Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies (Arweinydd y Cyngor
ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a
Phobl a Threfniadaeth) yr adroddiad ar ran y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod y
Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a
Diogelu’r Cyhoedd). Roedd rheolaethau rheoleiddiol ar gyfer bwyd a bwyd
anifeiliaid yn hanfodol ar gyfer sicrhau diogelwch bwyd a dilysrwydd y gadwyn
fwyd o'r fferm i'r fforc. Roedd yn bwysig bod rheolaethau rheoleiddiol yn cael
eu cymhwyso'n gyson ar draws y DU gyfan er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw
fethiant mewn safonau yn y gadwyn fwyd a allai effeithio ar ddilysrwydd a hyder
defnyddwyr yn y bwyd roeddent yn ei fwyta. Roedd dilysrwydd y gadwyn fwyd
anifeiliaid yn hanfodol nid yn unig i les anifeiliaid, ond hefyd er mwyn osgoi
unrhyw weddillion niweidiol mewn bwyd anifeiliaid a allai effeithio ar unrhyw
anifail oedd yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ddynol.
Roedd Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cyhoeddi Codau Ymarfer oedd yn
rheoleiddio sut oedd Awdurdodau Lleol yn darparu eu gwasanaethau bwyd a bwyd
anifeiliaid. Roedd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol gael
digon o adnoddau i archwilio busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yn rheolaidd yn
ôl y risg i iechyd a achoswyd ganddynt. Roedd yn ofynnol i'r Awdurdod gynhyrchu
Cynllun Gwasanaeth i ddangos sut y caiff y gofynion bwyd a bwyd anifeiliaid eu
cyflawni a sut ddarparwyd adnoddau digonol bob blwyddyn. Roedd hyn yn cynnwys
gofyniad i'r Cynllun Gwasanaeth fynd trwy'r broses ddemocrataidd.
Roedd y Cynllun
Gwasanaeth yn rhoi amlinelliad o'r gofynion arolygu bwyd a bwyd anifeiliaid ar
gyfer 2023/2024. Roedd y flwyddyn hon yn cynrychioli newid sylweddol i
arolygiadau "deuol", lle roedd hylendid bwyd a safonau bwyd yn cael
eu cyfuno mewn un arolygiad. Roedd Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd wedi ymgymryd â
hyfforddiant ac asesiad sylweddol i fod yn gymwys i gynnal yr arolygiadau deuol
hyn yn unol â safonau Codau Ymarfer yr ASB. Canlyniad dymunol arolygiadau deuol
yw ei fod yn lleihau'r baich arolygu ar fusnesau bwyd ac yn cynyddu
effeithlonrwydd i'r Awdurdod o ran osgoi dau ymweliad ar wahân. Roedd adolygiad
o adnoddau yn y Cynllun Gwasanaeth wedi canfod, gyda'r cyllid ychwanegol, y
dylai'r gwasanaeth fod ag adnoddau digonol i gyflawni'r rhaglen bwyd a bwyd
anifeiliaid y flwyddyn hon. Fodd bynnag, roedd hyn yn dibynnu ar allu
Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd i gyflawni eu dyraniad arolygu. Gallai galwadau
eraill ar y gwasanaeth a salwch ac ati effeithio ar eu gallu i gwblhau'r
rhaglen. Roedd yn ofynnol i'r swyddogion hyn weithio ar draws maes cyfan
Diogelu'r Cyhoedd, felly gallai unrhyw flaenoriaethau iechyd y cyhoedd oedd yn
gwrthdaro gael effaith andwyol.
Rhoddodd Carwen
Evans, Rheolwr Corfforaethol: Diogelu’r Cyhoedd drosolwg o'r Cynllun Gwasanaeth
Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a'r heriau presennol ac yn y dyfodol wrth ddarparu'r
gwasanaeth statudol. Roedd gorfodi cyfraith bwyd yn swyddogaeth a rhannwyd ac
fe'i cyflawnwyd gan swyddogion y timau Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach,
a gydnabyddwyd ar y cyd o fewn yr Awdurdod fel
"Diogelu'r Cyhoedd". Ymgymerwyd ag ystod o swyddogaethau gan y
Gwasanaeth Bwyd a Bwyd Anifeiliaid megis cofrestru safleoedd bwyd,
gweithgareddau gorfodi ac ymchwilio i achosion a amheuir ac achosion a
gadarnhawyd o glefydau trosglwyddadwy.
Cyflwynwyd y
wybodaeth ganlynol:
· Roedd y galw ar
y gwasanaeth bwyd a bwyd anifeiliaid yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn wrth i
safleoedd agor a chau.
· Ar 31.08.2023,
roedd 1210 o fusnesau bwyd cofrestredig yn bodoli yng Ngheredigion a
chymeradwywyd 19 o safleoedd o dan Reoliad EC Rhif 853/2004 ac ar 01.04.2023,
roedd 1380 o fusnesau bwyd anifeiliaid yn destun rheolaethau rheoleiddiol yng
Ngheredigion.
· Cyfanswm nifer
yr arolygiadau hylendid bwyd wedi’u rhaglennu o safleoedd risg uchel a
dargedwyd i’w cynnal yn ystod 2023/24 oedd 252.
· Tua 80 o ailymweliadau â safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio’n fras
a 50 cais am ailarolygiad o dan y CSHB (arolygiadau
heb eu rhaglennu).
· Dechreuodd
10-12 o fusnesau newydd fasnachu yng Ngheredigion bob mis. Rhaid i sefydliadau
bwyd newydd a ddaeth i sylw'r Awdurdod Bwyd am y tro cyntaf fod yn destun
arolygiad cychwynnol o safbwynt hylendid bwyd a safonau bwyd o fewn 28 diwrnod
i gofrestru gyda'r Awdurdod. Ym mis Awst 2023, roedd ôl-groniad o 155 o
safleoedd yn aros am arolygiad hylendid bwyd ac roedd 328 o safleoedd yn aros
am arolygiad safonau bwyd. Roedd arbenigwr bwyd wedi'i gontractio i gefnogi'r
gwaith hwn.
· Roedd 188 o
safleoedd i fod i gael ymyriadau bwyd anifeiliaid yn 2023/24 a chafodd hyn ei
ariannu gan yr ASB.
Esboniodd
Carwen Evans fod adnoddau digonol i gyflawni’r swyddogaeth statudol ar gyfer
2023/24 ar yr amod nad oedd dim argyfyngau na gwaith ymchwilio mawr. O ran
2024/25, o ystyried y cynnydd sylweddol mewn arolygiadau sydd i fod i ddigwydd,
efallai y bydd angen i’r gwasanaeth ofyn am gyllid ychwanegol i gontractwyr i
gefnogi’r gwaith.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Bryan Davies.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· Gan fod
ffermwyr dan bwysau sylweddol, awgrymwyd y dylid cael mwy o gydweithio rhwng
cyrff fel yr awdurdod lleol, DEFRA a’r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw. Nodwyd nad
oedd yr arolygiad gan yr awdurdod lleol (fel y corff gorfodi) mor helaeth ar
gyfer ffermwyr a oedd yn aelodau o gynlluniau achrededig megis y Cynllun
Gwarant Fferm Da Byw, gan eu bod eisoes yn destun gwiriadau.
· Adenillwyd
costau’n llawn i’r awdurdod lleol pan gynhaliodd arolygiadau bwyd anifeiliaid
fel rhan o’r rhaglen arolygu hylendid rhanbarthol.
· Os oedd gan yr
awdurdod lleol brinder swyddogion i wneud y gwaith, roedd awdurdodau lleol
cyfagos yn gallu rhoi cymorth, yn enwedig gyda bwyd anifeiliaid, ond nid oedd
hyn wedi bod yn ofynnol eto.
· Roedd yn
ofynnol i bob busnes a oedd yn paratoi ac yn gwerthu bwyd gofrestru gyda'r
awdurdod lleol cyn gwneud hynny, fodd bynnag, nid oedd hyn bob amser yn wir.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i dderbyn yr
adroddiad ac argymell i'r Cabinet bod Cynllun Gwasanaeth Bwyd a Bwyd
Anifeiliaid 2023-24 yn cael ei gymeradwyo.
Dogfennau ategol: