Cofnodion:
Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet ar
gyfer Gydol Oes a Llesiant) mai pwrpas yr adroddiad oedd i graffu ar
ganfyddiadau’r gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd a’r Cynllun Gweithredu oedd wedi’i
ddatblygu, gan wneud argymhellion i’r Cabinet. Ar 06.12.2022, cymeradwyodd y
Cabinet y dylai’r Gwasanaeth fwrw ymlaen i gynnal ymarfer ymgysylltu ac
ymgynghori ehangach yn 2023 gan ganolbwyntio ar ail-lunio’r cyfleoedd o ran y
gwasanaethau dydd a’r ddarpariaeth seibiant. Wrth ymgysylltu ac ymgynghori,
rhoddwyd ystyriaeth fanwl i brif egwyddorion y Strategaeth Llesiant Gydol Oes
ochr yn ochr â’r Strategaethau Cenedlaethol a Rhanbarthol oedd yn gysylltiedig
ag Anableddau Dysgu, Plant sy’n Derbyn Gofal a chyfleoedd o ran seibiant ar
sail gydol oes.
Bu i’r
adolygiad ganolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:-
•
Cyfleoedd o ran gwasanaethau dydd i oedolion hŷn gan
gynnwys y rheiny sy’n byw gyda diagnosis o ddementia
•
Cyfleoedd o ran gwasanaethau dydd i unigolion sy’n byw ag
anableddau dysgu, awtistiaeth ac anawsterau dysgu dwys a lluosog
•
Llwybrau pontio gydol oes ar gyfer y rheiny sy’n byw ag
anableddau dysgu / awtistiaeth
•
Darpariaeth seibiant (dydd a phreswyl) gydol oes
Cafodd ymarfer
ymgysylltu ac ymgynghori eang ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Awst 2023.
Gwnaed y gwaith hwn gan gwmni annibynnol (Practice Solutions Limited) ac ariannwyd y gwaith drwy’r Gronfa Integreiddio
Rhanbarthol. Bu ystod eang o randdeiliaid yn rhan o’r
gwaith, gan gynnwys pobl oedd yn derbyn gofal seibiant a chyfleoedd dydd,
teuluoedd a gofalwyr, sefydliadau darparu gwasanaethau, gweithwyr y cyngor oedd
yn gweithio mewn canolfannau gofal cymdeithasol a chyfleoedd dydd, gweithwyr
iechyd, pobl ag anableddau dysgu, pobl â dementia, plant a phobl ifanc a phobl
oedd ag anghenion cymhleth. Dosbarthwyd arolwg i'r rhai oedd yn defnyddio
gwasanaethau, eu teuluoedd, gofalwyr di-dâl eraill, staff y Cyngor a staff yn y
sefydliadau oedd yn bartneriaid i’r Cyngor.
Paratowyd
arolwg ar gyfer y cyhoedd a oedd ar gael ar wefan y Cyngor ac yn ystod y cyfnod
ymgysylltu, cafwyd 205 o ymatebion. Ochr yn ochr â hynny, fe wnaeth Practice
Solutions ymgysylltu â 206 o bobl wyneb yn wyneb ac ar-lein. Cymerodd cyfanswm
o 411 o bobl ran yn yr adolygiad. Ar ôl cwblhau'r ymarferion ymgysylltu a’r
ymarferion pen desg, dadansoddwyd y data a nodwyd y canfyddiadau. O'r
canfyddiadau allweddol hyn datblygwyd nifer o argymhellion, er mwyn i'r Cyngor
eu hystyried. Darparwyd trosolwg o’r canfyddiadau allweddol, yr argymhellion
a’r camau nesaf fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· Nodwyd na
fyddai’n bosibl parhau i ddarparu gwasanaethau fel y gwnaethant dros yr 20
mlynedd diwethaf o ystyried y cynnydd mewn galw a chymhlethdod. Roedd adolygiad
system gyfan o sut roedd gwasanaethau’n cael eu darparu, ac roedd yr holl
gyfleoedd ac asedau’n cael eu hystyried er mwyn sicrhau’r budd mwyaf i
gymunedau lleol a byddai cynllun cadarn yn cael ei roi ar waith. Roedd llawer o
awdurdodau lleol eraill wedi cwblhau taith debyg neu ar daith debyg, ac felly
byddent yn gallu dysgu gan eraill.
· Roedd staff
sy'n gweithio yn y Canolfannau yn cael eu hystyried yn hanfodol a byddent yn
ganolog i symud y rhaglen waith yn ei blaen. Byddai staff yn parhau mewn rolau
tebyg tra byddai eraill yn cael hyfforddiant pellach a fyddai'n eu galluogi i
ddarparu ystod ehangach o wasanaethau.
· Cydnabuwyd y
gallai newid fod yn anodd i ddefnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a staff ac felly
roedd ymgysylltu ac ymgynghori’n barhaus yn allweddol.
· Roedd yr
aelodau’n gwerthfawrogi lefel y manylder yn yr adroddiad a phwysigrwydd y
gwasanaeth i gymunedau lleol. Awgrymwyd Gweithdy Aelodau yn un o’r canolfannau
gwasanaeth lle gallent o bosibl gwrdd â defnyddwyr y gwasanaeth/staff.
Teimlai'r aelodau y byddai hyn yn eu galluogi i gael gwell dealltwriaeth o
wasanaethau seibiant a gwasanaethau dydd.
· Cydnabuwyd ei
bod yn anodd ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ymgynghoriadau, fodd bynnag, o’r 411 o
ymatebion, cafwyd ymatebion trylwyr o ansawdd uchel.
· Teimlai'r
aelodau ei bod yn drueni nad oedd Awel Deg yn Llandysul yn cael ei defnyddio ar
hyn o bryd.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r adroddiad
ac argymell i’r Cabinet:
1.
Bod gweithdy yn cael ei drefnu yn gynnar yn 2024 ar gyfer
Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach:
2.
Bod y Cabinet yn cytuno i fwrw ymlaen â’r gwaith o
ail-lunio’r gwasanaethau dydd a’r ddarpariaeth seibiant yn unol â’r Strategaeth
Gydol Oes a Llesiant a’r ffactorau cenedlaethol sy’n sbarduno newid.
Diolchodd y Cynghorydd Alun Williams a'r Cadeirydd i'r Swyddogion a fu'n
ymwneud â'r gwaith.
Dogfennau ategol: