Eitem Agenda

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Y Gyfraith a Llywodraethu ar newidiadau i'r Cyfansoddiad a Chanllaw'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet ar gyfer Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor, gan nodi bod y Canllaw i’r Cyfansoddiad a’r diwygiadau arfaethedig wedi’u hystyried gan Weithgor y Cyfansoddiad yn ei gyfarfodydd yn dwyn dyddiad Ebrill y 25ain 2023 pan gafodd y diwygiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn eu hystyried. Cynhaliwyd cyfarfod ychwanegol ar Fehefin yr 22ain 2023 i ystyried diwygiadau a newidiadau pellach a wnaed mewn ymateb i sylwadau gan y gweithgor.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod nifer y Cynghorwyr wedi gostwng o 42 i 38, a oedd wedi gosod cyfrifoldebau ychwanegol ar bob un ohonynt ac yn enwedig Cadeiryddion Pwyllgorau, a bod croeso i Aelodau gysylltu ag ef os oeddent yn dymuno adolygu gofynion y Cyfansoddiad. 

 

Gofynnodd yr aelodau hefyd am gael cyfle i ailedrych ar bwerau dirprwyedig mewn perthynas â'r broses gynllunio, ac yn enwedig cyfeiriad y daith wrth ddatgelu buddiant ynghylch cais penodol. Cadarnhaodd y swyddogion fod hon yn ddogfen fyw, a bod diwygiadau pellach i'w hystyried.

 

Gofynnodd yr Aelodau hefyd am eglurder mewn perthynas â nifer yr Aelodau, a gofynion cworwm y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.

 

PENDERFYNODD y Cyngor yn unfrydol:

1.    Cymeradwyo'r Canllaw i’r Cyfansoddiad fel y'i diwygiwyd (yn Atodiad 1);

2.    Cymeradwyo'r newidiadau i'r Cyfansoddiad (yn Atodiadau 2 – 16); a

3.    Awdurdodi’r Swyddog Monitro i ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau uchod.

Dogfennau ategol: