Eitem Agenda

Adroddiadau’r Rheoleiddwyr ac Arolygiaeth ac Ymatebion y Cyngor

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiadau’r Rheoleiddwyr a’r Arolygiaeth ac ymatebion y Cyngor. 

 

Dywedodd Jason Blewitt o Archwilio Cymru fod Datganiad Cyfrifon y Cyngor ar gyfer 2022-23 bellach wedi’i gwblhau a bod disgwyl y byddai’n cael ei adrodd gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cyngor llawn ar 6 Chwefror 2024 cyn y byddai’n cael ei gymeradwyo gan yr Archwilydd Cyffredinol ar 7 Chwefror 2024. Roedd Datganiadau Blynyddol Harbyrau Ceredigion, Tyfu Canolbarth Cymru a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig bellach hefyd wedi’u cwblhau, a byddent yn cael eu hadrodd gerbron yr amrywiol bwyllgorau cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan yr Archwilydd Cyffredinol ar 7 Chwefror 2024.  Roedd y gwaith o archwilio Grantiau a Ffurflenni 2022-23 yn mynd rhagddo ac roedd y Cyngor yn gobeithio cwblhau’r gwaith hwn erbyn diwedd Chwefror 2024.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y problemau o ran adnoddau yn rhengoedd Archwilio Cymru bellach wedi’u datrys, a chadarnhaodd Mr Jason Blewitt eu bod bellach wedi llwyddo i ddal i fyny â’r gwaith a’u bod yn mewn sefyllfa i ddilyn y cynllun 3 blynedd hyd at 2024-25. Bwriad Archwilio Cymru oedd cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon nesaf erbyn 30 Tachwedd 2024 a’r un ar ôl hynny erbyn 30 Medi 2025, yn ddibynnol ar amserlen y Cyngor.

 

Dywedodd Non Jenkins o Archwilio Cymru y byddent yn darparu diweddariad ynghylch y gwaith Archwilio Perfformiad yn fuan a chadarnhaodd eu bod wedi cwblhau’r gwaith Sicrwydd ac Asesu Risgiau ar gyfer 2022-23 a’u bod bellach yn gwneud gwaith 2023-24. Byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. O ran yr adolygiad thematig ynghylch Gofal Heb ei Drefnu, nododd fod hwn yn ddarn mawr o waith a oedd bellach bron â chael ei gwblhau ac ymddiheurodd am yr oedi wrth gyflawni’r gwaith hwn. Dywedodd fod yr adroddiadau ynglŷn â’r adolygiad thematig Digidol a’r gwaith dilynol o ran yr adolygiad cynllunio wedi’u cynnwys ar agenda’r cyfarfod heddiw, a bod y gwaith o ran Sicrwydd ac Asesu Risg, Cynaliadwyedd Ariannol a Chomisiynu a Rheoli Contractau yn mynd rhagddo.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’r argymhelliad yn sgil yr adolygiad ynghylch sicrwydd digidol yn berthnasol i bob Cyngor. Cadarnhawyd bod yr archwiliad yn cael ei gymedroli ar draws pob un o’r 22 awdurdod. Fodd bynnag, byddai’r canfyddiadau allweddol yn cael eu cyhoeddi ar ffurf crynodeb a fyddai’n cynnwys y canfyddiadau allweddol, yr argymhellion a’r arferion gorau. Hefyd, dywedodd Non Jenkins fod Archwilio Cymru yn falch bod ymatebion y Cyngor i’w sylwadau yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r argymhellion.

 

Rhoddodd Elin Prysor ddiweddariad am y gwaith a oedd wedi’i gyhoeddi ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynglŷn â risgiau lleol a nododd y canlynol:

·       Ar y cyfan, nid oedd yr adroddiad ynghylchCraciau yn y Sylfeiniyn berthnasol i Geredigion;

·       Mawrth 2024 oedd y dyddiad cwblhau ar gyfer yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb;

·       6 Rhagfyr 2023 oedd y dyddiad cau o ran ‘Llamu Ymlaen’ felly byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno yn un o gyfarfodydd y dyfodol;

·       Roedd gwaith ar y gweill o ran ‘Gosod yr Amcanion Llesiant’ a ‘Tlodi yng Nghymrua'r bwriad oedd cyflwyno’r adroddiadau hyn i’r Pwyllgor ym mis Medi.

Gofynnodd Mr Andrew Blackmore pam nad oedd y dyddiadau targed wedi’u cyrraedd. Cadarnhaodd Elin Prysor nad oedd hyn yn adlewyrchiad o’r cynnydd yr oedd y gwasanaeth yn ei wneud. Fodd bynnag, weithiau roedd angen cael eglurhad ynghylch yr ymatebion, ac nid oedd digon o amser i gyflwyno adroddiad os oedd y dyddiad cau ym mis Rhagfyr a’r cyfarfod ym mis Ionawr, a hynny oherwydd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau i’r Pwyllgor. Dywedodd Mr Andrew Blackmore y gallai diweddariad ar lafar fod yn ddefnyddiol mewn amgylchiadau o’r fath. 

Nododd Elin Prysor nad oedd nifer o’r camau gweithredu o’r Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn berthnasol a bod yr adroddiad hwn bron wedi’i gwblhau.  Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod yn hapus cau’r eitem hon gan fod y camau gweithredu wedi’u cwblhau. Dywedodd Elin Prysor fod rhan fwyaf y camau gweithredu yn yr adroddiadLlamu Ymlaenwedi’u cwblhau, ac eithrio’r ffaith bod dyddiad diwygiedig wedi’i nodi ar gyfer adolygu’r trefniadau gweithio hybrid. Ychwanegodd fod y camau gweithredu o ran ‘Gosod yr Amcanion Llesianthefyd ar fin cael eu cwblhau ac y byddai’n cynnwys argymhelliad ynglŷn â gwaith wedi’i dargedu a fyddai’n parhau. Dywedodd Mr Alan Davies y byddai angen cau’r eitemau hyn a’r adolygiad Digidol yn iawn ym mis Mawrth.

 

Dywedodd Elin Prysor y byddai angen gwneud cryn dipyn o waith o ran yr adroddiadauTlodi yng Nghymru’ a ‘Mentrau Cymdeithasol’ ac y gallai hynny olygu na fyddent yn barod erbyn y dyddiad targed a roddwyd yn y lle cyntaf sef Mawrth 2024. Ychwanegodd y gallent gael eu cyflwyno yn y cyfarfod ym mis Mai neu ym mis Mehefin.

 

Gofynnodd Mr Alan Davies pam nad oedd yna ffurflen ymateb oddi wrth y rheolwyr ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cadarnhawyd mai endid ar wahân oedd y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Dywedodd Mr Alan Davies fod angen i Aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio godi eu llais yn uwch i fynegi eu hanfodlonrwydd nad oedd is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r                   Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi cwrdd hyd yma a bod nifer o gyfarfodydd wedi eu canslo am wahanol resymau. Dywedodd Elin Prysor fod y sylwadau a wnaed gan y Cadeirydd yn y sesiynau briffio wedi cael eu trosglwyddo.

CYTUNWYD i wneud y canlynol:

1)    Nodi adroddiadau a diweddariadau’r Rheoleiddwyr a’r Arolygiaeth 

2)    Nodi ymateb y Cyngor (Ffurflenni ymateb y rheolwyr / y sefydliad)

 

Dogfennau ategol: