Cofnodion:
Adolygwyd Polisi, Strategaeth a Fframwaith
Rheoli Risgiau’r Cyngor bob tair blynedd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn
gyfredol ac yn cyflawni eu dibenion. Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaraf rhwng
Rhagfyr 2022 a Ionawr 2023.
Roedd canfyddiadau'r adolygiad eisoes wedi'u
hystyried gan y Grŵp Arweiniol ac wedi arwain at nifer o ddiweddariadau
i'r Polisi, Strategaeth a Fframwaith Drafft o ran Rheoli Risgiau.
Ar hyn o bryd, roedd y Polisi, y Strategaeth
a'r Fframwaith Rheoli Risgiau wedi'u diweddaru i adlewyrchu canfyddiadau'r
adolygiad a thueddiadau cyfredol mewn arferion gorau. Rhestrwyd y prif
ddiweddariadau yn yr adroddiad fel a ganlyn:-
•
Cryfhau monitro risgiau gwasanaethau –
bydd risgiau gwasanaethau sy'n sgorio 15 neu’n uwch yn cael eu hasesu'n
chwarterol gan y Grŵp Arweiniol er mwyn uwchgyfeirio i'r Gofrestr Risgiau
Corfforaethol ac i'r gwrthwyneb.
•
Bydd risgiau gwasanaethau yn cael eu
hychwanegu i System Rheoli Perfformiad Teifi er mwyn iddynt gael eu diweddaru
a’u rheoli drwy’r system.
•
Eglurwyd mai’r trothwy ar gyfer
uwchgyfeirio / is-gyfeirio risgiau i’w hystyried gan y Grŵp Arweiniol yw
15.
•
Eglurwyd mai'r Grŵp Arweiniol oedd
yn gyfrifol am benderfynu a ddylai risgiau gael eu huwchgyfeirio neu eu
his-gyfeirio
•
Egluro rôl Archwilio Mewnol yn y Polisi
a'r Fframwaith, sef asesu a gwerthuso effeithiolrwydd y camau gweithredu sydd
ar waith i liniaru risgiau a rhoi sicrwydd gwrthrychol bod risgiau'n cael eu
rheoli'n briodol. Yn ogystal, byddai Archwilio Mewnol hefyd yn rhoi sicrwydd
gwrthrychol i'r Grŵp Arweiniol, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r
Cyngor ynghylch cadernid ac effeithiolrwydd y gweithdrefnau rheoli risgiau trwy
gynnwys adolygiadau cyfnodol o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol, Cofrestr
Risgiau Gwasanaethau a gweithdrefnau Rheoli Risgiau Corfforaethol.
•
Egluro y dylid rhoi sgorau “risg
targed” i gyd-fynd â’r camau lliniaru ar gyfer risg, h.y. i ba sgôr y dylid
lleihau’r risg drwy gyflawni’r camau lliniaru a nodwyd.
Ar ôl cymeradwyo'r ddogfen ddrafft o ran Rheoli
Risgiau, penderfynodd y Grŵp Arweiniol y byddai ymarfer ymgynghori wedi'i
gyfyngu i randdeiliaid allweddol yn cael ei gynnal i gynnwys aelodau'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio a Zurich Insurance. Yn dilyn yr ymgynghoriad,
byddai'r dogfennau terfynol yn cael eu cymryd drwy'r broses ddemocrataidd i'w
cymeradwyo'n derfynol.
Anfonwyd llythyr ymgynghori at holl aelodau'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Fehefin y 30ain, yn gwahodd sylwadau
ysgrifenedig erbyn 25ain Awst. Cafwyd
ateb manwl a defnyddiol gan Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ac mae'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Cafwyd ateb Zurich hefyd ac
nid ydynt yn cynnig dim newidiadau i'r drafft.
Ar ôl ystyried yr ymateb/ion, byddai'r
dogfennau rheoli risgiau yn cael eu diwygio i gynnwys unrhyw newidiadau
gofynnol. Byddai'r dogfennau rheoli risgiau wedi'u diweddaru yn cael eu rhannu
â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod nesaf ac yna'n cael eu
cymryd drwy'r broses Ddemocrataidd i'w cymeradwyo. Byddai unrhyw adborth
pellach gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch y Polisi, y
Strategaeth a’r Fframwaith Rheoli risgiau bryd hynny yn cael ei gynnwys mewn
adroddiadau dilynol
Yn dilyn trafodaeth, nid yw’r Grŵp
Arweiniol yn ystyried bod angen gweithdy ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ar y pwnc hwn, gan fod holl aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio wedi cael cyfle i ymgysylltu â’r ymgynghoriad dros yr haf.
CYTUNWYD:-
(i) i nodi'r Polisi, y Strategaeth a’r
Fframwaith drafft o ran Rheoli Risgiau;
(ii) i nodi'r cynnydd presennol a'r camau nesaf; a
(iii) hysbysu’r Grŵp Arweiniol os
oedd Aelodau o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi gofyn am weithdy i
gael ei drefnu ar gyfer mater penodol neu os oeddent yn dymuno mynychu gweithdy
cyllideb er enghraifft, yna dylid caniatáu hyn
Dogfennau ategol: