 2022. Roedd nifer y cwestau a agorwyd fel cyfran o'r marwolaethau a gofnodwyd yn 2023 yn amrywio ar draws ardaloedd y crwneriaid. 4% oedd y ffigwr yng Ngheredigion a 39% oedd y ffigwr yn Lerpwl a Chilgwri. Fodd bynnag, roedd rhan fwyaf ardaloedd y crwneriaid wedi cynnal cwestau ar gyfer rhwng 10% ac 20% o’r holl farwolaethau a gofnodwyd.

 

Cysylltwyd â Swyddfa’r Crwner i ofyn am y data ynghylch cwestau ar gyfer misoedd cyntaf 2024. Fodd bynnag, nid oedd dim gwybodaeth wedi dod i law hyd yma. Byddai diweddariad yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf ym mis Hydref 2024.

 

Bu i’r Aelodau ailadrodd eu pryder a’u siom nad oedd y wybodaeth a ofynnwyd amdani yn y cyfarfod ar 12 Mawrth 2024, ar ôl ystyried Adroddiad y Crwner ar gyfer 2022, wedi dod i law, er bod yr Uwch Grwner wedi ymateb i lythyr ar 22 Mawrth yn cadarnhau y byddai’n paratoi adroddiad o fewn y terfyn amser o 3 mis.

 

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth.

ntent of the report for information.

Dogfennau ategol: