Cofnodion:
Ystyriwyd y canllawiau
statudol ac anstatudol ar ddemocratiaeth o fewn prif gynghorau ac yn benodol yr
hyn a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sef Adrannau
14.0 i 14.33.
Dywedodd Elin Prysor fod y
ddogfen hon wedi’i darparu er gwybodaeth ac er mwyn ystyried sut yr oedd y
Pwyllgor yn gwneud ei waith ac ychwanegodd fod y darn hwn yn rhan o’r elfen
statudol yr oedd yn rhaid i Awdurdodau Lleol roi sylw iddo. Os na fyddai’r
Cyngor yn derbyn y canllawiau, roedd yn rhaid iddo roi rhesymau paham nad ydyw
am eu derbyn. Roedd y darn hwn yn rhoi sylw i’r trosolwg, y cefndir, yr
aelodaeth, y cyfarfodydd, y trafodion a’r swyddogaethau ynghyd ag adolygu
materion ariannol yr awdurdod, rheoli risgiau a rheolaeth fewnol. Nododd fod y
cylch gorchwyl wedi’i gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor, a bod hynny’n
adlewyrchu’r hyn a oedd wedi’i gynnwys yn y ddogfen hon.
Nododd Elin Prysor fod y
Cadeirydd a'r Is-gadeirydd wedi rhoi adborth am y darn hwn a bod ymateb yn cael
ei baratoi ar hyn o bryd a fyddai’n cael ei rannu â nifer o Brif Swyddogion.
Nid oedd y canllawiau yn darparu diffiniad penodol o ran geiriau, a byddai
angen i bob awdurdod dehongli’r canllawiau i’r gorau o’u gallu.
Dywedodd Mr Alan Davies fod y
ddogfen hon wedi codi nifer o gwestiynau ac y byddai angen i’r Pwyllgor
ddiffinio yn union beth yw ei hystyr. Nododd fod y trydydd pwynt bwled yn
cyfeirio at ‘adolygu a chraffu ar faterion ariannol yr awdurdod’, a bod
angen cael eglurder ynghylch yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei olygu a sut
oedd hyn yn cyd-fynd â’r hyn oedd eisoes yn digwydd yn y Pwyllgorau Craffu.
Ychwanegodd, os mai hyn oedd y Llywodraeth yn ei ddisgwyl oddi wrthym, fod
gennym ddyletswydd i ddeall ystyr hyn yn ymarferol a deall sut y gallwn ni
weithredu hyn. Ar hyn o bryd, roedd yna flychau mawr ac nid oeddem ar yr un
donfedd.
Gofynnodd y Cynghorydd Wyn
Evans lle’r oedd y Pwyllgor hwn yn sefyll o ran y broses ddemocrataidd.
Dywedodd fod y prosesau democrataidd yn craffu ar y setliad ariannol a
gofynnodd beth oedd rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Nododd Mr Alan
Davies mai’r prosesau democrataidd ddylai fod yn gwneud y gwaith craffu, ond
bod y ddogfen hon yn awgrymu mai’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ddylai
fod yn gwneud hyn. Hefyd, bu iddo ailadrodd ei siom fod y dogfennau ariannol
diweddaraf ar gael yn gyhoeddus cyn i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eu
gweld.
Dywedodd y Cynghorydd
Elizabeth Evans mai rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd cael sicrwydd
bod y prosesau craffu ar waith, ac nad rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
oedd craffu ar y sawl oedd yn craffu, ond yn hytrach sicrhau bod y cymorth priodol
ar waith i wneud hynny. Nododd Mr Alan
Davies ei fod yn cytuno â hyn ond bod angen i’r Pwyllgor ddiffinio hyn a
sicrhau bod yna baramedrau clir yn bodoli. Ychwanegodd y Cynghorydd Elizabeth
Evans y byddai gan Lowri Edwards wybodaeth wrth law ynglŷn â’r modd y
dylem fynd i’r afael â’r ddogfen hon.
Gofynnodd Mr Alan Davies i’r
Aelodau adolygu’r ddogfen ac anfon eu sylwadau at Elin Prysor o fewn 14 diwrnod
fel y gallwn ni ystyried y camau nesaf. Cadarnhaodd Elin Prysor y byddai’n
syniad rhagorol cynnwys yr holl Aelodau yn yr adolygiad, ac y byddai’r ddogfen
yn mynd gerbron y Grŵp Arweiniol fel y gallai’r grŵp hwnnw ei
ystyried. Nododd mai’r Cyngor llawn oedd yn gwneud penderfyniadau ynghylch
materion ariannol ond bod gan wahanol Bwyllgorau rolau gwahanol, a bod angen
eglurder ynghylch y paramedrau a’r ffiniau yng nghyswllt eu swyddogaethau. Bu i
Elin Prysor argymell cynnal gweithdy mewnol fel y gellid ystyried y mater mewn
fforwm preifat. Byddai’r adroddiad wedyn yn dod yn ôl gerbron y Pwyllgor unwaith
y byddai eglurder ynghylch y mater hwn.
Tynnodd Duncan Hall sylw at yr
hyn oedd wedi’i gynnwys ym mharagraff
14.20:
‘Dylai rôl y pwyllgor
llywodraethu ac archwilio ymwneud yn fwy â cheisio sicrwydd bod systemau rheoli
cyllideb (fel rheolaeth fewnol) y cyngor yn gweithio, yn hytrach na chraffu ar
wariant. Gall hyn fod yn ffin dderbyniol rhwng rôl y pwyllgor llywodraethu ac
archwilio a rôl pwyllgor trosolwg a chraffu.’
CYTUNWYD i
nodi cynnwys yr adroddiad a rhannau perthnasol y Canllawiau.
Dogfennau ategol: