Eitem Agenda

Adroddiad am Gyllideb ddrafft 24/25

Cofnodion:

Amlinellodd y Cynghorydd Caryl Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor, drefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael, Aelodau'r Pwyllgor, gweddill Aelodau'r Cabinet, Aelodau nad ydynt yn aelodau o'r Pwyllgor a Swyddogion i'r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/2025. Dywedodd yr Arweinydd fod hon yn sefyllfa ariannol eithriadol o anodd sy'n wynebu'r Cyngor gyda phwysau ariannol sylweddol. Dywedodd nad yw erioed wedi gwybod sefyllfa ariannol mor heriol yn ystod ei gyfnod fel Cynghorydd gan mai dim ond cynnydd 2.6% a gafodd Ceredigion yn y setliad drafft 24/25 gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd wrth Aelodau'r Pwyllgor ei fod wedi cyfarfod â rhai Cynghorau Tref a Chymuned i drafod y sefyllfa ariannol a bod rhagor o gyfarfodydd wedi'u trefnu'r wythnos nesaf.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael, y Cynghorydd Gareth Davies, y wybodaeth sy'n weddill yn yr adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Davies hefyd mai dyma'r sefyllfa ariannol waethaf y mae wedi ei hwynebu o bell ffordd fel Cynghorydd wrth bennu'r gyllideb.

 

Dywedwyd bod meysydd o Atodiad A papurau’r agenda y gallai'r pwyllgor hwn fod am eu hystyried fel a ganlyn:

 

a) Adran 3 - Canlyniad Setliad Dros Dro 24/25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion.

b) Adran 4 – Ystyriaethau Cyllideb lefel uchel gan gynnwys:

Adran 4b) - Cyfanswm lefel y Pwysau o ran Costau ar y Gyllideb Refeniw.

Adran 4d) - Cyfanswm lefel y cynigion ar gyfer Lleihau’r Gyllideb Refeniw.

Adran 4f) - Cynnig y Cabinet ar Bremiymau Treth y Cyngor

Adran 4g) - Sefyllfa bosibl Treth y Cyngor

c) Adran 5 – Gofyniad y Gyllideb Ddrafft

d) Adran 6 – Risgiau’r Gyllideb

e) Adran 7 – Rhaglen Gyfalaf Aml-Flwyddyn arfaethedig

f) Adran 8 – Cydnerthedd ariannol (gan gynnwys Cronfeydd wrth Gefn a Balansau Cyffredinol)

g) Adran 9 – Rhagolwg ariannol Tymor Canolig

h) Yr 11 Argymhelliad y cytunwyd arnynt gan y Cabinet ar 23/01/24.

i) Unrhyw fater arall ynghylch y Gyllideb y mae’r Pwyllgor yn ei ystyried yn briodol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 24/25 yw'r ‘llymaf a’r fwyaf poenus ers datganoli’. Dim ond cynnydd 2.6% yn y cyllid y mae Ceredigion wedi'i gael (14eg o'r 22 Awdurdod Lleol), mae hyn hefyd yn cyfateb i Geredigion yn cael y cynnydd isaf y pen o'r boblogaeth ar draws Cymru gyfan. Felly dyma hefyd Gyllideb fwyaf llwm Cyngor Sir Ceredigion eto sy’n waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol ac yn llai na’r 3.1% y cyfeiriwyd ato gan Lywodraeth Cymru yn yr Hydref.

 

Y pennawd ynghylch Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol yn Lloegr oedd bod cynnydd cyffredinol o 6.5% mewn cyllid gyda £1 biliwn o gyllid grant ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol o'i gymharu â 23/24. Gan fod Llywodraeth Cymru yn weinyddiaeth ddatganoledig, mae ganddi’r rhyddid i ddefnyddio ei harian fel y myn. O ganlyniad mae nifer o benderfyniadau ynghylch polisïau gwahanol yn bodoli yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

 

Mae canlyniad Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol, ynghyd ag amryw o grantiau unigol penodol yn cael eu torri, yn ogystal â phwysau costau sylweddol iawn ar wasanaethau, nad ydynt yn dangos dim arwyddion o leihau, yn golygu nad yw bellach yn bosibl parhau i ddiogelu Gwasanaethau. Bellach mae penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud o ran y gyllideb fel rhan o’r pwyso a mesur ynghylch sut a lle i leihau costau gwasanaethau'r Cyngor, ochr yn ochr ag ystyried y lefel briodol o gyllid i'w godi drwy Dreth y Cyngor. 

 

Y pwyntiau allweddol a amlygwyd o'r adroddiad yw:

 

       Amcangyfrifir bod y pwysau o ran y costau refeniw diweddaraf y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yn £18.1m digynsail, sy'n cyfateb i ffactor chwyddiant penodol o 10.1% ar gyfer Ceredigion. Mae hyn yn cymharu â’r sefyllfa lle y mae chwyddiant yn gyffredinol yn rhedeg ar 3.9% (ffigwr CPI Tachwedd 2023). Felly mae angen dod o hyd i ddiffyg o £14.6m yn y gyllideb drwy gyfuniad o ystyriaethau ynghylch Gostyngiadau yn y Gyllideb a chodi Treth y Cyngor.

       Mae gofynion cystadleuol ar y Rhaglen Gyfalaf yn gwaethygu oherwydd gostyngiad mewn cyllid cyfalaf Craidd gan Lywodraeth Cymru. Mae lefel bresennol y cyllid cyfalaf craidd (£5.8m) yn dal yn is na'r hyn a gafwyd dros 15 mlynedd yn ôl ac mae'n cynrychioli toriad mewn termau real o £5.1m (neu bron i 50%) dros y cyfnod hwnnw.

       Bydd y gost o barhau i gyflawni polisi Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y Cyflog Byw Gwirioneddol (cynnydd o 10.1%) yn cael ei dalu i staff Gofal Cymdeithasol cofrestredig yn costio £0.9m ychwanegol i Geredigion ar gyfer 24/25. Dyma'r gost ychwanegol y tu hwnt i ariannu cynnydd sy'n gysylltiedig â'r Cyflog Byw Cenedlaethol ac mae'n rhan o gyfanswm pwysau’r costau amcangyfrifedig o £2.7m i ariannu chwyddiant sylfaenol ar wasanaethau Gofal Cymdeithasol a gomisiynwyd yn allanol (e.e. Gofal Cartref, Taliadau Uniongyrchol a lleoliadau preswyl i Bobl Hŷn).

       Mae'r galwadau a’r pwysau ar gyllidebau sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn parhau i gynyddu - cyfanswm o tua £6.2m ar ben dyfarniadau cyflog gweithwyr a darpariaethau o ran chwyddiant sylfaenol ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir yn allanol.

       Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i gynyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol (cynnydd o 9.7%) ond mae hefyd yn parhau i beidio â darparu unrhyw gyllid ar gyfer hyn. Felly mae disgwyl i ddyfarniadau cyflog gweithwyr ar gyfer 24/25, nad ydynt yn cael eu pennu gan Gyngor Sir Ceredigion, barhau i gynyddu. Gyda phwysau costau amcangyfrifedig o tua £4.8m, mae hwn yn newidyn sylweddol iawn o ran y gyllideb. Mae'r dull tuag at Gyflog i'r gwrthwyneb i'r hyn a brofwyd yn ystod y cyfnod cyni blaenorol, pan mai dull George Osbourne oedd gorfodi cyflogau, am sawl blwyddyn, i gael eu rhewi / gosod capiau cyflog o 1% arnynt, fel modd o reoli costau.

       Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae cynnydd sylweddol wedi'i gynnig gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer yr ardoll Tân sy'n rhan o Gyllideb Cyngor Sir Ceredigion. Byddai'r cynnig presennol yn arwain at gynnydd o 12% yng nghost ardoll tân presennol y Cyngor o £4.9m a byddai'n cyfateb i dros 1% ar Dreth y Cyngor.

       Mae effaith gudd ar y Gyllideb yn sgil gostyngiad yng nghyllid grantiau penodol Llywodraeth Cymru. Er enghraifft - mae toriad arfaethedig o dros 20% yng nghyllid y Gweithlu Gofal Cymdeithasol (colled ddangosol o £250k) yn ddryslyd ar adeg pan fo her sylweddol o ran recriwtio a chadw staff i’w gweld yn y sector Gofal Cymdeithasol.

       Er gwaethaf y setliad is na'r disgwyl, mae'r Cabinet yn dal i gynnig cynyddu Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig gan 3.1%, sef y senario a gyflwynwyd i Benaethiaid a Llywodraethwyr ddiwedd mis Medi diwethaf. 

       Mae'r Gofyniad drafft cyfredol ar y Gyllideb ar gyfer 24/25 yn gynnydd is (6.9%) na'r cynnydd yn y Gofyniad ar Gyllideb 23/24 (8.6%). Serch hynny, cynnydd o 2.6% yn unig a geir yn setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 24/25, o gymharu â 8.1% yn 23/24. 

       Lefel y Dreth Gyngor Band D bresennol yng Ngheredigion (i bob cydran) ar gyfer 23/24 yw £1,908, sydd ychydig yn uwch na’r Dreth Gyngor cyfartalog ar gyfer Band D yng Nghymru, sef £1,879. Mae lefelau Treth Gyngor cyfartalog yng Nghymru dal yn is na’r cyfartaledd cyfatebol ar gyfer Awdurdodau Unedol yn Lloegr (£2,139 ar gyfer 23/24). Mae elfen bresennol y Cyngor Sir o Dreth Gyngor Band D 23/24 gwerth £1,553.60.  

       Cytunodd y Cyngor yn ddiweddar i gynyddu premiymau Treth y Cyngor y gellir eu codi ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag hirdymor, yn weithredol o fis Ebrill 2024. Mae gan y penderfyniad hwn y potensial i gynorthwyo gyda Her y Gyllideb drwy osgoi cynnydd uwch eto yn Nhreth y Cyngor, os bydd yr Aelodau o’r un farn. 

       Mae'r Cabinet yn ymwybodol bod tua 85% o'r holl anheddau trethadwy yng Ngheredigion yn perthyn i Fandiau A i E. Mae ffigurau cyfredol Cyllideb ddrafft 24/25 yn nodi cynnydd posibl yn Nhreth y Cyngor (ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o ychydig yn fwy na £4 yr wythnos (neu £18 y mis) ar gyfer eiddo Band D. 

       Cadarnhawyd nad yw'n anghyfreithlon defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol, er ei fod yn cael ei gydnabod fel arfer gwael os nad yw ffyrdd eraill wedi'u harchwilio a'u hystyried yn y lle cyntaf. Rhoddodd Aelod y Cabinet a'r Swyddog Adran 151 eglurhad ar y polisi presennol ynghylch defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac atgoffodd yr Aelodau mai dim ond unwaith y gallwch ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

       Mae gwaith pellach yn mynd rhagddo i weld ymhle / os gellir gwneud gostyngiadau pellach yn y gyllideb i wella'r sefyllfa ymhellach. 

 

Mae'r broses Graffu ar y Gyllideb a chyfranogiad yr holl Aelodau yn rhan o'r broses hon. Mae'n amlwg iawn nad yw cynnydd o 2.6% yng nghyllid craidd Llywodraeth Cymru, ynghyd â thoriadau mewn cyllid grant penodol gan Lywodraeth Cymru, yn darparu agos ddigon o gyllid i allu delio â rhannau sylweddol o gyllideb y Cyngor sy’n amodol ar chwyddiant ymhell uwchlaw lefelau CPI ac mewn sawl maes yn cyrraedd lefelau digid dwbl. Golyga hyn fod her anferthol o ran y gyllideb ac na ellir canolbwyntio bellach ar wneud pethau'n wahanol ac mewn modd arloesol, yn unig. Mae angen i'r Cyngor wneud arbedion sylweddol yn y Gyllideb, ac y mae angen iddynt gynnwys lleihau ac mewn rhai achosion dileu gwasanaethau'n llwyr.

 

Yn anffodus, nid yw'r sefyllfa hon yn debygol o gael ei chyfyngu i'r flwyddyn ariannol nesaf yn unig, oherwydd mae'r rhagolygon o ran cyllid cyhoeddus yn y tymor canolig bellach yn edrych hyd yn oed yn fwy llwm, er y ffaith bod Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig i'w gynnal erbyn diwedd mis Ionawr 2025. Wrth symud ymlaen, mae angen i Gyngor Sir Ceredigion ail-werthuso ei bwrpas a'i berthynas â'i drigolion i gynnwys dull gweithredu sylfaenol sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau statudol craidd, wedi'u seilio ar lefelau priodol o ymyrraeth. Oni bai bod cyfnod newydd o rewi cyflogau a’r pwysau lleiaf posibl o ran costau Gofal Cymdeithasol, yna yn absenoldeb ail-werthuso ei bwrpas a'i ddull gweithredu, mae Cyngor Sir Ceredigion yn debygol iawn o fod yn anghynaladwy yn ariannol yn y tymor canolig.

 

Yna rhoddodd Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael, ddiweddariad byr ar lafar ar sefyllfa ddiweddaraf y Gyllideb fel a ganlyn:

o   O ganlyniad i gyhoeddiad o £600m i Gynghorau Lloegr ar 24/01/24, deallwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cael swm canlyniadol Barnett o tua £25m.  Gallai hyn fod werth tua £600k i Geredigion - ond mae eto i'w gadarnhau.   Yn ogystal, mae'r gwaith newydd ddod i ben ar y broses gaffael ar gyfer contract gwastraff gweddilliol newydd y Cyngor.  Dywedir am hyn wrth y Cabinet ar 20/02/24 gyda chanlyniad dros dro o fudd ariannol o £300k.   Mae'r cyfuniad o'r ddau ffactor, unwaith y bydd wedi'i gadarnhau ac os caiff ei gadarnhau, yn werth tua 2% yn nhermau Treth y Cyngor.

o   Rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Pwyllgor fod llythyr wedi'i anfon at Lywodraeth Cymru gan Arweinydd y Cyngor sy'n cynnwys 12 pwynt lobïo.  Mae'r llythyr hwn bellach wedi'i rannu gyda holl Aelodau'r Cyngor.

o   Ail-gadarnhaodd DH raddfa’r her ariannol tymor canolig os yw cyllid y sector cyhoeddus yn cael ei gyfyngu i ddim mwy nag 1% o gynnydd blynyddol neu o bosibl yn waeth o 25/26 ymlaen.

 

Yna rhoddwyd cyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau a atebwyd yn eu tro gan yr Arweinydd, Aelod y Cabinet, neu'r Swyddog perthnasol.  Mae’r prif bwyntiau oedd yn codi fel a ganlyn:

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd y gellir cyflawni cyllideb fantoledig gadarn.

·       Dywedodd Aelod y bydd angen ymgynghori ar lawer o gynigion, o ystyried yr amserlen ar gyfer y gyllideb hon, gofynnodd pa mor hyderus oedd y Swyddog Adran 151 y bydd y rhain yn cael eu cyflawni?  Mewn ymateb, dywedwyd efallai na fydd dim arbedion i’r gyllideb yn 100% yn gyraeddadwy, ond bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r tebygolrwydd o gyflawni a'r cwantwm dan sylw. Dywedwyd y bydd angen i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol perthnasol sy'n gyfrifol am yr arbedion arfaethedig gael mandad gwleidyddol cyn gynted â phosibl os cytunir ar gynigion yr arbedion.

·       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod llythyrau ar eu cais wedi’u hanfon at bob Ysgol Gynradd ac Uwchradd yng Ngheredigion, gan roi'r dewis i Benaethiaid a Llywodraethwyr wahodd Staff (lle mae Ysgol yn ystyried ei bod yn briodol) i gyflwyno datganiad o ddiddordeb, mewn egwyddor, i archwilio'r opsiwn o ddiswyddo gwirfoddol.

·       Mewn ymateb i gwestiwn, dywedwyd wrth Aelodau'r Pwyllgor fod Arweinydd y Cyngor ac Aelodau'r Cabinet yn mynegi eu pryderon i Weinidogion a Dirprwy Weinidogion Llywodraeth Cymru ar bob cyfle.

·       Wrth symud ymlaen, mae angen i Gyngor Sir Ceredigion ail-werthuso ei bwrpas a'i berthynas â'i drigolion yn sylfaenol i gynnwys dull gweithredu sylfaenol sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau statudol craidd, wedi'u seilio ar lefelau priodol o ymyrraeth.

·       Awgrymwyd a chytunwyd gan Aelodau'r Pwyllgor y dylid cael eitem ar yr agenda yng nghyfarfod mis Gorffennaf i ystyried cyllideb y flwyddyn nesaf.

 

Yna, rhoddodd Aelodau'r Cabinet yn eu tro wybodaeth fanwl am symudiadau penodol y gyllideb fesul gwasanaeth, pwysau ar y gyllideb o ran costau a chynigion o safbwynt arbedion fesul gwasanaeth a ddangosir yn Atodiadau B, C a D.

 

D1 - Porth Cynnal

Aelod a Phortffolio’r Cabinet:

Y Cynghorydd Alun Williams

Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Llesiant

Y Targed ar gyfer Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £123k

Y Gyllideb ar hyn o bryd: £33.7m

 

D2 - Porth Gofal

Aelod a Phortffolio’r Cabinet:

Y Cynghorydd Alun Williams

Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Llesiant

Y Targed ar gyfer Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £996k

Y Gyllideb ar hyn o bryd: £15.5m

 

D3 - Porth Cymorth Cynnar

Aelod a Phortffolio’r Cabinet:

Y Cynghorydd Alun Williams – Aelod y Cabinet dros Gydol Oes a Llesiant

Y Cynghorydd Catrin MS Davies – Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Y Cynghorydd Matthew Vaux – Aelod y Cabinet dros Bartneriaeth, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd

Y Targed ar gyfer Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £ 222k

Y Gyllideb ar hyn o bryd: £4.1m

 

D4 - Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd (elfen Diogelu'r Cyhoedd)

Aelod a Phortffolio’r Cabinet:

Y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet dros Bartneriaethau, Tai,

Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu'r Cyhoedd

Y Targed ar gyfer Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £64k (allan o £70k ar gyfer Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd)

Y Gyllideb ar hyn o bryd: £2.5m

 

Yna, ystyriodd yr Aelodau Atodiad E, Ffioedd a Chostau yn ymwneud â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach, tudalennau 1-49 papurau’r agenda.

 

Yna ystyriodd yr Aelodau Atodiad F, cynnig y Cabinet ar Bremiymau Treth y Cyngor. 

Y prif bwyntiau oedd yn codi o'r drafodaeth yw:

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn, esboniwyd pam fod canran y chwyddiant yn 10.1%. 180 miliwn yw’r gyllideb, 18.1 miliwn yw’r pwysau o ran costau, dyna pam mae chwyddiant yn 10.1%.

·       Codwyd cwestiwn ynghylch yr her a wynebir gan yr Awdurdod Lleol i gadw staff Gofal Cymdeithasol presennol a allai gael eu cymell i ddod yn Staff Asiantaeth, ac felly'n cael cyflog uwch.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod pecyn cyflogaeth cyfan yr Awdurdod yn llawer gwell gan fod gwerth ychwanegol cynllun pensiwn ynghyd â llawer o fuddion eraill.

·       Cadarnhawyd bod Ceredigion wedi'i chofrestru ar y gwasanaeth micro-fenter a chytunwyd y byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Pwyllgor Cymunedau Iachach yn ei gyfarfod Hydref.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â'r Gwasanaeth Gofal i Ofalwyr a'r adolygiad o ofalwyr sy'n cael y gwasanaeth hwn, cadarnhawyd bod llawer o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn cael pyliau ailadroddus y tu allan i'r cyfnod o chwe wythnos a ddyrannwyd. Mae cyfle i ystyried anghenion y gofalwyr hyn ochr yn ochr â'r Gwasanaethau Dydd a'r Adolygiad Seibiant. Nid yw hwn yn wasanaeth statudol.

·       Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau sy'n gysylltiedig â phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches yn cael eu gosod yng Ngheredigion gan y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol, cadarnhawyd bod y nifer wedi cyflymu yn ystod 2023/2024 a bod arwyddion bod y nifer yn debygol iawn o gynyddu yn 2024/2025.  Nid yw'r Swyddfa Gartref yn talu am yr holl gostau.

·       Cadarnhawyd bod sgyrsiau yn parhau gyda'r Bwrdd Iechyd, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch diweddariad mewn perthynas â gwneud y defnydd gorau o Hafan y Waun.

·       Cadarnhawyd bod gweithdy Adolygu Gwasanaethau Dydd a Gwasanaethau Seibiant i Aelodau yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Padarn ar Chwefror yr 22ain 2024,

·       Gofynnodd Aelod pa mor hyderus yw'r Cabinet bod modd cyflawni'r gyllideb?  Mewn ymateb, dywedwyd efallai na fydd dim arbedion i’r gyllideb yn 100% yn gyraeddadwy, ond bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r tebygolrwydd o gyflawni a'r cwantwm dan sylw. Cadarnhawyd y gellir cyflawni cyllideb fantoledig gadarn.

·       Dywedwyd y bydd angen i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol perthnasol sy'n gyfrifol am yr arbedion arfaethedig gael mandad gwleidyddol cyn gynted â phosibl er mwyn dechrau ymgynghori lle bo angen.

·       O ran cynnig yr Arbedion Tai, Atodiad D3, Porth Cymorth Cynnar, rhif pwynt 2, tudalen 140, gellir ond cyflawni'r cynnig hwn oherwydd cyllid cyfalaf untro y mae'n rhaid ei wario erbyn mis Medi 2024.

·       Cadarnhawyd y bydd y ddyletswydd cŵn crwydr yn cael ei hintegreiddio i'r tîm diogelu’r cyhoedd sy’n bodoli eisoes.

 

 

 

 

 

 

Yn dilyn trafodaeth, CYTUNODD yr Aelodau eu bod wedi ystyried yr argymhellion canlynol:

         

ARGYMHELLION:

Ar gyfer y Gwasanaethau priodol sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn:

1. Ystyried:

a) sefyllfa gyffredinol cyllideb ddrafft 24/25.

b) elfennau perthnasol Symudiadau’r Gyllideb Refeniw.

c) elfennau perthnasol Pwysau Costau'r Gyllideb Refeniw.

d) elfennau perthnasol y Cynigion i Leihau’r Gyllideb Refeniw.

e) elfennau perthnasol cynigion y Ffioedd a Chostau.

f) cynnig y Cabinet ar Bremiymau Treth y Cyngor.

g) elfennau perthnasol y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn.

2. Gwneud argymhelliad/argymhellion i'r Cabinet eu hystyried ar 20/02/24, fel y mae'r Pwyllgor yn ei ystyried yn briodol, mewn perthynas â'r Gyllideb.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau'r Pwyllgor eu bod wedi ystyried yr argymhellion uchod a gwnaethant gytuno i argymell bod y Cabinet yn:

 

1.    Archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio Meysydd Parcio Ysgolion ar gyfer defnyddwyr y Canolfannau Lles, yn enwedig yn Llanbedr Pont Steffan, gan fod lleoedd parcio yn gyfyngedig iawn ac yn broblemus. Mae defnyddwyr wedi dweud eu bod, oherwydd y broblem hon, wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r cyfleusterau. 

 

RHESWM DROS YR ARGYMHELLION: Cynorthwyo gyda pharatoi cyllideb fantoledig, sicrhau craffu priodol ar y Gyllideb gyffredinol sy'n cael ei chynnig ac i wneud argymhelliad/argymhellion, fel y bo'n briodol, i'r Cabinet eu hystyried yn eu cyfarfod nesaf ar 20/02/24.

 

Diolchodd y Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor i'r Swyddogion am eu gwaith caled wrth baratoi papurau'r agenda.

 

 

Dogfennau ategol: