Cofnodion:
Eglurodd y
Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol a Rheoli Carbon) mai pwrpas yr adroddiad oedd darparu gwybodaeth
ynglŷn â’r ddau argymhelliad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 5 Medi 2023 fel y
nodwyd isod:
Argymhelliad 1: Bod y Cabinet yn ystyried cynnal adolygiad
ynghylch codi tâl am barcio ar hyd y Promenâd yn Aberystwyth.
Argymhelliad 2: Bod y Cabinet yn ystyried cynnig i roi 2 awr o barcio am ddim rhwng 8am a 10am, o
ddydd Llun i ddydd Gwener, mewn un maes parcio ym mhob un o drefi Llanbedr
Pont Steffan, Aberaeron ac Aberteifi.
Rhoddodd Rhodri
Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
gyflwyniad i’r Pwyllgor ynglŷn â pharcio ar bromenâd Aberystwyth.
Amlinellwyd y canlynol:
·
Proses
·
Ystyriaethau
·
Adborth
Rhanddeiliaid
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb
gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
·
Pe
byddai penderfyniad yn cael ei wneud i godi tâl am barcio ar hyd y Promenâd,
teimlai’r Aelodau y byddai parcio ar gyfer preswylwyr yn allweddol. Awgrymwyd y
dylid ymchwilio i’r ffioedd a godir ar breswylwyr ar draws Cymru i sicrhau y
byddai’r hyn a godir am barcio yn deg. Dywedwyd na fyddai trwydded ar gyfer
preswylwyr yn rhoi sicrwydd y byddai lle parcio ar gael iddynt gan fod parcio
ar y stryd yn cael ei ddarparu ar y briffordd gyhoeddus.
·
Dywedwyd
bod nifer o’r rhai a oedd yn parcio ar hyd y Promenâd yn ystod y dydd yn bobl a
oedd wedi dod i’r dref i weithio. Ar hyn o bryd, pan nad oedd llefydd ar gael,
roedd yn rhaid i breswylwyr a oedd yn byw ar y promenâd fynd i chwilio am
lefydd parcio yn y strydoedd cyfagos. Codwyd pryderon y byddai codi tâl am
barcio yn lleihau’r nifer o lefydd rhad ac am ddim gerllaw gan y byddai pobl yn
mynd ati i chwilio am y llefydd hyn. Hefyd, o ystyried yr agenda newid
hinsawdd, gallai codi tâl ar hyd y Promenâd annog mwy o bobl i ddefnyddio
trafnidiaeth gyhoeddus i ddod i’r dref.
·
Awgrymodd
yr Aelodau fod angen adolygu’r sefyllfa o ran parcio yn Aberystwyth yn ei
chyfanrwydd gan fod datblygiadau newydd wedi golygu bod llai o lefydd parcio ar
gael ac nad oedd y ddarpariaeth yn ddigonol.
·
Pwysleisiodd
yr Aelodau y byddai’n hanfodol bod unrhyw gostau ychwanegol i’r gwasanaeth
(e.e. gosod peiriannau talu / arwyddion) yn cael eu hadennill drwy’r incwm a
fyddai’n cael ei greu. Dywedwyd bod arwyddion a oedd yn caniatáu i bobl dalu
ar-lein yn cael eu defnyddio’n eang mewn lleoliadau eraill ac y byddai hynny’n
well yn ariannol. Os mai dim ond rhan o’r Promenâd fyddai’n cael ei defnyddio i
godi tâl am barcio, byddai llai o gostau ond hefyd byddai llai o incwm.
·
Ar hyn
o bryd, am fod prinder llefydd, roedd anawsterau o ran parcio ar y Promenâd ond
pe byddai tâl yn cael ei godi am barcio, roedd yr Aelodau o'r farn y byddai mwy
o fynd a dod o ran cerbydau.
·
Codwyd
pryderon am nifer y beicwyr modur ar lan y môr a'r perygl yr oeddent yn ei beri
i’r cyhoedd; nodwyd mai mater i Heddlu Dyfed-Powys oedd hwn.
·
O
ystyried yr heriau i’r gyllideb, roedd rhan fwyaf yr Aelodau yn cytuno bod
angen i’r Awdurdod Lleol ystyried sut y gallai greu incwm o barcio. Roedd nifer
o’r Aelodau o’r farn bod codi tâl am barcio ar y Promenâd yn Aberystwyth yn
cynnig cyfle heb ei ail.
·
Nodwyd
nad oedd y gwasanaeth teithio a pharcio wedi bodoli yn Aberystwyth am rai
blynyddoedd. Roedd nifer o feysydd parcio ar gael gerllaw ynghyd â gwasanaethau
bysiau a threnau rheolaidd.
·
Dylid
ystyried yr agenda Teithio Llesol, cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin, cynllun
amddiffyn yr arfordir a strategaethau eraill, i sicrhau bod unrhyw newidiadau i
barcio ar y Promenâd yn cael eu cyflwyno mewn modd rhesymegol.
Rhoddodd Gerwyn
Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Amgylcheddol drosolwg i’r Pwyllgor o
effaith ariannol y cynnig i roi 2 awr o barcio am ddim rhwng 8am a 10am, o
ddydd Llun i ddydd Gwener, mewn un maes parcio ym mhob un o drefi Llanbedr Pont
Steffan, Aberaeron ac Aberteifi.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb
gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
·
Nododd
yr Aelodau fod yr argymhelliad yn cyfeirio at ystyried un maes parcio ym mhob
un o drefi Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron ac Aberteifi. Esboniwyd bod
trosolwg o’r meysydd parcio wedi’i ddarparu er mwyn rhoi’r cyd-destun ac fel y
gallai’r Aelodau gymharu data. Codwyd pryder pe byddai un maes parcio am ddim
am 2 awr y byddai hyn yn cael effaith ar y meysydd parcio eraill yn yr un dref,
ac yn sgil hynny, ar y targed o ran incwm a’r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd.
·
Codwyd
pryderon na fyddai darparu parcio am ddim cyn 10am o fudd i’r henoed ac o
ystyried yr argyfwng costau byw, codwyd pryderon am effaith unrhyw gynnydd yn y
ffioedd a godir am barcio ar aelwydydd.
·
Soniwyd
am bwysigrwydd sicrhau tegwch ar draws y sir. Er bod rhai gwasanaethau wedi dod
i ben mewn ardaloedd fel Llandysul, roedd disgwyl i holl drigolion Ceredigion
sybsideiddio’r gwasanaethau a oedd yn dal i fodoli ar draws y sir.
·
Nodwyd
bod angen dull gweithredu mwy holistaidd yn gyffredinol, ac y dylai’r Cabinet
ystyried datblygiad economaidd y trefi a chlywed barn y busnesau cyn gwneud
unrhyw benderfyniadau. Hefyd, dylid ystyried y
boblogaeth wledig a oedd yn defnyddio gwasanaethau lleol ond nad oedd ganddynt
fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor,
cytunwyd i nodi cynnwys yr adroddiad ac argymell y dylai’r Cabinet gynnal
adolygiad ynghylch codi tâl am barcio ar hyd y Promenâd yn Aberystwyth drwy’r
flwyddyn a chyflwyno parcio am ddim cyn 10am ym mhob un o feysydd parcio Talu
ac Arddangos Cyngor Sir Ceredigion. Byddai angen i’r Cabinet ystyried
goblygiadau ariannol ychwanegu Aberystwyth at y cynnig hwn gan na fyddai’r
Pwyllgor yn dymuno gweld unrhyw
newidiadau yn cael effaith ariannol negyddol ar yr Awdurdod.
Dogfennau ategol: