Cofnodion:
Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Barry
Rees, y Pwyllgor am y cyfle i drafod y mater dan sylw. Rhoddwyd trosolwg
o'r newidiadau a gynigiwyd yn dilyn ymgynghoriad
cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng Hydref a Rhagfyr 2022 ar y gwaith o ddiwygio TGAU
gan Gymwysterau Cymru, corff statudol annibynnol a ariennir gan Lywodraeth
Cymru. Fe fyddai'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru
a bwrdd arholi CBAC fyddai’n gweithredu'r newidiadau.
Cyhoeddwyd
canlyniadau'r ymgynghoriad yn ddiweddar iawn a dyna pam rhoddir diweddariad ar
lafar yn hytrach nag adroddiad ysgrifenedig. Gellid nodi nifer o bryderon o'r
canlyniad, gan gynnwys cyfuno Bioleg, Cemeg a Ffiseg i greu TGAU y Gwyddorau
(Dyfarniad Dwbl), a fyddai'n arwain at ddileu TGAU gwyddoniaeth ar wahân
(Dyfarniad Triphlyg) a gynigir gan 80% o ysgolion Cymru.
Roedd
y dystiolaeth o ddeilliannau'r Ymgynghoriad yn awgrymu bod consensws yr 456 o
ymatebwyr wedi cael ei ddiystyru, fel yr adlewyrchir yn y canfyddiadau
isod:
Er gwaethaf yr ymatebion clir, roedd
Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi y byddai TGAU y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) yn
cael ei ddatblygu, gan ddisodli TGAU gwyddoniaeth ar wahân. Gallai'r
penderfyniad hwn arwain at heriau i ddisgyblion a oedd yn dymuno dilyn llwybrau
traddodiadol, megis astudio meddygaeth neu filfeddygaeth yn y brifysgol ac ar
gyfer prentisiaethau. Fel yr amlinellwyd yn Strategaeth Gorfforaethol yr
awdurdod lleol, un amcan oedd hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi
cyflogaeth, felly, roedd sgiliau gwyddonol cryf yn allweddol ar gyfer mentrau
lleol megis AberInnovation a Chanolfan Bwyd
Cymru. Eglurodd Barry Rees fod
gwybodaeth wedi ei rhannu am y cynigion gydag arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol,
Cadeirydd y Pwyllgor a'r Aelod Cabinet perthnasol.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Barry Rees. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· Roedd y sector
addysg uwch yn rhan o'r ymgynghoriad ac wedi cadarnhau fod y llwybr o’r TGAU
Dyfarniad Dwbl i Safon Uwch ac ymlaen i addysg uwch yn ddilys. Er hyn, codwyd
pryderon gan Swyddogion ac Aelodau y byddai'n creu llwybr anoddach i
ddisgyblion o'i gymharu â disgyblion yn Lloegr a fyddai'n elwa o astudio TGAU
gwyddoniaeth ar wahân ac a fyddai'n cadw'r llwybr llinellol.
· Mynegwyd
pryderon fod y newidiadau fyddai'n cael eu cyflwyno o fis Medi 2025 ymlaen yn
gam sylweddol yn ôl ac y byddai'n atal disgyblion rhag arbenigo mewn pynciau.
· Awgrymwyd
y gallai'r newidiadau fod yn sgil diffyg athrawon, fodd bynnag, byddai'r ateb
hwn yn creu problem arall.
· Roedd
newidiadau yn cael eu cynnig ar gyfer pynciau eraill hefyd. Bydd adroddiad yn
cael ei gyflwyno mewn cyfarfod diweddarach.
· Holwyd
am y rhesymeg y tu ôl i’r newidiadau. Nodwyd bod uchelgais i roi addysg gytbwys
i ddisgyblion. Yn ogystal, byddai'n
caniatáu peth amser yn y Cwricwlwm i ddisgyblion astudio pynciau eraill gan
gynnwys Bagloriaeth Cymru. Ystyriwyd bod cyfuniad o bynciau traddodiadol/
academaidd a galwedigaethol yn bwysig ond roedd tynnu’r dewis oddi wrth
ddisgyblion yn peri pryder.
· Y
cam nesaf i Gymwysterau Cymru oedd cyflwyno'r cynigion yn ffurfiol i Lywodraeth
Cymru i benderfynu yn eu cylch. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd cyfleoedd i fynegi
barn am y newidiadau wrth y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a dau ffigwr
allweddol (Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru a Jeremy
Miles AS, y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg).
· Mynegodd
yr aelodau bryderon ynghylch a fyddai'r newidiadau yn cael effaith ar geisiadau
i brifysgolion. Honnodd Cymwysterau Cymru y byddai TGAU y Gwyddorau (Dyfarniad
Dwbl) yn ddigonol gan fod y pwyntiau ar gyfer mynediad yn seiliedig ar raddau
Safon Uwch. Roedd cyrsiau megis meddygaeth eisoes yn anodd i gael lle arnynt o
ystyried y graddau uchel oedd eu hangen, ac o ganlyniad, sefydlwyd cyrsiau
sylfaen. Roedd hyn yn
creu llwybr hir i ddisgyblion gyrraedd eu nod, fodd bynnag, byddai'r newidiadau
a gynigir yn ei gwneud hi’n fwy heriol eto.
Yn dilyn argymhellion gan Aelodau'r Pwyllgor, cytunwyd y
byddai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol
Barry Rees yn drafftio llythyr i'w anfon at Brif Weithredwr Cymwysterau
Cymru, a Llywodraeth Cymru a Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i fynegi pryderon dwfn gan ganolbwyntio ar dair
egwyddor: tynnu'r dewis oddi wrth y disgyblion, diystyru barn yr ymatebwyr a'r
effaith ar lwybr addysgol disgyblion. Cytunwyd y byddai'r llythyr yn cael ei
rannu gyda'r Pwyllgor a'i gyflwyno yn enw’r Pwyllgor.