Cofnodion:
Ystyriwyd y Polisi Menopos drafft a gyflwynwyd gan yr
Arweinydd, y Cynghorydd Bryan Davies. Dywedwyd bod Cyngor Sir Ceredigion wedi
ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol, lle’r oedd pawb yn
cael eu trin yn deg gydag urddas a pharch yn eu hamgylchedd gwaith. Roedd y
Cyngor hefyd wedi ymrwymo i iechyd, diogelwch a lles y gweithlu cyfan.
Dywedwyd bod y menopos yn rhan naturiol o heneiddio (y
cyfeirid ato’n aml fel ‘y newid’) a’i fod yn cyfeirio at yr adeg pan na
fyddai’r mislif wedi dod am 12 mis. Nid oedd bob amser yn drawsnewidiad hawdd
ond gyda’r cymorth cywir gallai fod yn llawer gwell. Er nad oedd pawb a oedd yn
mynd drwy’r menopos yn dioddef o symptomau, byddai cefnogi’r rhai a oedd yn
dioddef o symptomau yn gwella eu profiad yn y gwaith. Amcangyfrifwyd bod tua 1
ym mhob 3 pherson yn y Deyrnas Unedig naill ai wedi cyrraedd y menopos neu’n
mynd drwyddo ar hyn o bryd. Roedd data Cyngor Sir Ceredigion ym mis Hydref 2022
yn cofnodi bod 66.1% (1,355) o’r gweithlu corfforaethol (ac eithrio ysgolion)
yn fenywod, gyda 34.1% (698) ohonynt rhwng 45 a 64 oed a gallent fod mewn
oedran lle’r oeddent yn debygol o fod yn profi’r perimenopos neu wedi cyrraedd
y menopos. Roedd yn bwysig felly ein bod yn ystyried anghenion y grŵp hwn
ac yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli gweithlu a oedd yn amrywiol o ran oedran.
Roedd y Polisi Menopos drafft wedi’i ddatblygu i helpu’r
rheini a oedd yn profi symptomau trafferthus yn gysylltiedig â’r menopos, ac
i’w cefnogi nhw, eu cydweithwyr a’u rheolwyr i fynd i’r afael ag agweddau
galwedigaethol symptomau’r menopos.
Nod y polisi oedd:
• Meithrin
amgylchedd lle gall gweithwyr ddechrau sgyrsiau neu gymryd rhan mewn
trafodaethau ynglŷn â’r menopos yn agored ac yn gyfforddus a theimlo’n
hyderus i ofyn am gymorth.
• Sicrhau bod
pawb yn deall beth yw’r menopos, yn gallu cael sgyrsiau da yn hyderus, a bod
polisi ac arferion y Cyngor yn glir iddynt, gyda chefnogaeth Adnoddau Dynol a’r
Swyddog Iechyd a Lles Gweithwyr.
• Addysgu a
hysbysu rheolwyr ynghylch symptomau posibl y menopos a sut y gallant gefnogi
gweithwyr yn y gwaith.
• Lleihau
absenoldeb oherwydd symptomau’r menopos.
• Rhoi sicrwydd
i weithwyr ein bod yn gyflogwr cyfrifol, sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu
hanghenion yn ystod y menopos.
Roedd y polisi’n nodi rolau a chyfrifoldebau’r rheini a oedd
yn ymwneud â chefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt yn y gweithle. Roedd yn
rhoi trosolwg o symptomau’r menopos a’u heffaith, ac roedd yn cynnig arweiniad
i weithwyr a rheolwyr llinell am y cymorth a’r wybodaeth a oedd ar gael i’w
helpu i ymdrin â’r materion a oedd yn codi o’r menopos.
Fel rhan o’r polisi, byddai arweiniad a gwybodaeth bellach
yn cael eu cynnwys yn adran y Gweithwyr ar CeriNet a byddai cymorth ymarferol
ar gael i reolwyr yn y Pecyn Cymorth i Reolwyr ar CeriNet. Byddai’r Gwasanaeth
Pobl a Threfniadaeth hefyd yn darparu cymorth pellach i’r rheini sy’n profi
symptomau’r menopos drwy wneud y canlynol:
• Darparu caffi
menopos lle gall gweithwyr gwrdd â’i gilydd a chael cymorth a gwybodaeth. Bydd
y sesiynau hyn yn cael eu cefnogi gan y Swyddog Iechyd a Lles Gweithwyr.
• Darparu
hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r menopos i Reolwyr
Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i Alison Boshier,
Ysgrifennydd, a Swyddog Menywod Unsain Ceredigion am ei holl waith caled wrth
ddatblygu’r polisi hwn ar gyfer y Cyngor, gyda chymorth swyddogion yn y
gwasanaeth Adnoddau Dynol.
Yn dilyn cwestiynau
o’r llawr, CYTUNWYD:
(i) y dylid argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi
Menopos;
(ii) y dylid ystyried penodi Hyrwyddwr neu Bencampwr y
Menopos o fewn yr Awdurdod;
(iii) y dylai’r Cyngor hyrwyddo Diwrnod Menopos y Byd ym mis
Hydref; ac
(vi) y dylid cynnal gweithdy i’r holl Aelodau a Rheolwyr i godi ymwybyddiaeth o’r Menopos
Dogfennau ategol: