Eitem Agenda

Adroddiad Diogelu Gr?p Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 4 2022/23

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS ar gyfer Chwarter 4, rhwng y cyfnod 1af Ionawr i 31ain Mawrth 2023, 2022/23.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod o’r Cabinet, i roi crynodeb o’r pwyntiau allweddol, a oedd fel a ganlyn:

 

Crynodeb o’r pwyntiau Allweddol:

Ø  Yn Chwarter 4, roedd gostyngiad yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd ynghylch plant/pobl ifanc o'i gymharu â Chwarter 3 gyda 1112 o gysylltiadau/adroddiadau wedi'u derbyn yn Chwarter 3 o'i gymharu â 1010 o gysylltiadau/adroddiadau yn Chwarter 4.

Ø  Fodd bynnag, roedd cynnydd yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a aeth ymlaen i gymryd camau o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant o 193 yn Chwarter 3 o'i gymharu â 200 yn Chwarter 4.

Ø  Canran yr adroddiadau a aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth yn y chwarter hwn oedd 19.8% o'i gymharu â 17.3% yn Chwarter 3.

Ø  Yn Chwarter 3, aeth 7.3% o adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran 47 o'i gymharu ag 8.4% yn Chwarter 4. Yn y chwarter hwn, roedd angen i 1.6% o adroddiadau a dderbyniwyd fynd ymlaen i Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant, sef yr un ganran a aeth ymlaen i gynhadledd yn Chwarter 3.

Ø  Cyfanswm y plant sy'n destun Cynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant yn Chwarter 4 oedd 23, ac mae hyn yn cymharu â 35 yn Chwarter 3.

Ø  Cyfanswm y plant a gafodd eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn Chwarter 4 yn dilyn y Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant oedd 20 o'i gymharu â 31 yn Chwarter 3.

Ø  Cyfanswm y plant a gafodd eu dileu o'r gofrestr ar ôl Cynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn oedd 15 o'i gymharu â 28 yn Chwarter 3.

Ø  Cyfanswm yr Ymholiadau Adran 47 a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn oedd 85 o'i gymharu ag 81 yn Chwarter 3. Cafodd 70 o'r ymholiadau hyn eu cynnal ar y cyd â'r Heddlu, a chafodd 25 eu cynnal fel un Asiantaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ø  Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 4 oedd cam-drin corfforol (32), cam-drin/cam-fanteisio rhywiol (24), cam-fanteisio arall (11), esgeulustod (9) a cham-drin emosiynol (8). Mae hyn yn dilyn yr un patrwm a welwyd yn Chwarter 3.

Ø  Roedd 52 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn, o'i gymharu â 49 ar ddiwedd Chwarter 3. Roedd 22 o blant wedi'u cofrestru o dan y categori cam-drin emosiynol/seicolegol yn y chwarter hwn, 26 o dan y categori esgeulustod a 4 o dan y categori esgeulustod a cham-drin emosiynol/seicolegol.

Ø  Y prif ffactorau risg ar gyfer y 52 o blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar 31/03/23 oedd cam-drin domestig, iechyd meddwl rhieni, rhieni'n camddefnyddio sylweddau/alcohol a rhieni'n gwahanu.

Ø  O ran Diogelu Oedolion, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin a/neu eu hesgeuluso, gyda 190 o oedolion mewn perygl wedi'u hadrodd yn y chwarter hwn o'i gymharu â 142 yn Chwarter 3.

Ø  Unwaith eto, y categori cam-drin yr adroddwyd amdano fwyaf y chwarter hwn oedd cam-drin emosiynol/seicolegol, gyda 97 o adroddiadau o oedolion mewn perygl lle mai hwn oedd y prif gategori o gam-drin. Esgeulustod oedd yr ail brif gategori o gam-drin a adroddwyd (66), yna cam-drin corfforol (62), cam-drin ariannol (40), a cham-drin rhywiol (24).  Mae hyn yn dilyn patrwm y chwarter blaenorol.

Ø  O'r adroddiadau a dderbyniwyd, mewn perthynas â phob categori o gam-drin, adroddir mai menywod sy'n wynebu'r risg fwyaf, a hynny o gryn dipyn.  Fodd bynnag, o ran pryderon ynghylch esgeulustod, roedd mwy o wrywod (36) yn cael eu heffeithio gan y categori hwn o gam-drin na merched (30), sydd yn wahanol iawn i'r chwarteri blaenorol.

Ø  Yn Chwarter 4, fel yn Chwarter 3, yr Heddlu oedd y ffynhonnell fwyaf o adroddiadau (46).

 

Yna atebodd Elizabeth Upcott, Rheolwr Tîm, y cwestiynau a godwyd gan Aelodau'r Pwyllgor.

Yn dilyn trafodaethau, nodwyd y canlynol:

Ø  Ymhellach i gwestiwn ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y cyfarfodydd a gynhelir, cadarnhawyd gan eu bod yn gyfarfodydd Statudol ac felly bod yn rhaid eu cynnal. Gyda sawl asiantaeth ynghlwm gall hyn weithiau atal uwchgyfeirio ac arbed adnoddau yn yr hirdymor.

 

Cytunodd yr Aelodau i nodi cynnwys yr adroddiad a'r lefelau gweithgarwch gyda'r Awdurdod Lleol, fel bod gwaith llywodraethu gweithgarwch yr Awdurdod Lleol a'i asiantaethau partner yn cael ei fonitro.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod o’r Cabinet ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, am fynychu a chyflwyno yng nghyfarfod y bore ’ma.

 

 

Dogfennau ategol: