Cofnodion:
Amlinellodd y
Cynghorydd Rhodri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor, drefn y cyfarfod a chroesawodd
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y
Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael, Aelodau'r Pwyllgor, gweddill Aelodau'r
Cabinet, Aelodau nad ydynt yn aelodau o'r Pwyllgor a Swyddogion i'r cyfarfod.
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan
Davies, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/2025. Dywedodd yr
Arweinydd fod hon yn sefyllfa ariannol eithriadol o anodd sy'n wynebu'r Cyngor
gyda phwysau ariannol sylweddol. Dywedodd nad yw erioed wedi gwybod sefyllfa
ariannol mor heriol yn ystod ei gyfnod fel Cynghorydd gan mai dim ond cynnydd
2.6% a gafodd Ceredigion yn y setliad drafft 24/25 gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd wrth Aelodau'r
Pwyllgor ei fod wedi cyfarfod â rhai Cynghorau Tref a Chymuned i drafod y
sefyllfa ariannol a bod ganddo ragor o gyfarfodydd wedi'u trefnu'r wythnos
nesaf.
Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Gyllid a Chaffael, y Cynghorydd Gareth Davies, y wybodaeth sy'n weddill yn
yr adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Davies hefyd mai dyma'r sefyllfa ariannol
waethaf y mae wedi ei hwynebu o bell ffordd fel Cynghorydd wrth bennu'r
gyllideb.
Dywedwyd bod meysydd o
Atodiad A papurau’r agenda y gallai'r pwyllgor hwn fod am eu hystyried fel a
ganlyn:
a) Adran 3 - Canlyniad
Setliad Dros Dro 24/25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion.
b) Adran 4 – Ystyriaethau
Cyllideb lefel uchel gan gynnwys:
• Adran 4b) - Cyfanswm lefel y
Pwysau o ran Costau ar y Gyllideb Refeniw.
• Adran 4d) - Cyfanswm lefel y
cynigion ar gyfer Lleihau’r Gyllideb Refeniw.
• Adran 4f) - Cynnig y Cabinet
ar Bremiymau Treth y Cyngor
• Adran 4g) - Sefyllfa bosibl
Treth y Cyngor
c) Adran 5 – Gofyniad y
Gyllideb Ddrafft
d) Adran 6 – Risgiau’r
Gyllideb
e) Adran 7 – Rhaglen Gyfalaf
Aml-Flwyddyn arfaethedig
f) Adran 8 – Cydnerthedd ariannol (gan gynnwys Cronfeydd wrth Gefn a Balansau Cyffredinol)
g) Adran 9 – Rhagolwg
ariannol Tymor Canolig
h) Yr 11 Argymhelliad y
cytunwyd arnynt gan y Cabinet ar 23/01/24.
i) Unrhyw fater arall ynghylch y Gyllideb y mae’r Pwyllgor yn ei ystyried
yn briodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi
datgan yn agored mai ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 24/25 yw'r ‘llymaf a’r fwyaf
poenus ers datganoli’. Dim ond cynnydd 2.6% yn y cyllid y mae Ceredigion wedi'i
gael (14eg o'r 22 Awdurdod Lleol), mae hyn hefyd yn cyfateb i Geredigion yn
cael y cynnydd isaf y pen o'r boblogaeth ar draws Cymru gyfan. Felly dyma hefyd
Gyllideb fwyaf llwm Cyngor Sir Ceredigion eto sy’n waeth nag a ragwelwyd yn
flaenorol ac yn llai na’r 3.1% y cyfeiriwyd ato gan Lywodraeth Cymru yn yr
Hydref.
Y pennawd ynghylch Setliad
Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol yn Lloegr oedd bod cynnydd cyffredinol o
6.5% mewn cyllid gyda £1 biliwn o gyllid grant ychwanegol ar gyfer Gofal
Cymdeithasol o'i gymharu â 23/24. Gan fod Llywodraeth Cymru yn weinyddiaeth ddatganoledig,
mae ganddi’r rhyddid i ddefnyddio ei harian fel y myn. O ganlyniad mae nifer o
benderfyniadau ynghylch polisïau gwahanol yn bodoli yng Nghymru o gymharu â
Lloegr.
Mae canlyniad Setliad
Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol, ynghyd ag amryw o grantiau unigol penodol
yn cael eu torri, yn ogystal â phwysau costau sylweddol iawn ar wasanaethau,
nad ydynt yn dangos dim arwyddion o leihau, yn golygu nad yw bellach yn bosibl
parhau i ddiogelu Gwasanaethau. Bellach mae penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud
o ran y gyllideb fel rhan o’r pwyso a mesur ynghylch sut a lle i leihau costau
gwasanaethau'r Cyngor, ochr yn ochr ag ystyried y lefel briodol o gyllid i'w
godi drwy Dreth y Cyngor.
Y pwyntiau allweddol a
amlygwyd o'r adroddiad yw:
• Amcangyfrifir bod y pwysau o ran y costau
refeniw diweddaraf y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yn £18.1m digynsail, sy'n
cyfateb i ffactor chwyddiant penodol o 10.1% ar gyfer Ceredigion. Mae hyn yn
cymharu â’r sefyllfa lle y mae chwyddiant yn gyffredinol yn rhedeg ar 3.9% (ffigwr
CPI Tachwedd 2023). Felly mae angen dod o hyd i ddiffyg o £14.6m yn y gyllideb
drwy gyfuniad o ystyriaethau ynghylch Gostyngiadau yn y Gyllideb a chodi Treth
y Cyngor.
• Mae gofynion cystadleuol ar y Rhaglen Gyfalaf
yn gwaethygu oherwydd gostyngiad mewn cyllid cyfalaf Craidd gan Lywodraeth
Cymru. Mae lefel bresennol y cyllid cyfalaf craidd (£5.8m) yn dal yn is na'r
hyn a gafwyd dros 15 mlynedd yn ôl ac mae'n cynrychioli toriad mewn termau real
o £5.1m (neu bron i 50%) dros y cyfnod hwnnw.
• Bydd y gost o barhau i gyflawni polisi
Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y Cyflog Byw Gwirioneddol (cynnydd o 10.1%) yn
cael ei dalu i staff Gofal Cymdeithasol cofrestredig yn costio £0.9m ychwanegol
i Geredigion ar gyfer 24/25. Dyma'r gost ychwanegol y tu hwnt i ariannu cynnydd
sy'n gysylltiedig â'r Cyflog Byw Cenedlaethol ac mae'n rhan o gyfanswm pwysau’r
costau amcangyfrifedig o £2.7m i ariannu chwyddiant
sylfaenol ar wasanaethau Gofal Cymdeithasol a gomisiynwyd yn allanol (e.e.
Gofal Cartref, Taliadau Uniongyrchol a lleoliadau preswyl i Bobl Hŷn).
• Mae'r galwadau a’r pwysau ar gyllidebau
sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn parhau i gynyddu - cyfanswm o tua £6.2m ar
ben dyfarniadau cyflog gweithwyr a darpariaethau o ran chwyddiant sylfaenol ar
gyfer gwasanaethau a gomisiynir yn allanol.
• Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau
i gynyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol (cynnydd o 9.7%) ond mae hefyd yn parhau i
beidio â darparu unrhyw gyllid ar gyfer hyn. Felly mae disgwyl i ddyfarniadau
cyflog gweithwyr ar gyfer 24/25, nad ydynt yn cael eu pennu gan Gyngor Sir
Ceredigion, barhau i gynyddu. Gyda phwysau costau amcangyfrifedig
o tua £4.8m, mae hwn yn newidyn sylweddol iawn o ran y gyllideb. Mae'r dull
tuag at Gyflog i'r gwrthwyneb i'r hyn a brofwyd yn ystod y cyfnod cyni
blaenorol, pan mai dull George Osbourne oedd gorfodi
cyflogau, am sawl blwyddyn, i gael eu rhewi / gosod capiau cyflog o 1% arnynt,
fel modd o reoli costau.
• Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae cynnydd
sylweddol wedi'i gynnig gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer
yr ardoll Tân sy'n rhan o Gyllideb Cyngor Sir Ceredigion. Byddai'r cynnig
presennol yn arwain at gynnydd o 12% yng nghost ardoll tân presennol y Cyngor o
£4.9m a byddai'n cyfateb i dros 1% ar Dreth y Cyngor.
• Mae effaith gudd ar y Gyllideb yn sgil
gostyngiad yng nghyllid grantiau penodol Llywodraeth Cymru. Er enghraifft - mae
toriad arfaethedig o dros 20% yng nghyllid y Gweithlu Gofal Cymdeithasol
(colled ddangosol o £250k) yn ddryslyd ar adeg pan fo her sylweddol o ran
recriwtio a chadw staff i’w gweld yn y sector Gofal Cymdeithasol.
• Er gwaethaf y setliad is na'r disgwyl,
mae'r Cabinet yn dal i gynnig cynyddu Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig gan 3.1%,
sef y senario a gyflwynwyd i Benaethiaid a Llywodraethwyr ddiwedd mis Medi
diwethaf.
• Mae'r Gofyniad drafft cyfredol ar y
Gyllideb ar gyfer 24/25 yn gynnydd is (6.9%) na'r cynnydd yn y Gofyniad ar
Gyllideb 23/24 (8.6%). Serch hynny, cynnydd o 2.6% yn unig a geir yn setliad
Llywodraeth Cymru ar gyfer 24/25, o gymharu â 8.1% yn 23/24.
• Lefel y Dreth Gyngor Band D bresennol yng
Ngheredigion (i bob cydran) ar gyfer 23/24 yw £1,908, sydd ychydig yn uwch na’r
Dreth Gyngor cyfartalog ar gyfer Band D yng Nghymru, sef £1,879. Mae lefelau
Treth Gyngor cyfartalog yng Nghymru dal yn is na’r cyfartaledd cyfatebol ar
gyfer Awdurdodau Unedol yn Lloegr (£2,139 ar gyfer 23/24). Mae elfen bresennol y Cyngor Sir o Dreth Gyngor Band D 23/24 gwerth
£1,553.60.
• Cytunodd y Cyngor yn ddiweddar i gynyddu
premiymau Treth y Cyngor y gellir eu codi ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag
hirdymor, yn weithredol o fis Ebrill 2024. Mae gan y penderfyniad hwn y
potensial i gynorthwyo gyda Her y Gyllideb drwy osgoi cynnydd uwch eto yn
Nhreth y Cyngor, os bydd yr Aelodau o’r un farn.
•
Mae'r Cabinet yn ymwybodol
bod tua 85% o'r holl anheddau trethadwy yng Ngheredigion yn perthyn i Fandiau A
i E. Mae ffigurau cyfredol Cyllideb ddrafft 24/25 yn nodi cynnydd posibl yn
Nhreth y Cyngor (ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o ychydig yn fwy na £4 yr
wythnos (neu £18 y mis) ar gyfer eiddo Band D.
•
Cadarnhawyd
nad yw'n anghyfreithlon defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol, er ei fod yn
cael ei gydnabod fel arfer gwael os nad yw ffyrdd eraill wedi'u harchwilio a'u
hystyried yn y lle cyntaf. Rhoddodd Aelod y Cabinet a'r Swyddog Adran 151
eglurhad ar y polisi presennol ynghylch defnyddio cronfeydd wrth gefn
cyffredinol ac atgoffodd yr Aelodau mai dim ond unwaith y gallwch ddefnyddio
cronfeydd wrth gefn.
• Mae gwaith pellach yn mynd rhagddo i weld
ymhle / os gellir gwneud gostyngiadau pellach yn y gyllideb i wella'r sefyllfa
ymhellach.
Mae'r broses Graffu ar y
Gyllideb a chyfranogiad yr holl Aelodau yn rhan o'r broses hon. Mae'n amlwg
iawn nad yw cynnydd o 2.6% yng nghyllid craidd Llywodraeth Cymru, ynghyd â
thoriadau mewn cyllid grant penodol gan Lywodraeth Cymru, yn darparu agos
ddigon o gyllid i allu delio â rhannau sylweddol o gyllideb y Cyngor sy’n
amodol ar chwyddiant ymhell uwchlaw lefelau CPI ac mewn sawl maes yn cyrraedd
lefelau digid dwbl. Golyga hyn fod her anferthol o ran y gyllideb ac na ellir
canolbwyntio bellach ar wneud pethau'n wahanol ac mewn modd arloesol, yn unig.
Mae angen i'r Cyngor wneud arbedion sylweddol yn y Gyllideb, ac y mae angen
iddynt gynnwys lleihau ac mewn rhai achosion dileu gwasanaethau'n llwyr.
Yn anffodus, nid yw'r
sefyllfa hon yn debygol o gael ei chyfyngu i'r flwyddyn ariannol nesaf yn unig,
oherwydd mae'r rhagolygon o ran cyllid cyhoeddus yn y tymor canolig bellach yn
edrych hyd yn oed yn fwy llwm, er y ffaith bod Etholiad Cyffredinol y Deyrnas
Unedig i'w gynnal erbyn diwedd mis Ionawr 2025. Wrth symud ymlaen, mae angen i
Gyngor Sir Ceredigion ail-werthuso ei bwrpas a'i berthynas â'i drigolion i
gynnwys dull gweithredu sylfaenol sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau
statudol craidd, wedi'u seilio ar lefelau priodol o ymyrraeth. Oni bai bod
cyfnod newydd o rewi cyflogau a’r pwysau lleiaf posibl o ran costau Gofal
Cymdeithasol, yna yn absenoldeb ail-werthuso ei bwrpas a'i ddull gweithredu,
mae Cyngor Sir Ceredigion yn debygol iawn o fod yn anghynaladwy yn ariannol yn
y tymor canolig.
o
O ganlyniad i gyhoeddiad o
£600m i Gynghorau Lloegr ar 24/01/24, deallwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn
cael swm canlyniadol Barnett o tua £25m. Gallai hyn fod werth tua £600k i Geredigion -
ond mae
eto i'w gadarnhau. Yn ogystal, mae'r gwaith newydd
ddod i ben ar y broses gaffael ar gyfer contract gwastraff gweddilliol newydd y
Cyngor. Dywedir am hyn wrth y Cabinet ar
20/02/24 gyda chanlyniad dros dro o fudd ariannol o £300k. Mae'r cyfuniad o'r ddau ffactor, unwaith y
bydd wedi'i gadarnhau ac os caiff ei gadarnhau, yn werth tua 2% yn nhermau
Treth y Cyngor.
o
Rhoddwyd gwybod i
Aelodau'r Pwyllgor fod llythyr wedi'i anfon at Lywodraeth Cymru gan Arweinydd y
Cyngor sy'n cynnwys 12 pwynt lobïo.
Mae'r llythyr hwn bellach wedi'i rannu gyda holl Aelodau'r Cyngor.
o
Ail-gadarnhaodd DH
raddfa’r her ariannol tymor canolig os yw cyllid y sector cyhoeddus yn cael ei
gyfyngu i ddim mwy nag 1% o gynnydd blynyddol neu o bosibl yn waeth o 25/26
ymlaen.
Yna rhoddwyd cyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau a atebwyd yn eu tro gan yr
Arweinydd, Aelod y Cabinet, neu'r Swyddog perthnasol. Prif bwyntiau sy'n codi fel a ganlyn:
o Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd y gellir
cyflawni cyllideb fantoledig gadarn.
o Dywedodd Aelod y bydd angen ymgynghori ar lawer o
gynigion, o ystyried yr amserlen ar gyfer y gyllideb hon, gofynnodd pa mor
hyderus oedd y Swyddog Adran 151 y bydd y rhain yn cael eu cyflawni? Mewn ymateb, dywedwyd efallai na fydd dim
arbedion i’r gyllideb yn 100% yn gyraeddadwy, ond bod ystyriaeth yn cael ei
rhoi i'r tebygolrwydd o gyflawni a'r cwantwm dan sylw. Dywedwyd y bydd angen
i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol perthnasol sy'n gyfrifol am yr arbedion
arfaethedig gael mandad gwleidyddol cyn gynted â phosibl os cytunir ar gynigion
yr arbedion.
o
Mewn ymateb i gwestiwn, dywedwyd
wrth Aelodau'r Pwyllgor fod Arweinydd y Cyngor ac Aelodau'r Cabinet yn mynegi
eu pryderon i Weinidogion a Dirprwy Weinidogion Llywodraeth Cymru ar bob cyfle.
o
Wrth symud ymlaen, mae
angen i Gyngor Sir Ceredigion ail-werthuso ei bwrpas a'i berthynas â'i
drigolion yn sylfaenol i gynnwys dull gweithredu sylfaenol sy'n canolbwyntio ar
ddarparu gwasanaethau statudol craidd, wedi'u seilio ar lefelau priodol o
ymyrraeth.
D1 - Cyswllt Cwsmeriaid TGCh a
Digidol
Aelod a Phortffolio’r
Cabinet:
Y Cynghorydd Catrin M S
Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Y Targed ar gyfer
Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £283k
Y Gyllideb ar hyn o
bryd: £6.5m
D2 - Gwasanaethau Democrataidd
Aelod a Phortffolio’r
Cabinet:
Y Cynghorydd Bryan Davies, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth
Y Targed ar gyfer
Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £15k
Y Gyllideb ar hyn o
bryd: £5.0m (gan gynnwys Lwfansau Aelodau)
D3 - Economi ac Adfywio
Aelod a Phortffolio’r
Cabinet:
Y Cynghorydd Clive Davies,
Aelod y Cabinet dros yr Economi ac Adfywio
Y Targed ar gyfer
Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £164k (rhan o £419k o gyfanswm gostyngiadau
arfaethedig yr Economi ac Adfywio)
Y Gyllideb ar hyn o bryd:
£4.0m
D4 – Cyllid a Chaffael
Aelod a Phortffolio’r
Cabinet:
Y Cynghorydd Gareth Davies,
Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael
Y Targed ar gyfer
Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £0.666m
Y Gyllideb ar hyn o
bryd: £19.0m
D5 – Pobl a Threfniadaeth
Aelod a Phortffolio’r
Cabinet:
Y Cynghorydd Bryan Davies, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth
Y Targed ar gyfer
Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £20k
Y Gyllideb ar hyn o
bryd: £2.3m
D6 - Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd (Elfen
Polisi a Pherfformiad)
Aelod a Phortffolio’r
Cabinet:
Y Cynghorydd Bryan Davies, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth
Y Targed ar gyfer
Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £6k (allan o £70k ar gyfer Polisi,
Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd)
Y Gyllideb ar hyn o
bryd: £2.5 miliwn
D7 - Llywodraethu a Chyfreithiol
Aelod a Phortffolio’r
Cabinet:
Y Cynghorydd Matthew Vaux,
Aelod y Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a
Diogelu’r Cyhoedd
Y Targed ar gyfer
Lleihau Costau / Arbedion 2024/25: £19k
Y Gyllideb ar hyn o
bryd: £1.7m
Yna, ystyriodd yr Aelodau
Atodiad E, Ffioedd a Chostau yn ymwneud â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Adnoddau Corfforaethol, tudalennau 43 i 49 papurau'r agenda.
Yna ystyriodd yr Aelodau
Atodiad F, cynnig y Cabinet ar Bremiymau Treth y Cyngor ac yna Atodiad G,
Rhaglen Gyfalaf Aml-Flwyddyn. Y prif bwyntiau oedd yn codi o'r drafodaeth yw:
o Gan gyfeirio at atodiad agenda D1, Cyswllt Cwsmeriaid TGCh a Digidol, dan y
teitl, cael gwared ar y gwasanaeth llyfrgell i ysgolion - cadarnhaodd Aelod y
Cabinet a'r Swyddog y bydd y Gwasanaeth yn cadw hyblygrwydd wrth gyflenwi
llyfrau i ysgolion.
o Gan gyfeirio at atodiad agenda D1, dan y teitl, Gwasanaeth Llyfrgell
Symudol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor
nad yw'r 4 fan llyfrgell yn cael eu defnyddio'n llawn. Gyda rotâu
staff gwell, addasiadau i gynllunio llwybrau, cael gwared ar wasanaeth yr
ysgolion a thrwy gydweithio â'r Tîm TGCh, gall y gwasanaeth gynnal lefel debyg
o wasanaeth gyda gostyngiad o ddwy fan.
o Gan gyfeirio at atodiad agenda D1, dan y teitl, cyd-leoli gwasanaethau
llyfrgell gyda gwasanaethau eraill y Cyngor. Cadarnhawyd y bydd cyd-leoli
gwasanaethau llyfrgell gyda gwasanaethau eraill y cyngor yn lleihau costau drwy
ddileu dyblygu rolau, gwella arbedion effeithlonrwydd ynni, a gwneud defnydd
llawn o'r gofod presennol.
o Gan gyfeirio at atodiad agenda D2, Gwasanaethau Democrataidd, dan y teitl,
lleihau lefel y cyfieithu allanol. Cadarnhawyd drwy wneud gwell defnydd o
dechnoleg a gwella prosesau, bydd y gyllideb ar gyfer cyfieithu allanol yn cael
ei lleihau o £46.5k i £31.5k. Llongyfarchodd
Aelod yr Awdurdod am gadw ei safon uchel o gyfieithu holl bapurau'r agenda a
dywedodd fod hwn yn wasanaeth y gall yr awdurdod fod yn falch ohono.
o Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod yr Awdurdod yn parhau i wneud y
mwyaf o'r ystod o wasanaethau i’r cyhoedd yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth a
Phenmorfa Aberaeron ac yn chwilio am ffyrdd amgen o
ddefnyddio Neuadd y Sir, Aberaeron.
o Mewn perthynas â'r Ystâd Gorfforaethol / Adeiladau Masnachol a'r defnydd o
ofod. Cadarnhaodd y Swyddog fod y Gwasanaeth yn ymchwilio i wneud y mwyaf o
gyfleoedd incwm gan gynnwys adennill yr holl gostau, dilyn adolygiadau rhent,
ystyriaethau cadw v gwerthu v addasu at ddibenion gwahanol. Awgrymodd Aelod fod
y gwasanaeth yn archwilio cyfleoedd i ddarparu byw'n breswyl uwchben yr eiddo
masnachol sy'n eiddo i'r Awdurdod.
o Cytunwyd y dylid rhoi’r Rhaglen Datblygu Asedau ar Flaengynllun Gwaith y
Pwyllgor hwn.
o Cadarnhawyd nad yw'r gwaith atgyweirio sydd ei angen ar gyfer to'r
Amgueddfa yn Aberystwyth wedi mynd allan i dendr ond bod angen y gwaith
atgyweirio er mwyn diogelu casgliad yr amgueddfa.
o Mynegodd yr aelodau eu siom ynghylch cynnig arbediad y Cynllun Grantiau
Cymunedol. Mae gostyngiad arfaethedig
yng nghwmpas y Cynllun i roi grantiau refeniw yn unig trwy Gronfa'r Degwm a'r
gyllideb grant Cyfalaf i'w lleihau o £200k i £100k.
o Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael fod Arbedion Rheoli'r
Trysorlys yn cael eu hadrodd bob chwarter i'r Cabinet.
Yn dilyn trafodaeth, CYTUNODD yr Aelodau eu
bod wedi ystyried yr argymhellion canlynol:
ARGYMHELLION:
Ar gyfer y Gwasanaethau priodol sydd o fewn cylch gwaith
y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn:
1. I ystyried:
a) sefyllfa gyffredinol cyllideb ddrafft 24/25.
b) elfennau perthnasol Symudiadau’r Gyllideb Refeniw.
c) elfennau perthnasol Pwysau Costau'r Gyllideb Refeniw.
d) elfennau perthnasol y Cynigion i Leihau’r Gyllideb
Refeniw.
e) elfennau perthnasol cynigion y Ffioedd a Chostau.
f) cynnig y Cabinet ar Bremiymau Treth y Cyngor.
g) elfennau perthnasol y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn.
2. Gwneud argymhelliad/argymhellion i'r Cabinet eu
hystyried ar 20/02/24, fel y mae'r Pwyllgor yn ei ystyried yn briodol, mewn
perthynas â'r Gyllideb.
Cytunodd y Pwyllgor i wneud yr argymhelliad canlynol i'r
Cabinet:
1. Clustnodi'r 25%
presennol ar Ail Gartrefi a Phremiymau gwag hirdymor i'r Cynllun Tai Cymunedol,
heb gyflwyno cap.
RHESWM
DROS YR ARGYMHELLION: Cynorthwyo gyda pharatoi
cyllideb fantoledig, sicrhau craffu priodol ar y
Gyllideb gyffredinol sy'n cael ei chynnig ac i wneud argymhelliad/argymhellion,
fel y bo'n briodol, i'r Cabinet eu hystyried yn eu cyfarfod nesaf ar 20/02/24.
Diolchodd
y Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor i'r Swyddogion am eu gwaith caled wrth
baratoi papurau'r agenda.
Dogfennau ategol: