Eitem Agenda

Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad drafft a Fframwaith Rheoli Perfformiad

Cofnodion:

 

 

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies yr adroddiad ynghylch y Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad Drafft a'r Fframwaith Rheoli Perfformiad. Roedd Rob Starr, Rheolwr Ymchwil a Pherfformiad, Diana Davies, Rheolwr Corfforaethol, ac Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, hefyd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Dros y pedair blynedd diwethaf mae'r Cyngor wedi bod yn cryfhau ei ddull o reoli perfformiad corfforaethol fel rhan o'i “siwrnai” barhaus o ran perfformiad. Mae wedi:

Ø  Cyflwyno proses newydd symlach o gynllunio busnes, 

Ø  Cyflwyno dangosfyrddau perfformiad newydd i fonitro’r cynnydd - ar sail cynlluniau busnes lefel 1 - drwy’r Bwrdd Perfformiad,

Ø  Adfywio System Berfformio Teifi,

Ø  Diweddaru’r broses o reoli perfformiad yn dilyn COVID-19 er mwyn cynnwys “ymarfer myfyriol” fel elfen graidd.

 

Adlewyrchir hyn yn yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan Archwilio Cymru i ddull y Cyngor o reoli perfformiad.

 

Mae deddfwriaeth ddiweddar, ar ffurf y drefn berfformio newydd sy'n seiliedig ar Hunanasesu, hefyd wedi golygu bod angen ffordd newydd o asesu ein perfformiad cyffredinol. Llwyddwyd i gyflwyno proses Hunanasesu newydd yn 2022/23 a chyhoeddwyd Adroddiad Hunanasesu cyntaf y Cyngor ym mis Ionawr 2023.

 

Ar ôl cyflwyno'r prosesau newydd hyn mae'r Cyngor bellach mewn sefyllfa i dynnu'r rhain ynghyd i greu dogfen ddrafft Fframwaith Rheoli Perfformiad. 

Ystyrir bod Fframwaith Rheoli Perfformiad yn arfer da ac mae’n esbonio:

Ø  Sut mae'r broses gorfforaethol o reoli perfformiad yn gweithio,

Ø  Sut mae'r prosesau unigol yn cyd-fynd â’i gilydd i gefnogi cynllunio corfforaethol

Ø  Sut mae rheoli perfformiad yn cael ei ddefnyddio i gyflawni’r Amcanion Llesiant Corfforaethol a chanlyniadau gwell.

 

Mae nod dwbl i’r Fframwaith.

1) darparu dull safonol i'r Cyngor o reoli perfformiad a,

2) fel rhan allweddol o'r trywydd archwilio i ddangos bod gan y Cyngor drefniadau rheoli perfformiad cadarn ar waith. 

 

Mae Datganiad y Polisi Rheoli Perfformiad yn cyd-fynd â'r Fframwaith Perfformiad. Mae’r Datganiad yn nodi prif egwyddorion y Cyngor o ran rheoli perfformiad ac yn ystyried y ddeddfwriaeth newydd ac arfer da. Yn benodol, mae’n tynnu sylw at rôl hanfodol rheoli perfformiad wrth wella’r canlyniadau i bobl a chymunedau Ceredigion ac wrth ategu’r gwaith o lunio polisïau a dod i benderfyniad ar sail tystiolaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, nodwyd y canlynol:

Ø  Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod cyfarfodydd chwarterol y Bwrdd Perfformiad yn parhau.

Ø  Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod mesurau perfformiad monitro cyfyngedig yn eu lle, ac yn parhau i fod, gyda chymariaethau gan Awdurdodau Lleol cyfagos ac Awdurdodau Lleol o faint tebyg.

Ø  Yn dilyn cwestiwn, cadarnhawyd bod y Mesurau Atebolrwydd Perfformiad cenedlaethol blaenorol bellach wedi darfod yn dilyn cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fodd bynnag, mae Data Cymru yn arwain prosiect i ddisodli’r mesurau gyda Theclyn Data Hunanasesu newydd a fydd yn rhoi data meincnodi cenedlaethol. Bydd gwaith pellach yn parhau i ddatblygu'r teclyn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac mae Ceredigion yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi'r prosiect.  

 

Cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn:

 

Ø  Derbyn a chymeradwyo’r Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad drafft a’r Fframwaith Rheoli Perfformiad.

Er mwyn mabwysiadu Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad diweddaredig a Fframwaith Rheoli Perfformiad sy’n amlinellu’r prif egwyddorion ar gyfer rheoli perfformiad yn y Cyngor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd y Cyngor a'r Swyddogion am yr adroddiad ac am y gwaith da parhaus.

 

Dogfennau ategol: