Cofnodion:
Rhoddwyd
ystyriaeth i’r adroddiad ar Ganolfan Bwyd Cymru, a adeiladwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn Horeb,
Llandysul, ac fe'i hagorwyd ym 1996, i ddarparu cymorth technegol i'r diwydiant
bwyd yng Ngheredigion yn ogystal â Chanolbarth a De-orllewin Cymru. Mae ei
leoliad, yn hygyrch i gymunedau gwledig yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir
Benfro yn amlygu un o'i amcanion allweddol, sef cefnogi busnesau amaeth sydd am
arallgyfeirio i ychwanegu gwerth at gynnyrch craidd. Mae Canolfan Fwyd Cymru yn
darparu gwasanaethau technegol i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a
gweithgynhyrchwyr bwyd cenedlaethol.
Mae Canolfan Bwyd Cymru wedi ffurfio
partneriaeth gyda dwy ganolfan dechnoleg fwyd arall yng Nghymru, sydd wedi'i
lleoli yn Llangefni ac yng Nghaerdydd i ddarparu cefnogaeth ledled Cymru i'r
diwydiant bwyd. Rhoddwyd trosolwg o’r ddarpariaeth bresennol gan gynnwys
gwybodaeth helaeth am brosiect Helix a’r effaith ar yr economi. Ers 2016, roedd
tîm Canolfan Bwyd Cymru wedi sicrhau canlyniadau da drwy brosiect HELIX yn unol
â’r targedau a osodwyd. Dywedwyd nad oedd y tabl yn yr adroddiad yn
adlewyrchu’r holl gymorth a ddarparwyd am mai dim ond yr ymyriadau cyntaf a
ddarperid i’r busnesau oedd modd eu cynnwys, er bod nifer yn dychwelyd sawl
gwaith y flwyddyn.
O ran y dyfodol, prynodd Cyngor Sir
Ceredigion 5 erw arall o dir ger yr ystâd bresennol yn Horeb yn 2019 i hwyluso
cynlluniau twf. Ar hyn o bryd, mae dau brosiect yn cael eu datblygu a'u hasesu
i'w cynnwys yn rhaglen y Cynllun Twf ar gyfer Canolbarth Cymru:
i.
Sefydlu
Canolfan Arloesi Cynhyrchu Bwyd, a fyddai'n dod â'r cyfleusterau peilot
diweddaraf ar raddfa ddiwydiannol gyda'r nod o alluogi twf mwy o fusnesau
gweithgynhyrchu bwyd canolig eu maint yng nghanolbarth Cymru.
ii.
Darparu
cyfleusterau mwy o faint ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu bwyd, gan adeiladu ar
yr unedau deor presennol yng Nghanolfan Bwyd Cymru.
Byddai'r datblygiadau hyn yn gwella
ymhellach y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y sector bwyd-amaeth yng
Ngheredigion, sy'n allweddol i'w les economaidd, a byddant yn helpu i ddiogelu
dyfodol y Ganolfan a'i berthnasedd a hyfywedd hirdymor. Hefyd, roedd yna
ddatblygiadau cyffrous gan brosiectau eraill ym Margen Dwf Tyfu Canolbarth
Cymru sef ArloesiAber a Thir Glas, a fyddai’n cyd-fynd â gwaith Canolfan Bwyd
Cymru. Roedd cyllideb graidd y Ganolfan wedi cael eu hymestyn am 2 flynedd ond
nid oedd dim sicrwydd ar ôl hyn.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb
gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
·
Nodwyd
bod y Ganolfan yn medru cefnogi busnesau o’r tu allan i Gymru yn fasnachol, ond
dim ond busnesau o Gymru oedd yn medru elwa o brosiect Helix, a dyna oedd y
ffocws ar hyn o bryd.
·
Roedd
rhan fwyaf y busnesau a oedd yn derbyn cymorth wedi’u lleoli yng nghanolbarth a
de-orllewin Cymru. Roedd Rachel’s Diary a busnesau eraill a oedd wedi derbyn
cefnogaeth yn gynnar ar eu siwrne wedi parhau i gael cefnogaeth wrth iddyn nhw
dyfu. Wrth i’r busnesau ehangu, roedd mwy o alw am arbenigedd yn hytrach na
chefnogaeth gyffredinol. Hefyd, oherwydd yr hinsawdd economaidd a oedd ohoni,
roedd busnesau yn archwilio ffyrdd o leihau costau ac yn hytrach na phrofi
unrhyw newidiadau yn eu prosesau ar eu safleoedd eu hunain, roedd yn well
ganddynt wneud hynny yn y Ganolfan er mwyn osgoi unrhyw oedi i’w gwaith cynhyrchu.
·
Roedd
nifer yn y sector llaeth wedi arallgyfeirio ac roeddent yn gwerthu llaeth yn
uniongyrchol. Roedd rhai o’r busnesau hyn wedi dechrau ar eu siwrne yn y
Ganolfan. O ystyried yr heriau ariannol presennol, roedd yn bosib y byddai mwy
o ffermwyr llaeth yn penderfynu ychwanegu gwerth at eu cynnyrch. Trwy dderbyn
cefnogaeth gan y Ganolfan, byddent yn medru archwilio opsiynau heb fuddsoddi
gormod yn y lle cyntaf, cyn penderfynu ai dyma oedd yr opsiwn gorau iddynt ai
peidio.
·
Cododd
yr Aelodau bryderon mai dim ond 2 flynedd o gyllid oedd wedi’i ddarparu ar hyn
o bryd. Esboniodd y Swyddogion fod y prosiect Helix wedi cael ei ddarparu drwy
gyllid yr Undeb Ewropeaidd am 5 mlynedd yn y lle cyntaf a bod Llywodraeth Cymru
wedi darparu un estyniad o ran cyllid craidd cyn yr estyniad diweddaraf o ddwy
flynedd. Roedd trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal gyda’r Swyddogion a’r
Gweinidogion ac roedd y Ganolfan yn llwyddo i gyrraedd y targedau a osodwyd.
Roedd cynlluniau yn cael eu datblygu rhag ofn na fyddai rhagor o gyllid yn cael
ei ddarparu. Hefyd, byddai angen i natur gwaith y Ganolfan fod yn fwy
masnachol. Gallai hyn effeithio ar fusnesau llai o faint gan y byddai mwy o
ffocws ar gynyddu incwm.
·
Dywedwyd
bod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn un o bartneriaid Arloesi Bwyd Cymru.
Roedd dyhead i weithio gyda myfyrwyr a oedd yn awyddus i ddatblygu gyrfa yn y
sector, a byddai hyn yn un o’r meysydd i’w gwella wrth symud ymlaen.
·
Codwyd
pryderon bod busnesau llwyddiannus wedi symud o Geredigion i fannau eraill yn y
wlad, a hynny at ddibenion trethi ac oherwydd heriau recriwtio yn y gorffennol.
Nodwyd mai uchelgais y Ganolfan oedd gweithio gyda busnesau o bob maint er mwyn
cael gwell dealltwriaeth a bu un busnes yn benodol yn ganolog i ddatblygiad
Canolfan Bwyd Cymru a’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
·
Ar hyn
o bryd, nid oedd digon o le yn y Ganolfan i fusnesau ddatblygu ar y safle ac
roedd hyn yn heriol ar adegau. Roedd y busnesau yn dueddol o symud i adeiladau
fferm neu ystadau diwydiannol, ond fel arfer, roedd angen gwneud gwaith i
sicrhau bod y cyfleusterau’n addas ar gyfer cynhyrchu bwyd. Un o elfennau
allweddol y Fargen Dwf oedd y gallu i ehangu ar y ddarpariaeth a oedd ar gael
er mwyn cwrdd â’r galw fel y gallai busnesau ddatblygu.
·
Ystyriwyd
bod gwaith dylunio a marchnata yn allweddol i fusnesau. Roedd Canolfan Bwyd
Cymru yn gweithio’n agos gyda Busnes Cymru a’r arbenigwyr marchnata Cywain, sef
prosiect a oedd yn cael ei redeg gan Menter and Busnes. Roedd sesiynau croesawu
ar gyfer busnesau newydd yn cael eu trefnu ar y cyd rhwng y tri busnes yn
rheolaidd. O ran hygrededd busnesau, roedd archwiliadau yn cael eu cynnal a
gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y cynnyrch yn hyfyw a bod yna farchnad
i’r cynnyrch cyn bod rhagor o waith yn cael ei wneud.
Yn dilyn cwestiynau
gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r adroddiad ac i gynnal ymweliad safle i adolygu gwaith y safle a'i
gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Dogfennau ategol: