Eitem Agenda

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael ar Bremiymau Treth y Cyngor ar Bremiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Gareth Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Wyn Evans, Gareth Lloyd a Matthew Vaux ollyngiad i siarad a phleidleisio ar yr eitem hon. 

 

Cafodd y cynghorwyr Ifan Davies a Chris James ollyngiad i siarad ond i beidio â phleidleisio ar yr eitem hon.

 

Cafodd y Cynghorydd Catrin M S Davies ollyngiad i siarad a phleidleisio ar faterion yn ymwneud ag ail gartrefi ac i siarad ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud ag eiddo gwag hirdymor. 

 

Gadawodd y Cynghorwyr Gethin Davies ac Eryl Evans y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. 

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi, ar gyfarwyddyd y Cabinet, y cynhaliwyd Ymgynghoriad Cyhoeddus ffurfiol 6 wythnos ar lefel Premiymau Treth y Cyngor yn y dyfodol ar Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion rhwng 18 Medi a diwedd Hydref 2023 a bod Gweithgor Trawsbleidiol hefyd wedi'i sefydlu.  Ystyriodd y Cabinet ganfyddiadau'r ymgynghoriad a'r sylwadau a gafwyd gan y Gweithgor Trawsbleidiol a chytunodd ar yr argymhellion. Nodwyd pe bai’r Cyngor yn cytuno ar gynnydd i Bremiymau Treth y Cyngor, byddai angen i’r Aelodau gytuno ar beth i’w wneud ag unrhyw incwm ychwanegol mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac o ran amseru y byddai dull graddol o weithredu’n cael ei adolygu’n barhaus o ran nifer y tai sydd ar gael, a nifer y cartrefi sy’n dychwelyd i’r stoc o gartrefi sydd ar gael.  Nododd nad oedd incwm posibl wedi bod yn ystyriaeth wrth ddod â'r argymhelliad gerbron y Cyngor, a nododd fod fforddiadwyedd tai i bobl ifanc yn ystyriaeth, sydd hefyd yn effeithio ar y Gymraeg os na all pobl fforddio byw yn eu cymunedau. 

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies fod y Cyngor wedi penderfynu ym mis Mawrth 2016 i gynyddu premiwm Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac Ail gartrefi yng Ngheredigion o 25% o bremiwm o 1 Ebrill 2017. Nododd, yn unol â deddfwriaeth, fod eiddo gwag hirdymor yn cael ei ddiffinio fel annedd sydd wedi bod yn wag a heb gelfi i raddau helaeth ers o leiaf 12 mis gyda dodrefnu neu feddiannu annedd am un neu ragor o gyfnodau o chwe wythnos neu lai ddim yn effeithio ar statws annedd fel annedd wag hirdymor. Diffiniodd y ddeddfwriaeth Ail gartrefi fel 'anheddau a feddiannir o bryd i'w gilydd' sydd wedi’u dodrefnu'n sylweddol ond lle nad oes trigolyn parhaol yn byw ynddynt.  Mae'r holl gyfeiriadau at ail gartrefi felly at 'anheddau a feddiannir o bryd i'w gilydd'. 

 

Nododd fod yr adroddiad i'r Cabinet yn cynnwys gwybodaeth am nifer yr eiddo yng Ngheredigion ym mhob categori premiwm, yr ardaloedd yng Ngheredigion sydd â'r crynhoad / nifer uchaf o'r eiddo hyn, proffil oedran yr eiddo gwag hirdymor yng Ngheredigion, cynllun Tai Cymunedol Ceredigion, y cefndir deddfwriaethol, a'r amserlen a'r gofynion llywodraethu cysylltiedig.  Nododd hefyd fod 1,403 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, sef yr ail ymateb uchaf erioed i ymgynghoriadau gan Gyngor Sir Ceredigion.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies fod mynd i'r afael â phroblemau ail gartrefi, perchnogaeth tai gwyliau a newid eiddo preswyl yn llety gwyliau yn flaenoriaeth allweddol yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer 2022-2027 sydd wedi’i chymeradwyo.   Mae hyn a chynyddu'r cyflenwad a'r ystod o opsiynau ar gyfer tai fforddiadwy yng Ngheredigion yn rhan allweddol o'r Amcan Llesiant Corfforaethol – ‘Creu Cymunedau Cynaliadwy, Gwyrdd ac sydd wedi’u Cysylltu’n dda’.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Hinge beth ellid ei wneud i sicrhau dull cyson o weithredu o ran cartrefi gwag sydd wedi’u dodrefnu’n rhannol sy’n rhoi’r argraff bod rhywun yn byw ynddynt pan nad ydynt.  Nododd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael fod risg bob amser wrth newid y categorïau premiwm, fodd bynnag, mae adnoddau o fewn y tîm ac mae prosesau ar waith i ddelio â sefyllfaoedd o'r fath i leihau mesurau osgoi, ond bod hwn yn faes lle mae angen cynnydd mewn adnoddau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd am yr effaith ar lety gwyliau os nad ydynt yn bodloni meini prawf yr ardrethi busnes o 182 diwrnod o feddiannaeth y flwyddyn o 1 Ebrill 2024, a fyddai llety gwyliau sy’n destun cymal cynllunio sy’n cyfyngu ar feddiannaeth trwy gydol y flwyddyn yn cael eu heithrio ac a fyddai'r trefniadau ar hyn o bryd o ran dyrannu incwm o'r premiymau yn dal yn berthnasol.  Ategwyd y cwestiynau hyn gan sawl Aelod arall yn ystod y drafodaeth.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies fod y newidiadau yn ymwneud â’r meini prawf gosod 182 diwrnod o ganlyniad i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ac nad ydynt o fewn rheolaeth Cyngor Sir Ceredigion a bod hyn yn cael ei blismona gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a nodwyd y byddai cymal eithrio Dosbarth 6 yn berthnasol i gartrefi tymhorol. Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael hefyd, o dan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, fod eithriad Premiwm Dosbarth 6 bellach yn ymestyn i gynnwys anheddau sydd wedi'u cyfyngu gan amod cynllunio sydd naill ai'n atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn neu sy'n pennu mai dim ond ar gyfer llety gwyliau y gellir defnyddio'r annedd neu sy'n atal ei meddiannu fel unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn.   Byddai’r eithriadau Premiwm hyn hefyd yn berthnasol pe bai eiddo’n dychwelyd i Dreth y Cyngor oherwydd nad yw’n cyrraedd y trothwy 182 diwrnod i aros ar Ardrethi Busnes.

 

Cadarnhaodd Eifion Evans, Prif Weithredwr fod penderfyniadau ynghylch dyraniad y premiwm 25% yn benderfyniad gwleidyddol, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 1af Ebrill 2024, ac y byddai angen penderfyniad gwleidyddol ddiwedd Mawrth 2024 fel rhan o bennu'r gyllideb.  Cadarnhaodd Duncan Hall, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Cyllid a Chaffael fod £1.8 miliwn ar hyn o bryd yn y Cynllun Tai Cymunedol, a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu i oddeutu £2.5 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn, a fydd yn aros yn y cynllun hwn.

 

Nododd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans y dylai Cyngor Sir Ceredigion godi'r premiwm i'w uchafswm o 300%, er mwyn cadw i fyny ag awdurdodau eraill sydd wedi cynyddu eu cyfraddau yn y gorffennol, gan y gallai rhai benderfynu symud yma os bydd awdurdodau cyfagos yn penderfynu cynyddu eu premiymau ymhellach.  Nododd nad ydym yn gallu adeiladu oherwydd yr amgylchiadau ar hyn o bryd, ond nid oes angen caniatâd cynllunio ar gartrefi gwag. 

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Marc Davies bwysigrwydd cefnogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau, ond gofynnodd a oedd tystiolaeth y byddai codi'r premiwm yn arwain at y canlyniadau a ddymunir, yn hytrach nag arwain at werthu busnesau llety gwyliau gan arwain at ragor o ail gartrefi.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Catrin M S Davies yr effaith o ran eiddo llai yn cael eu prynu fel ail gartrefi, a'r diffyg cyfraniad a wneir i'r gymuned leol a'i heconomi lle mae eiddo o'r fath yn parhau'n wag am gyfnod sylweddol o'r flwyddyn.  Nododd fod y cymal 182 diwrnod yn peri anesmywthyd i hithau hefyd, ond dylid nodi mai peth moethus yw bod yn berchen ar ddau gartref pan nad oes gan rai pobl unrhyw le i’w alw’n gartref.

 

Nododd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan ei bod yn cytuno gyda'r argymhellion, ac y gallai cynnydd i 150% annog pobl i werthu eu hail gartrefi gan roi cyfle i eraill brynu.  Nododd fod 75% o berchnogion ail gartrefi yn byw y tu allan i Geredigion, gyda llawer o'r rhain o Loegr sy'n cael effaith niweidiol ar yr iaith.

 

Nododd y Cynghorydd Euros Davies ei fod yn fwy parod i weld cynnydd mewn premiymau ar eiddo gwag gan fod sawl un yn ei ward yn dadfeilio, sy'n dibrisio eiddo cyfagos, a phryder y gellir torri i mewn iddynt.  Mae llawer o'r rhain yn eiddo fforddiadwy a fyddai'n addas i bobl ifanc yn enwedig gyda'r grantiau sydd ar gael i ddod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd.  Mae pobl wedi buddsoddi mewn ail gartrefi i'w datblygu fel cartrefi gwyliau ac mae llety gwyliau yn cyflogi pobl leol i'w glanhau.  Os gwerthir llety gwyliau fel ail gartrefi, bydd hyn yn effeithio ar y gyflogaeth hon gan na fydd angen eu glanhau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gareth Lloyd welliant i argymhelliad 2, i bleidleisio ar eitemau a) a b) ar wahân er mwyn rhoi cyfle i adolygu tystiolaeth o effaith cynyddu'r premiwm yn ystod blwyddyn 1 cyn penderfynu ar gynnydd pellach ym mlwyddyn 2. Ategwyd hyn gan nifer o Aelodau.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans hefyd fod rhagdybiaethau’n cael eu gwneud o ran gostyngiad ym mhrisiau eiddo yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc brynu a’r effaith ar y Gymraeg, gan nodi bod y cyfle eisoes wedi mynd heibio yn Aberaeron a bod prisiau tai yn uchel oherwydd bod pobl eisiau byw yno.  Nododd fod llawer o lety gwyliau bellach yn dod ar y farchnad oherwydd y rheol 182 diwrnod, ac nad oedd erioed wedi gweld cynifer o dai ar werth yng Ngheinewydd a chyda thwristiaeth yn brif gynheiliad yng Ngheredigion, nid oedd am weld swyddi’n cael eu colli.

 

Nododd y Cynghorydd Keith Evans fod angen economi gref i gadw pobl ifanc yng Ngheredigion, fodd bynnag, rydym wedi methu â gwneud hyn ers degawdau gyda phobl yn gadael am well cyfleoedd yng Nghaerdydd ar draul Ceredigion.  Nododd ei fod yn cydymdeimlo â phobl sy'n berchen ar ail gartrefi o ganlyniad i etifeddiaeth, fodd bynnag maent yn defnyddio'r rhain fel lle i aros ac i gyfrannu at y gymuned.

 

Nododd y Cynghorydd Alun Williams fod llawer o'r Aelodau wedi cael llythyrau oddi wrth berchnogion ail gartrefi yn amlinellu eu cyfraniadau i'r gymuned ond nododd nad yw hyn cystal â meddiannaeth gan drigolion llawn amser 365 diwrnod y flwyddyn.  Nododd fod tueddiad i or-gyffredinoli pwy allai brynu eiddo, ac mae'n debyg mai darlun cymysg fyddai hwnnw, fodd bynnag, mae prinder difrifol o ran tai, gyda phobl ifanc yn cael trafferth prynu, a rhai yn byw mewn cartrefi is-safonol ac yn methu ymgartrefu yn eu cymunedau lle mae gan eraill ddau.  Nododd nad yw hyn yn rhywbeth sy’n berthnasol i Gymru yn unig, a bod ardaloedd fel Dyfnaint a Chernyw ac ardaloedd yn yr Alban hefyd yn ystyried codi’r premiwm 100%, a bod yn rhaid ystyried hyn mewn cyd-destun ehangach.  Byddai unrhyw awdurdod lleol sy'n codi llawer llai yn rhoi ei hun mewn sefyllfa fregus ac yn dod yn atyniad ar gyfer perchnogaeth ail gartrefi.

 

Nododd y Cynghorydd Matthew Vaux y bydd angen i wasanaeth cynllunio Cyngor Sir Ceredigion ystyried y posibilrwydd o gael gwared ar y cyfyngiad ar gartrefi tymhorol fel y gellir trosglwyddo llety gwyliau i breswylfeydd gydol y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD pleidleisio ar eitemau 2a) a 2b) ar wahân, ac i ddileu “ac yna i” ar ddiwedd eitem 2a).

 

Ymhellach, PENDERFYNWYD hefyd:

 

1.    fod y premiwm Treth y Cyngor presennol o 25% yn achos Eiddo Gwag Hirdymor yn cynyddu o 01/04/24 ymlaen, i:

a) 100% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers pum mlynedd neu lai.

b) 150% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros bum mlynedd a hyd at ddeg mlynedd (gan gynnwys deg mlynedd).

c) 200% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros ddeg mlynedd.

Bydd pob cyfnod amser yn cynnwys y cyfnod cychwynnol cyntaf o 12 mis cyn bod annedd yn cael ei diffinio yn Eiddo Gwag Hirdymor am nad yw'n cael ei meddiannu a heb fawr o ddodrefn.

 

2a)  y bydd y Premiwm Treth y Cyngor o 25% sy’n bodoli eisoes sy’n berthnasol i Ail Gartrefi yn cynyddu i 100% i ddod i rym o 01/04/24.

 

2b)  y bydd y Premiwm Treth y Cyngor o 25% sy’n bodoli eisoes sy’n berthnasol i Ail Gartrefi yn cynyddu i 150% i ddod i rym o 01/04/25.

 

3.   Nodi yr ymdrinnir ag unrhyw ystyriaethau ariannol posibl sy’n deillio o’u penderfyniadau cyn gynted â phosibl fel mater ar wahân mewn cyfarfod ar wahân yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: