Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd
Bryan Davies yr adroddiad
am gynllun y gweithlu. Dogfen strategol oedd hon a oedd
yn amlinellu dull y Cyngor
o reoli ei weithlu er mwyn bodloni ei anghenion
o ran darparu gwasanaethau yn awr ac yn
y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys
dadansoddi gofynion gweithlu'r sefydliad, nodi unrhyw fylchau, a chanolbwyntio ar y cynlluniau datblygu er mwyn rhoi sylw
iddynt.
Roedd datblygu
Cynllun y Gweithlu yn hanfodol am sawl rheswm:
• Cysoni Strategol:
cysoni strategaethau adnoddau dynol â nodau strategol y Cyngor. Bydd y Cynllun yn galluogi'r Cyngor i nodi rolau hanfodol, y cymwyseddau a'r sgiliau y mae eu
hangen i gyflawni ein hamcan corfforaethol.
• Recriwtio a Chadw:
darparu dealltwriaeth o'r sgiliau a'r
cymwyseddau y mae eu hangen i lenwi
rolau yn y dyfodol. Bydd hyn
yn cynnig modd datblygu strategaethau
recriwtio a chadw effeithiol a fydd yn sicrhau ymgysylltu
llwyddiannus â gweithwyr, gyda'r nod o gynyddu cymhelliant, lleihau cyfraddau trosiant staff, a gwella boddhad gweithwyr.
• Cynllunio Olyniaeth:
gallu adnabod y swyddi hanfodol ac olynwyr posibl gan sicrhau bod rhaglenni neu gyfleoedd datblygu, hyfforddi a mentora yn lliniaru'r
risgiau sy'n gysylltiedig â gweithwyr allweddol yn gadael.
• Ystwythder a Hyblygrwydd:
trwy ragweld anghenion a gofynion sgiliau'r gweithlu yn y dyfodol gall y Cyngor roi sylw rhagweithiol
i'r heriau a ddaw a manteisio ar gyfleoedd newydd.
Fel yn achos Cynllun y Gweithlu 2017-2022, defnyddiwyd pecyn cymorth Cynllunio'r
Gweithlu Strategol i arwain gwaith y Swyddog Arweiniol Corfforaethol a'i dimau trwy'r
broses. Roedd y pecyn cymorth wedi helpu
i ddadansoddi'r gweithlu presennol cyn ehangu’r
dadansoddiad hwnnw i nodi'r gofynion, y sgiliau a'r cymwyseddau
y byddai eu hangen ar y gweithlu
yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau newydd neu well.
Ar ddechrau'r
flwyddyn, cyfarfu'r Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth â phob maes gwasanaeth i gyflwyno'r pecyn cymorth a darparu ystod o ddata am y gweithlu i gynorthwyo pob maes gwasanaeth
i gwblhau'r pecyn cymorth. Yna cafodd
y wybodaeth hon ei chasglu, ei dadansoddi
a'i hasesu yn unol ag amcanion
y gweithlu yn y Strategaeth Gorfforaethol a gofynion pum ffordd
o weithio'r Egwyddorion Cynaliadwyedd i ddatblygu themâu allweddol ar gyfer Cynllun
y Gweithlu 2023-2028.
Roedd Cynllun
y Gweithlu 2023-2028 yn cydnabod yr hyn
a gyflawnwyd yn ystod y cynllun blaenorol, y cysylltiad â strategaethau corfforaethol eraill, proffil ein gweithlu, ac roedd yn nodi pedair
blaenoriaeth allweddol i wynebu'r heriau a nodwyd.
Y pedair blaenoriaeth
â thema a nodwyd yn y cynllun oedd
y canlynol:
1. Gwireddu Potensial
2. Profiad yr
Ymgeisydd a Denu Talent
3. Ffyrdd Newydd o Weithio
4. Ein Diwylliant
Roedd Cynllun
y Gweithlu 2023-2028 yn rhoi trosolwg o bob thema cyn manylu
ar y camau a fyddai’n cael eu
cymryd i fodloni gofynion y Cynllun. Roedd cyfres o fesurau arfaethedig wedi'u cynnwys ar ddiwedd y ddogfen
er mwyn gallu monitro cynnydd yn effeithiol dros
gyfnod y cynllun tair blynedd.
Yn dilyn
cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i wneud y canlynol:-
(i) argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun
y Gweithlu 2023-2028; ac
(ii) ystyried y posibilrwydd y dylai prentisiaid barhau i weithio gyda’r Cyngor am gyfnod penodol o amser ar ôl
i’w cynllun ddod i ben, os yw’r Cyngor wedi cyfrannu’n ariannol at y cynllun hwnnw.
Dogfennau ategol: