Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd
Alun Williams (Aelod y Cabinet dros Gydol Oes a Llesiant) ddiweddariad i’r
Pwyllgor ar recriwtio a chadw staff Gofal
Cymdeithasol. Roedd dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau
statudol diogel i’r rheiny â’r angen mwyaf yng nghymunedau Ceredigion. Er mai
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor oedd yn ysgwyddo
cyfrifoldeb dros hyn yn y pen draw, roedd y cyfrifoldeb ar y sefydliad i
gynorthwyo’r Cyfarwyddwr Statudol i sicrhau bod y cyfrifoldebau hyn yn cael eu
cyflawni’n effeithiol ac mewn modd oedd yn arwain at wasanaeth diogel.
Ar y gwaethaf, byddai’r perygl o
beidio â chael gwasanaeth diogel yn peri risg i fywyd defnyddwyr y gwasanaeth,
a byddai’n peri risg ariannol sylweddol ac yn dreth ar gapasiti
staff pe bai’r Cyngor yn destun mesurau arbennig. Er bod staff asiantaeth yn
cael eu defnyddio yn ein strwythurau gofal cymdeithasol, pan fo recriwtio’n
anodd, roedd cost gwneud hynny’n gyfystyr â gwerth am arian o ystyried y rhan
hollbwysig roeddent yn ei chwarae i gynnal gwasanaeth diogel. Roedd staff
asiantaeth yn cael eu dewis yn ofalus a’u rheoli’n dda i sicrhau bod anghenion
y Cyngor ac anghenion defnyddwyr gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu bodloni.
Roedd yr her recriwtio ym maes gofal cymdeithasol yn un genedlaethol ac yn un
oedd yn debygol o barhau oni bai fod Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio’n fanwl
ar y materion hyn.
Bu i Arolygiaeth Gofal Cymru arolygu
gwasanaethau’r awdurdod lleol i blant ac i oedolion ym mis Mawrth 2023. Ar ôl
arolygiad trylwyr, bu i’r arolygwyr ddarparu adroddiad eithriadol o gadarnhaol
a oedd yn darparu llawer o enghreifftiau o’r gwaith da helaeth oedd yn digwydd
bob dydd ac yn cyfeirio at yr arweinyddiaeth gref a geir ar lefel uwch. Bu
iddynt hefyd gydnabod y meysydd i’w gwella a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol
iddynt, a bu iddynt gadarnhau nad oedd unrhyw feysydd lle nad oedd
cydymffurfiaeth.
Recriwtio a chadw gweithlu o’r maint
priodol oedd un o’r heriau mwyaf sylweddol roedd llywodraeth leol, a’r sector
cyhoeddus yn gyffredinol, yn ei hwynebu, gyda chyfraddau’r swyddi gwag yn
cynyddu ym mhob maes. Yn ogystal ag egluro’r heriau mewn manylder, roedd yr
adroddiad yn cofnodi’r ffordd roedd y Cyngor yn defnyddio dulliau arloesol a
chreadigol i geisio ymateb i’r heriau hynny. Roedd y gallu i ddenu ac i gadw
talent yn hollbwysig i gynnal gweithlu medrus oedd yn gallu darparu
gwasanaethau o ansawdd i gymunedau’r awdurdod lleol. Roedd y Cyngor yn cyflogi
gweithlu o oddeutu 3,700 o weithwyr mewn gweithlu cyfwerth ag amser llawn o
oddeutu 2,600 o weithwyr, a hwnnw’n weithlu benywaidd i raddau helaeth gyda
thua 66% yn fenywod.
Roedd yr awdurdod lleol wedi wynebu
her gynyddol o ran recriwtio a chadw staff yn ei gwasanaethau gofal
cymdeithasol Llesiant Gydol Oes, yn enwedig dros y deunaw mis diwethaf, ar ôl
cyfnod COVID. Roedd y gwasanaethau hyn yn cyflogi gweithlu o oddeutu 700 o
weithwyr mewn gweithlu cyfwerth ag amser llawn o 500, ac roedd canran uwch na’r
cyfartaledd corfforaethol o’r gweithlu yn fenywod, sef 74%. O blith y swyddi
hyn, roedd 240 yn cefnogi gwasanaethau statudol ac roedd 45 (19%) o swyddi gwag
yn y gwasanaethau hyn ar hyn o bryd, gyda 21 ohonynt yn cael eu llenwi gan
staff asiantaeth. O blith y 460 o swyddi oedd yn weddill, ceir 88 (19%) o
swyddi gwag, ond dim ond naw o’r swyddi hyn oedd yn cael eu llenwi gan staff
asiantaeth, a hynny yn y cartrefi preswyl a’r Tîm Galluogi.
Roedd staff asiantaeth oedd yn
llenwi swyddi yn y gwasanaethau statudol yn cynnwys yr wyth aelod o’r tîm a
reolwyd drwy drefniant ag Innovate Services. Fe’u penodwyd yn sgil ymarfer caffael, a dyfarnwyd y
contract am gyfnod cychwynnol o chwe mis, gyda’r opsiwn i estyn y contract am
hyd at chwe mis mewn blociau tri mis. Er nad oedd y tîm wedi’i gynnwys o fewn
cwmpas ariannol yr adroddiad, roedd gwerth ychwanegol a ddarparwyd ganddynt i’r
sefydliad, a’i rôl yn helpu i gynnal gwasanaeth diogel yn amlwg.
Rhoddwyd trosolwg o’r canlynol, fel
y nodwyd yn yr adroddiad:
·
Ystyriaethau ariannol
·
Problemau recriwtio a
chadw staff ym maes gofal cymdeithasol
·
Cyflogau llywodraeth
leol
·
Trosolwg ar y darlun
rhanbarthol
·
Y sefyllfa ar hyn o bryd
yng Ngheredigion
·
Mentrau recriwtio a
chadw
·
Defnyddio asiantaethau recriwtio
i recriwtio i swyddi parhaol
·
Allgymorth
·
Ymgyrchoedd recriwtio
cyfredol
·
Casgliad
Roedd yr awdurdod lleol yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill yn
rhanbarthol ac yn genedlaethol. Tynnwyd sylw at y ffaith fod cyflogau'n amrywio
yn yr awdurdodau lleol a’u bod nid yn unig yn cystadlu am staff ond am staff
asiantaeth hefyd. Roedd ymdrechion i gyfyngu ar ffïoedd
staff asiantaeth, fodd bynnag, gallai hyn arwain at ddiffyg staff asiantaeth
yng Nghymru. Roedd y sector Gofal Cymdeithasol o dan bwysau, yn debyg i'r
Gwasanaeth Iechyd, a byddai gwelliant ym maes Gofal Cymdeithasol yn cael
dylanwad ar y Gwasanaeth Iechyd.
Rhoddodd Audrey Somerton-Edwards gyflwyniad yn dadansoddi’r tueddiadau
canlynol fel yr oeddent ar 27.10.2022 a 18.05.2023:
·
Achosion ar agor – Statws Atgyfeirio
·
Achosion ar agor yn ôl Statws RAG Amber a Choch
·
Nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal a % yr ymwelwyd â nhw yn y 12 wythnos
diwethaf
·
Nifer yr adolygiadau ymarfer plant a % yr ymwelwyd â nhw yn y 10 diwrnod
diwethaf
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion yn bresennol a’r Cynghorydd Alun
Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
·
O bwyso a mesur yr opsiynau, datblygu rhaglen gradd Meistr mewn Gwaith
Cymdeithasol oedd y ffordd fwyaf priodol yn hytrach na chwrs israddedig,
oherwydd dyna lle’r oedd pawb yn teimlo y gellid recriwtio'n effeithiol.
Dechrau arni oedd y gwaith gan Brifysgol Aberystwyth a'r awdurdod lleol, gyda
goruchwyliaeth oddi wrth Ofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu'r cwrs, ond y nod
oedd efelychu llwyddiant y cwrs nyrsio a oedd ar gael ym Mhrifysgol
Aberystwyth.
·
Gwnaeth yr awdurdod lleol drefnu lleoliadau ar gyfer hyfforddeion sy'n
astudio'r radd tair blynedd Gwaith Cymdeithasol drwy'r Brifysgol Agored. Roedd
yn ofynnol i hyfforddeion weithio i'r awdurdod lleol am o leiaf dwy flynedd ar
ôl dod yn gymwys.
·
Eglurwyd nad oedd y gwasanaeth yn anniogel ar unrhyw adeg yn ystod yr
heriau diweddar. Cyn gynted ag y nodwyd problemau, rhoddwyd argymhelliad cryf
gan Gyfarwyddwr Statudol blaenorol y Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod y
gwasanaeth yn parhau i fod yn ddiogel. Heb gefnogaeth y Tîm Arloesi, byddai'r
llwyth achos wedi mynd y tu hwnt i reolaeth i staff a oedd wedi bod yn deyrngar
ac wedi ymroi i'r awdurdod.
·
Ar hyn o bryd, nid oedd tystiolaeth i awgrymu bod y gweithio hybrid a oedd
wedi'i dreialu dros y deuddeg mis diwethaf wedi cael effaith ar lesiant staff.
Roedd aelodau staff Brysbennu/Triage yn
gweithio yn y swyddfa bob dydd, ac roedd staff Gofal Cymdeithasol wedi
defnyddio'r cyfleoedd i weithio mewn modd hybrid. Cydnabuwyd bod amgylchedd
cefnogol, goruchwyliaeth a mynediad at wasanaethau llesiant yn bwysig i iechyd
a lles y staff.
·
Roedd heriau wrth recriwtio staff oherwydd cystadleuaeth gan eraill, megis
awdurdodau lleol eraill yn cynnig cyflogau uwch, ond yn gyffredinol nid oedd
Cyngor Sir Ceredigion yn ei chael hi’n anodd cadw staff. Roedd swyddi gwag yn
bodoli fel arfer oherwydd bod rhai wedi symud ymlaen yn eu gyrfa neu wedi
ymddeol. Roedd yn hanfodol codi'r angen ar bob cyfle gyda Llywodraeth Cymru am
raddfa gyflog genedlaethol ledled Cymru ar gyfer y sector Gofal Cymdeithasol
ynghyd â thynnu sylw at y farn y dylai hyn gael ei ariannu yn llawn gan
Lywodraeth Cymru, o ystyried y pwysau ariannol ar awdurdodau lleol.
· Ar hyn o
bryd, roedd 38 o Weithwyr Cymdeithasol asiantaeth yn gweithio ar draws yr
awdurdod lleol (roedd 8 o Weithwyr Cymdeithasol a 2 Uwch Ymarferydd yng Ngofal
wedi’i Gynllunio). Roedd y rhan fwyaf o'r Gweithwyr Cymdeithasol a ddaeth yn gymwys yn
ddiweddar wedi dewis gweithio gydag oedolion, tra bod y rhan fwyaf o’r staff
asiantaeth yn gweithio gyda phlant o achos nifer y swyddi gwag. Y gobaith yw y
bydd y radd MSc arfaethedig yn arwain at recriwtio yn
lleol gan gryfhau'r gwasanaethau.
·
Er mwyn recriwtio pobl i weithio i’r awdurdod lleol yn y sector Gofal
Cymdeithasol, teimlai'r aelodau ei bod yn bwysig hyrwyddo gwaith cymdeithasol
yn gadarnhaol ynghyd â’r cyfleoedd sydd ar gael ledled y sir. Mae clipiau fideo
gan weithwyr yn trafod ac yn hyrwyddo eu rolau, a’r ardal, wedi cael eu
defnyddio mewn ymgyrchoedd recriwtio yn ddiweddar. Wrth i dechnoleg a
chyfathrebu ddatblygu, mae hi’n bwysig ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael.
·
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd ynghylch sgiliau ieithyddol staff
asiantaeth, eglurwyd bod rhai o’r gweithwyr asiantaeth yn siarad Cymraeg.
Teimlai'r aelodau y gallai fod mwy o gydweithio gyda sefydliadau academaidd
megis Prifysgol Bangor i ddatblygu hyfforddiant a lleoliadau gwaith, gan roi
sylw arbennig i hyfforddi Gweithwyr Cymdeithasol dwyieithog.
·
Byddai angen defnyddio rhywfaint o staff asiantaeth bob amser yn yr
awdurdod lleol, ond cael cydbwysedd sy’n
allweddol. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, roedd gweithio ar gynllunio olyniaeth
yn bwysig, nid yn unig oherwydd y swyddi gwag ond oherwydd bod rhai’n ymddeol. Bydd yr Aelodau'n cael y diweddaraf am hyn
maes o law.
O ystyried yr heriau
recriwtio ar draws yr awdurdod lleol yn gyffredinol, cytunodd y Cynghorydd
Rhodri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, i
gynnwys yr eitem hon ar flaenraglen waith y Pwyllgor
er mwyn ei hystyried. Yn ogystal, o ystyried ei rôl ar Fwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda, roedd e’n barod i godi materion recriwtio
yn ôl yr angen.
Yn dilyn cwestiynau, ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor yr argymhellion canlynol:
1.
Nodi’r sefyllfa
bresennol o ran y defnydd pwysig o weithwyr asiantaeth yn ein gwasanaethau
gofal cymdeithasol.
2.
Nodi’r hyn yr ydym
eisoes yn ei wneud i ymateb i’r her o recriwtio gweithwyr yn y sector hwn.
3.
Rhoi adborth ac awgrymu
unrhyw atebion posibl eraill i ddatrys yr her recriwtio.
4.
Cymeradwyo bod
swyddogion yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda i bwyso a mesur cyfleoedd creadigol ac arloesol i ddarparu atebion
mwy hirdymor.
Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor i argymell i’r Cabinet:
1.
Bod Aelodau'r Pwyllgor yn nodi
argymhelliad 1 a 2 uchod;
2.
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r
trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer graddfa gyflog
genedlaethol ar gyfer staff Gofal Cymdeithasol, wedi'i hariannu'n llawn; a
hefyd
3.
Bod yr awdurdod yn cefnogi mwy o
gydweithio gyda sefydliadau academaidd megis Prifysgol Bangor i ddatblygu
hyfforddiant a lleoliadau gwaith, gan roi sylw arbennig i hyfforddi Gweithwyr
Cymdeithasol dwyieithog.
Dogfennau ategol: