Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet ar gyfer
Partneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr
adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y diwygiadau arfaethedig wedi’u hystyried gan
Weithgor y Cyfansoddiad yn ei gyfarfodydd yn dwyn dyddiad 26 Medi 2023 a 14
Tachwedd 2023, ac yn rhoi amlinelliad o gynnwys pob dogfen.
Nododd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Cyfreithiol a
Llywodraethu a’r Swyddog Monitro nad oedd y diwygiad i ddogfen 3.5J wedi mynd
gerbron Gweithgor y Cyfansoddiad. Fodd bynnag, caiff y wybodaeth hon ei dyblygu
yn nogfen P.
Nodwyd hefyd bod gwybodaeth wedi'i hepgor yn Atodiad 10 a ddylai nodi Trosolwg
a Chraffu x 5 Aelod a Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio x 2 aelod ac 1 aelod
lleyg - cadarnhawyd y byddai'r wybodaeth a hepgorwyd yn cael ei chynnwys wedi'i
chwblhau cyn ei chyhoeddi.
Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd ei werthfawrogiad bod Gweithgor y
Cyfansoddiad wedi tynnu sylw at ddatblygiadau ar ôl eu hystyried.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
a)
Cymeradwyo’r
newidiadau i’r Cyfansoddiad (Atodiadau1 – 10); a
b)
Awdurdodi’r
Swyddog Monitro i ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor y adlewyrchu’r newidiadau
uchod.
Dogfennau ategol: