Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan
Davies, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/2025 (Atodiad A).
Dywedodd yr Arweinydd fod hon yn sefyllfa ariannol eithriadol o anodd sy'n
wynebu'r Cyngor gyda phwysau ariannol sylweddol.
Cyflwynodd Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a
Chaffael, y Cynghorydd Gareth Davies, y wybodaeth sy'n weddill yn Atodiad A yr
adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Davies hefyd mai dyma'r sefyllfa ariannol
waethaf y mae wedi ei hwynebu o bell ffordd fel Cynghorydd wrth bennu'r
gyllideb.
Yna rhoddodd Duncan Hall,
Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael, ddiweddariad llafar byr o
ran sefyllfa ddiweddaraf y Gyllideb.
Yna rhoddodd Aelodau’r Cabinet yn eu tro wybodaeth fanwl am Atodiadau B
ac C a’r cynigion penodol o ran arbedion a ddangosir yn Atodiad D, fel a
ganlyn:
D1 – Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol
Aelod Cabinet a Phortffolio Cabinet:
Y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli
Carbon
Y Targed o ran Lleihau Costau / Gwneud Arbedion 2024/25: £1.576m
Y gyllideb bresennol: £19.4m
D2 – Economi ac Adfywio
Aelod Cabinet a Phortffolio Cabinet:
Y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi
ac Adfywio
Y Targed o ran Lleihau Costau / Gwneud Arbedion 2024/25: £255k (rhan o’r £419k o ostyngiadau arfaethedig ar
gyfer Gwasanaeth yr Economi ac Adfywio)
Y gyllideb bresennol: £4.0m
Yna ystyriodd
yr Aelodau Atodiad E, Ffioedd a Chostau yn ymwneud â'r Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu Cymunedau Ffyniannus, tudalennau 17-42 papurau'r agenda.
Yna ystyriodd
yr aelodau Atodiad F ac Atodiad G.
Yn dilyn
trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau'r Pwyllgor ystyried yr argymhellion canlynol.
Argymhellion:
O ran y
gwasanaethau sydd yng nghylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn,
gofynnir i’r Aelodau:
1.
Ystyried y canlynol:
a) sefyllfa gyffredinol cyllideb ddrafft 24/25.
b) yr elfennau perthnasol o ran y symudiadau yn y Gyllideb Refeniw.
c) yr elfennau perthnasol yng nghyswllt y pwysau o ran costau yn y Gyllideb
Refeniw.
d) yr elfennau perthnasol o ran y cynigion ynghylch gwneud arbedion yn y
Gyllideb Refeniw.
e) yr elfennau perthnasol o ran y cynigion ynghylch Ffioedd a Chostau.
f) cynnig y Cabinet ynghylch Premiymau Treth y Cyngor.
g) yr elfennau perthnasol o ran y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn.
2.
Gwneud unrhyw argymhellion
y mae’r Pwyllgor yn credu sy’n briodol yng nghyswllt y Gyllideb, er mwyn i’r
Cabinet eu hystyried ar 20/02/24.
Rheswm dros yr argymhellion:
Er mwyn
cynorthwyo â pharatoi cyllideb gytbwys, sicrhau bod y gyllideb gyffredinol sy’n
cael ei chynnig yn cael ei chraffu’n briodol a gwneud argymhellion, fel y bo’n
briodol, i’r Cabinet eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 20/02/24.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau'r Pwyllgor
eu bod wedi ystyried yr argymhellion uchod ac wedi cytuno i argymell bod y
Cabinet yn:
1. Nid yw'r cynnig i gael gwared ar gasgliad ar
wahân/penodedig Cynhyrchion Hylendid Amsugnol yn cael ei ystyried fel rhan o'r
arbedion arfaethedig;
2. Cynhelir Asesiadau Effaith Integredig o ran y
cynigion a nodwyd ar gyfer lleihau costau / arbedion;
Rhoddir rhagor o fanylion am y cynigion a nodwyd ar gyfer lleihau costau/arbedion e.e. cynnig y cyfleusterau cyhoeddus a'r cynnig i gyfyngu ar nifer y bagiau du a gesglir o bob aelwyd.
Dogfennau ategol: