Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies (Arweinydd y Cyngor
ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a
Phobl a Threfniadaeth) yr adroddiad ar ran y Cynghorydd Matthew Vaux. Roedd y Ddeddf
Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro)
(Cymru) 2023 (“y Ddeddf”) yn cyflwyno Cam 1 o’r gwaharddiad ar fusnesau a
sefydliadau yng Nghymru i werthu neu gyflenwi rhai cynhyrchion plastig untro i ddefnyddwyr, a daeth i rym ar 30.10.2023.
Roedd y Ddeddf
yn ei gwneud yn drosedd i fusnesau a sefydliadau gyflenwi’r cynhyrchion canlynol:
•
Platiau plastig untro
•
Cytleri plastig untro – fel cyllyll, ffyrc a llwyau
•
Trowyr plastig untro ar gyfer
diodydd
•
Cwpanau wedi'u gwneud o rai mathau o bolystyren
•
Cynwysyddion cludfwyd wedi'u gwneud
o rai mathau o bolystyren
•
Ffyn plastig ar gyfer balwnau
•
Ffyn cotwm plastig untro
•
Gwellt yfed plastig untro – ar
wahân i bobl sydd eu hangen i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol
Roedd y gwaharddiad yn effeithio ar fanwerthwyr,
gwerthwyr bwyd, siopau cludfwyd a'r diwydiant
lletygarwch ac roedd yn berthnasol i gyflenwadau dros y cownter ac ar-lein.
Fodd bynnag, roedd nifer o eithriadau, er enghraifft caniateir i fferyllfeydd
barhau i ddarparu gwellt plastig mewn achosion lle'r oedd unigolion eu hangen i
fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol. Roedd eithriadau eraill yn gweld
ffyn cotwm â choesau plastig yn dal i gael eu defnyddio mewn lleoliadau gofal
iechyd a chaniateir cyflenwi llwyau plastig gyda meddyginiaethau hylifol er
mwyn mesur dos.
Bydd
gwaharddiadau Cam 2 yn dod i rym erbyn Ebrill 2026. Bydd hyn yn effeithio ar y
cyflenwad o fagiau siopa plastig untro, caeadau
polystyren ar gyfer diodydd a chynwysyddion bwyd a chynhyrchion wedi'u gwneud o
fath o blastig a elwir yn blastig ocso-ddiraddadwy.
Rhagwelwyd, fel
yn achos cyflwyno’r tâl am fagiau siopa untro rai
blynyddoedd yn ôl, y byddai’r gyfraith newydd yn ymwreiddio’n ddidrafferth,
gyda chydymffurfiaeth lawn yn cael ei chyflawni.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Bryan Davies.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· Roedd yr
aelodau’n gefnogol i’r ddeddfwriaeth newydd o ystyried yr heriau amgylcheddol
ac awgrymon nhw fod addysgu pobl i gael gwared â sbwriel yn gywir yn allweddol.
Cydnabuwyd y byddai'r ddeddfwriaeth o bosibl yn arwain at ganlyniadau
anfwriadol fel sy'n digwydd yn aml.
· Roedd
busnesau’n ymwybodol o’r ddeddfwriaeth newydd cyn iddi ddod i rym ac o’r
trafodaethau gyda 200-250 o fusnesau hyd yma, nid oedd dim problemau wedi’u
nodi. O safbwynt gorfodi, roedd pwyslais yn gyntaf ar addysgu busnesau yn
hytrach nag ar gamau cyfreithiol.
· Cydnabuwyd bod
elfen o gost i fusnesau yn sgil cyflwyno’r gwaharddiad, fodd bynnag, roedd
llawer o fusnesau wedi mabwysiadu’r dull o weithredu cyn iddo ddod yn gyfraith.
Pe bai gan fusnesau blastigau untro gormodol, eu
cyfrifoldeb nhw oedd cysylltu â chyflenwyr am ad-daliad neu gael gwared â nhw’n
gywir.
· Codwyd pryderon
pe bai’r un dull o weithredu o ran y gwaharddiad ar blastig untro
yn cael ei gymhwyso i amaethyddiaeth, y byddai’n achosi anawsterau i ffermwyr.
Nodwyd ei bod yn ofynnol i ffermwyr ailgylchu plastig a rhoi tystiolaeth o hyn,
fodd bynnag, nid oedd busnesau fel gwerthwyr bwyd yn gallu olrhain ble roedd
plastig yn cael ei waredu ar ôl ei roi i gwsmer.
· Tynnwyd sylw at
y ffaith bod y Cyngor, mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 22.02.2018, wedi
cefnogi’n unfrydol gynnig i leihau’r defnydd o blastig ac i gefnogi mentrau
lleihau plastig yng Ngheredigion ac i gefnogi hyn, crëwyd Grŵp Gorchwyl a
Gorffen Aelodau.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i
nodi cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: