Eitem Agenda

I ystyried y rhybudd o gynnig canlynol a gyflwynwyd yn unol â Rheol 10.1 o Reolau a Gweithdrefnau'r Cyngor

Cynigwyd gan:  Cynghorydd Catrin M S Davies

Eiliwyd gan: Cynghorydd Rhodri Davies

 

Noda’r Cyngor:

Gwyddom bod cysylltedd digidol gwael yn parhau i fod yn broblem ddifrifol mewn llawer o ardaloedd gwledig ar draws Ceredigion a bod mynediad at wasanaethau ar-lein a'r defnydd ohonynt yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill mewn cymdeithas; a bod hwn yn gallu achosi tan berfformio economaidd ac arwain at dlodi gwledig pellach yn ein sir. Gall cysylltedd gwael arwain at golli cyfleoedd economaidd heh sôn am ei effaith ar addysg ein plant a bobl ifanc.

 

Ar ôl bod yn trafod a chydweithio a chymunedau lleol ers dros 2 flynedd roedd y darparwr rhwydwaith amgen, Broadway Partners, wedi ymdrechu'n ddygn i osod eu rhwydwaith Ffibr i'r Adeilad eu hunain, sydd a gallu gigabit, ar draws gogledd Ceredigion. Rhywbeth a allai chwyldroi bywydau nifer o'n trigolion ac a fyddai yn gwella twf economaidd ar draws y sir.

 

Amlinellwyd a chaniatawyd 5 prosiect i ‘Broadway Partner' yng ngogledd Ceredigion, ond yn ddiweddar mae BDUK (Building Digital UK) wedi oedi cyllid ar gyfer 2 o'r prosiectau (sef Ysgubor y Coed a Phontarfynach), gan nodi y byddai'r ardaloedd hyn bellach yn debygol o ddod i fewn i gwmpas yr ymarfer caffael ledled Cymru, a gynhelir gan BDUK. Roedd hyn yn chwalu cynllun ‘Broadway partners’ i bob pwrpas.

 

Galwodd ‘Broadway Partners’ y gweinyddwyr i fewn ddiwedd Mai 2023. Mae'r gweinyddwyr ar hyn o bryd yn chwilio am brynwyr i gymryd drosodd rhan neu'r cyfan o'r fusnes ac mae nhw'n gobeithio y bydd y broses yn dod i ben erbyn diwedd Gorffennaf 2023. Ond nid yw sicrhau prynwr yn gwarantu y bydd y prosiectau seilwaith arfaethedig yn parhau i gael eu hadeiladu yn wardiau Melindwr a Ceulan a Maesmawr.

 

Mae model cyllido presennol Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn anodd i ddarparwyr rhwydwaith amgen lenwi'r bwlch cysylltedd mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, byddai'n briodol i Lywodraeth y DU ymyrryd i gefnogi'r cymunedau hyn, ac yn benodol helpu i ganfod cwmni a all gymryd dr:osodd y cynlluniau sydd wedi'u gadael heb eu gorffen ac i gynnwys yr ardaloedd gwreiddiol sef Ysgubor y Coed a Pontarfynach. Mae'r cymunedau hyn eisoes wedi aros yn llawer rhy hir am gysylltedd band eang digonol. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw'r cynlluniau yn cael eu gohirio ymhellach.

 

Felly, mae'r Cyngor yn:

a)   Gofyn i BDUK edrych ar fyrder ar ddarparu gysylltedd cyflym i ardaloedd Ceulan a Maesmawr, a Melindwr -y cysylltedd hwnnw a addawyd dwy flynedd yn ôl.

b)   Gofyn i Lywodraeth y DU, a'r Adran ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, ymyrryd i gefnogi'r cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan gwymp Broadway Partners', ac yn benodol helpu i ganfod cwmni a all gymryd drosodd y cynlluniau sydd wedi'u gadael heb eu gorffen ac i gynnwys yr ardaloedd gwreiddiol sef Ysgubor y Coed a Pontarfynach.

c)   Noder gan Lywodraeth Cymru bod cysylltedd digidol yr un mor bwysig a cynhwysiant digidol (mae'n anodd cael un heb y llall) felly beth y maen nhw yn ei wneud i gefnogi ardaloedd gwledig Ceredigion sydd wedi eu heffeithio gan gwymp y cwmni Broadway Partners'?

ch) Rydym yn gofyn am fanylion gan Lywodraeth y DU, a'r Adran ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, ynghylch eu proses caffael Prosiect Gigabit yng Nghymru, yn benodol ardaloedd o Geredigion sy'n dal yn ddigidol ddi-freintiedig, a hefyd am amserlen bendant ar gyfer dod a chysylltedd cyflym i'r sir gyfan.

 

Cofnodion:

Cynigydd: Y Cynghorydd Catrin M S Davies

Eilydd: Y Cynghorydd Rhodri Davies

 

Noda’r Cyngor:

Gwyddom fod cysylltedd digidol gwael yn parhau i fod yn broblem ddifrifol mewn llawer o ardaloedd gwledig ar draws Ceredigion a bod mynediad at wasanaethau ar-lein a'r defnydd ohonynt yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill mewn cymdeithas; a bod hwn yn gallu achosi tan berfformio economaidd ac arwain at dlodi gwledig pellach yn ein sir. Gall cysylltedd gwael arwain at golli cyfleoedd economaidd heb sôn am ei effaith ar addysg ein plant a phobl ifanc.

 

Ar ôl bod yn trafod a chydweithio a chymunedau lleol ers dros 2 flynedd roedd y darparwr rhwydwaith amgen, ‘Broadway Partners’, wedi ymdrechu'n ddygn i osod eu rhwydwaith Ffibr i'r Adeilad eu hunain, sydd a gallu gigabit, ar draws gogledd Ceredigion. Rhywbeth a allai chwyldroi bywydau nifer o'n trigolion ac a fyddai yn gwella twf economaidd ar draws y sir.

 

Amlinellwyd a chaniatawyd 5 prosiect i ‘Broadway Partners' yng ngogledd Ceredigion, ond yn ddiweddar mae BDUK (Building Digital UK) wedi oedi cyllid ar gyfer 2 o'r prosiectau (sef Ysgubor y Coed a Phontarfynach), gan nodi y byddai'r ardaloedd hyn bellach yn debygol o ddod i mewn i gwmpas yr ymarfer caffael ledled Cymru, a gynhelir gan BDUK. Roedd hyn yn chwalu cynllun ‘Broadway partners’ i bob pwrpas.

 

Galwodd ‘Broadway Partners’ y gweinyddwyr i mewn ddiwedd Mai 2023. Mae'r gweinyddwyr ar hyn o bryd yn chwilio am brynwyr i gymryd drosodd rhan neu'r cyfan o'r busnes ac maen nhw'n gobeithio y bydd y broses yn dod i ben erbyn diwedd Gorffennaf 2023.  Ond nid yw sicrhau prynwr yn gwarantu y bydd y prosiectau seilwaith arfaethedig yn parhau i gael eu hadeiladu yn wardiau Melindwr a Cheulan a Maesmawr.

 

Mae model cyllido presennol Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn anodd i ddarparwyr rhwydwaith amgen lenwi'r bwlch cysylltedd mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, byddai'n briodol i Lywodraeth y DU ymyrryd i gefnogi'r cymunedau hyn, ac yn benodol helpu i ganfod cwmni a all gymryd drosodd y cynlluniau sydd wedi'u gadael heb eu gorffen ac i gynnwys yr ardaloedd gwreiddiol sef Ysgubor y Coed a Phontarfynach. Mae'r cymunedau hyn eisoes wedi aros yn llawer rhy hir am gysylltedd band eang digonol. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw'r cynlluniau yn cael eu gohirio ymhellach.

 

Felly, mae'r Cyngor yn:

a) Gofyn i BDUK edrych ar fyrder ar ddarparu cysylltedd cyflym i ardaloedd Ceulan a Maesmawr, a Melindwr -y cysylltedd hwnnw a addawyd dwy flynedd yn ôl.

b) Gofyn i Lywodraeth y DU, a'r Adran ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, ymyrryd i gefnogi'r cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan gwymp ‘Broadway Partners', ac yn benodol helpu i ganfod cwmni a all gymryd drosodd y cynlluniau sydd wedi'u gadael heb eu gorffen ac i gynnwys yr ardaloedd gwreiddiol sef Ysgubor y Coed a Phontarfynach.

c) Noder gan Lywodraeth Cymru bod cysylltedd digidol yr un mor bwysig â chynhwysiant digidol (mae'n anodd cael un heb y llall) felly beth y maen nhw yn ei wneud i gefnogi ardaloedd gwledig Ceredigion sydd wedi eu heffeithio gan gwymp y cwmni ‘Broadway Partners'?

ch) Rydym yn gofyn am fanylion gan Lywodraeth y DU, a'r Adran ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, ynghylch eu proses caffael Prosiect Gigabit yng Nghymru, yn benodol ardaloedd o Geredigion sy'n dal yn ddigidol ddifreintiedig, a hefyd am amserlen bendant ar gyfer dod a chysylltedd cyflym i'r sir gyfan.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Catrin M S Davies y Rhybudd o Gynnig, gan amlygu’r pryderon ynghylch cysylltedd digidol gwael ledled y sir. Nododd fod mynediad i wasanaethau ar-lein yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill mewn cymdeithas a all achosi tanberfformiad economaidd a thlodi gwledig pellach gyda cholli gweithgarwch economaidd, heb sôn am yr effaith ar addysg plant a phobl ifanc.  Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Rhodri Davies, a bwysleisiodd y pryder ynghylch oedi wrth ariannu’r prosiectau yn Ysgubor y Coed a Phontarfynach a chwymp Broadway Partners a oedd yn golygu efallai na fyddai’r gwaith wedi’i gwblhau cyn 2029.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i’r aelodau am gyflwyno’r cynnig, gan nodi ei bod yn ymddangos bod ffocws ar ddatblygu band eang tra chyflym mewn ardaloedd trefol, yn hytrach nag anghenion ardaloedd gwledig. Nododd fod Ceredigion yn ddibynnol iawn ar y sector twristiaeth ac amaethyddiaeth, ac mae’r ddau ddiwydiant yn ddibynnol iawn ar gysylltedd, felly mae’n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn gwrando ar ein pryderon.

 

Nododd yr aelodau eu pryderon bod trigolion yn gorfod buddsoddi yn eu technoleg eu hunain, a bod teuluoedd mewn rhai ardaloedd difreintiedig yn ddibynnol ar 1–3Mbps sy'n golygu na allant ddefnyddio mwy nag un ddyfais yn y tŷ ar unrhyw adeg.  Holodd yr Aelodau hefyd am rôl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn a gofynnon nhw am weithdy i gael ei gynnal i adolygu statws cysylltedd gwahanol ardaloedd yn y Sir.  Nodwyd hefyd y byddai gwell cysylltedd yn cyfrannu at lai o ôl troed carbon, gyda rhagor o bobl yn gallu mynychu cyfarfodydd o bell, a gweithio o gartref.

 

Nododd y Cynghorydd Clive Davies fod Swyddog Cysylltedd Digidol bellach wedi’i benodi, ac un o’r tasgau cyntaf fydd creu darlun o ble mae’r bylchau o fewn y sir.  Nododd nad yw’r rhaglen ddigideiddio wedi’i datganoli i Lywodraeth Cymru, a lle’r oedd hon yn cael ei hariannu o’r blaen gan arian Ewropeaidd mae bellach yn cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth y DU, gyda’r meini prawf yn newid yn gyson.  Argymhellodd fod copi o’r Cynnig yn cael ei rannu ag Eleanor Williams, Pennaeth Ofcom Cymru er mwyn iddi fod yn ymwybodol o’r pryderon, ac yn gallu eu hanfon ymlaen at Lywodraeth y DU.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD derbyn y Cynnig fel y’i cyflwynwyd.

Dogfennau ategol: