Eitem Agenda

Adolygiad o threfniadau Gweithio yn Hybrid

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Bryan Davies yr adroddiad gan amlinellu’r canlynol o ran y trefniadau Gweithio Hybrid:-

 

         Y Cefndir

         Prosiect ‘Y Ffordd yr Ydym yn Gweithio

         Y Strategaeth Gweithio Hybrid

         Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro

         Penawdau’r Polisi

         Adolygiad

         Rheolwyr Llinell

 

    

Dywedwyd bod 95% o weithwyr yn cytuno bod eu profiad o weithio’n hybrid wedi bod yn gadarnhaol a bod canlyniadau’r gweithwyr a’r rheolwyr llinell yn debyg iawn. Roedd y gweithwyr wedi nodi’r hyn yr oeddent yn ei ffafrio yn glir. Nid oedd cynifer o weithwyr wedi nodi eu bod yncytuno’n gryf’ bod gweithio hybrid wedi arwain at fudd ariannol ond roedd bron i 80% o weithwyr yn credu bod gweithio hybrid wedi bod o fudd iddynt. Pan ofynnwyd iddynt a fyddent yn ystyried swydd arall pe byddai eu hawl i weithio mewn ffordd hybrid yn dod i ben, dywedodd 39% y bydden nhw; dywedodd 24% na fydden nhw, ac roedd y 37% a oedd yn weddill yn ansicr.

 

Roedd canlyniadau’r arolwg yn dangos yn glir, o safbwynt y rheolwyr llinell a’r gweithwyr, fod gweithio hybrid yn cael ei ystyried yn rhywbeth buddiol ac yn fodd o gadw staff. Argymhellwyd felly y dylid derbyn gweithio hybrid fel opsiwn gweithio hyblyg yn yr hirdymor ac y dylid diwygio’r Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro i adlewyrchu hyn.

 

Pe byddai’r cynnig i fabwysiadu’r opsiwn gweithio hybrid i weithwyr yn cael ei gymeradwyo’n barhaol, dywedwyd y byddai modd rhyddhau gofod swyddfa nad oedd wedi’i ddefnyddio’n llawn yn ystod cyfnod treialu’r trefniadau gweithio hybrid dros dro. Roedd y 12 mis diwethaf wedi dangos bod y capasiti presennol o ran desgiau ar gyfer gweithio hybrid yng Nghanolfan Rheidol a Phenmorfa wedi gallu bodloni’r galw yn ei ffurf bresennol. Serch hynny, derbyniwyd y byddai angen rhoi trefniadau mwy parhaol ar waith yn y ddau leoliad. Yn ystod y cyfnod treialu a barodd 12 mis, roedd y defnydd o ddesgiau ar ei uchaf ddechrau mis Rhagfyr, ac roedd nifer yr ystafelloedd a archebwyd ar ei uchaf ym mis Mawrth 2023. Gwelwyd bod y defnydd cyfartalog dros fisoedd y gaeaf yn uwch nag yn ystod misoedd cynhesach yr haf, ond roedd yn parhau i fod o fewn terfynau’r capasiti mwyaf.

 

Cynigiwyd y dylai’r swyddogion gynnal adolygiad o holl swyddfeydd y Cyngor ar draws ei ystâd gan nodi’r posibiliadau o addasu’r swyddfeydd at ddibenion gwahanol. O ganlyniad i’r gwaith ymgysylltu gyda’r cyhoedd ar y defnydd o swyddfeydd y Cyngor yn y dyfodol, cafwyd nifer o awgrymiadau ynghylch ffyrdd posibl o’u defnyddio, gan gynnwys defnyddio’r adeiladau fel cyfleusterau ar gyfer y gymuned, ysbyty neu leoliad gofal iechyd ac fel mannau ar gyfer busnesau a llety preswyl.

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch canfyddiad y cyhoedd o'r trefniadau gweithio o gartref a’u canfyddiad nad oedd gwaith yn cael ei gyflawni. Fodd bynnag, nid oedd y canfyddiadau hyn yn gywir am fod y swyddogion llawer yn fwy cynhyrchiol. Er enghraifft, roeddent yn gweithio yn ystod yr adegau y byddent wedi bod yn teithio i’r gwaith ac oddi yno ac yn ystod yr adegau y byddent yn teithio rhwng cyfarfodydd mewn amrywiol leoliadau y tu hwnt i’w prif swyddfa. Cytunwyd y byddai modd i’r Gwasanaeth Cyfathrebu roi sylw i hyn.

 

CYTUNWYD:-

(i) argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu gweithio hybrid fel opsiwn parhaol i weithwyr sy’n gallu gweithio’r un mor effeithiol o bell ag y gallant yn y swyddfa;

(ii) datblygu Polisi Gweithio Hybrid i ddisodli’r Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro presennol a dod ag ef gerbron y pwyllgor Craffu yn dilyn ymgynghoriad; ac

(iii) y dylai’r polisi gweithio hybrid gynnwys y gofyniad i reolwyr sicrhau bod cyfarfodydd tîm yn cael eu cynnal yn y cnawd naill ai bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis.

eekly or monthly physical team meeting

Dogfennau ategol: