Cofnodion:
Nododd y
Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael taw cipolwg
mewn amser yw’r Datganiad Cyfrifon, sy’n seiliedig ar 31 Mawrth 2023. Nododd
nad oedd ganddo gof o dderbyn adroddiad nad oedd wedi ei gymhwyso, a bod hyn yn
dystiolaeth o fantolen gryf sy'n caniatáu sefyllfa ariannol dda yng
Ngheredigion. Canmolodd y tîm Cyllid am eu proffesiynoldeb a'u profiad, gan
nodi y bu’n heriol i geisio edrych yn ôl dros y cyfnod hwn tra’n llunio'r
gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf a sefyllfa ariannol hynod heriol i’w hwynebu
yn y dyfodol.
Nododd y
Cynghorydd Gareth Davies nad oedd gorwariant o £6k yn peri pryder, roedd lefel
y Gronfa Gyffredinol yn parhau i fod yn £6.7m, a chronfeydd wrth gefn wedi'u
clustnodi yn £48.8m a fydd yn lleihau wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen.
Nododd fod mater yn ymwneud ag ailwerthuso asedau wedi codi llynedd, a
diolchodd i'r tîm am wneud gwaith ar y mater hwn mewn cyfnod byr iawn. Nododd fod adolygiad Concrit Awyredig
Awtoclafiedig Cyfnerth (CAAC) wedi'i gynnal, gan gadarnhau y gellir rhoi
sicrwydd nad oes tystiolaeth o bryderon yn ymwneud a CAAC yn y sir. Nododd hefyd fod y Fantolen Harbyrau hefyd
wedi'i chynnwys yn yr adroddiad, sy'n dangos cost flynyddol o £58k i'r
awdurdod, gan awgrymu efallai nad yw'r ffioedd wedi cynyddu'n ddigonol yn ystod
y blynyddoedd blaenorol a bod hyn yn rhywbeth i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu
ei ystyried.
Diolchodd i
Archwilio Cymru am eu gwaith a wnaed yn ystod amgylchiadau heriol a'i bod yn
gadarnhaol mai bwriad yr Archwilydd Cyffredinol yw cyhoeddi adroddiad archwilio
anghymwys ar y Cyfrifon.
Nododd Duncan
Hall, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael a Swyddog Adran 151
ei fod wedi rhoi trosolwg manwl yn ystod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
yn gynharach heddiw. Nododd ei fod yn
fodlon o ran mesuriadau allweddol fod y Fantolen Gyffredinol wedi aros yn
ddigyfnewid, a bod cyflawni archwiliad anghymwys flwyddyn ar ôl blwyddyn yn
reswm i’w ddathlu.
Nododd y bu
i’r Cyngor wynebu her sylweddol o ran nifer yr eitemau ystadau a oedd angen eu
prisio, a bod ambell broblem wedi bod o ran hanfodion prosesu'r rhain. Mae'r adroddiadau hyn yn ymwneud â chyfnod
sydd dros 12 mis yn ôl, ac ers hynny mae penodiad newydd wedi'i wneud i'r tîm i
gynorthwyo o ran capasiti. Byddai rheolaethau hefyd yn cael eu cryfhau, er mwyn
sicrhau ffurfioldeb a chofrestru ac mae cynlluniau i adolygu sefyllfa o ran
arwynebedd y llawr yn ystod yr adolygiad pum mlynedd.
Nododd y
Cynghorydd Gareth Lloyd fod gwerth mynychu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
cyn mynychu'r Cyngor gan fod hyn yn rhoi'r manylion i'r Aelodau cyn ystyried yn
y Cyngor. Nododd ei fod yn falch o
dderbyn sicrwydd y bore yma y byddai systemau'n cael eu rhoi ar waith i
adolygu'r sefyllfa drwy ail-werthuso ystadau, a'i fod yn edrych ymlaen at
dderbyn diweddariadau ar y mater hwn.
Gofynnodd y
Cynghorydd Keith Henson i Swyddog S151 egluro'r gwahaniaethau rhwng y cronfeydd
wrth gefn y gellir eu defnyddio a'r rhai na ellir eu defnyddio. Cadarnhaodd Duncan Hall fod cronfeydd wrth
gefn wedi'u clustnodi yn cynnwys eitemau fel y Gronfa Gyffredinol, y cyllidebau
ysgolion dirprwyedig, a chronfeydd wrth gefn ar gyfer cyflawni'r blaenoriaethau
corfforaethol, o’u gymharu â’r Gronfa Bensiwn nad yw'n gronfa wrth gefn y
gellir ei defnyddio.
Gofynnodd y
Cynghorydd Keith Evans pam fod y newid i’r risgiau corfforaethol wedi newid cyn
lleied. Eglurodd Eifion Evans, Prif
Weithredwr fod risgiau'n cael eu hadolygu ar sawl lefel, gyda'r rhai ar y lefel
uchaf yn cael eu hadolygu gan y Grŵp Arweinyddol yn ystod cyfarfodydd
wythnosol. Gall y rhain gynnwys pethau
fel yr argyfwng hinsawdd, na all yr awdurdod eu datrys ar ei ben ei hun; fodd
bynnag, mae hyn yn cael ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae'r ffactorau risg hyn yn tueddu i fod yn hirdymor
ac felly nid oes llawer o newid blynyddol o ran y lefelau risg. Mae'r haen nesaf o risgiau yn benodol i
wasanaethau unigol. Ni fyddem yn disgwyl
gweld sgôr uwch na 15 yn y meysydd hyn; fodd bynnag, os yw risg gwasanaeth yn
sgorio'n uchel, byddai'n cael ei gyfeirio at y Gofrestr Risg Gorfforaethol a'i
adolygu'n rheolaidd gan y Grŵp Arweinyddol.
Nododd y
Cynghorydd Rhodri Evans ei fod wedi disgwyl y byddai'r gyllideb yn sgorio'n uwch
ar y gofrestr risg ar gyfer Datganiad Cyfrifon 2023-24, oherwydd yr hinsawdd
ariannol a chadarnhawyd bod y risg gorfforaethol a restrir yn y Datganiad
Cyfrifon 2022-2023 yn briodol ar y pryd.
Gofynnodd y
Cynghorydd Wyn Evans beth fyddai'n digwydd pe na bai gwelliant o ran ffigyrau
asedau am y drydedd flwyddyn yn olynol. Cadarnhaodd Duncan Hall nad yr un achos
yn ail-adrodd ei hun oedd hwn, a bod Archwilio Cymru wedi canmol Swyddogion am
fynd i'r afael â phryderon y flwyddyn flaenorol.
Diolchodd y
Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor i Archwilio Cymru am eu hadroddiad,
ac i’r Swyddogion am eu holl gwaith caled.
Nododd fod nifer o faterion gweithredol wedi'u codi a rhoddodd sicrwydd
na fyddai'r Cyngor yn gorffwys ar ei rwyfau.
Yn dilyn
trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Cyfrifon y Cyngor a
Datganiad Cyfrifon yr Harbwr.
Dogfennau ategol: