Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Cyflawniad Strategaeth Iaith
Ceredigion 2018-23. Fe sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith
cyfreithiol i orfodi dyletswyddau ar sefydliadau penodol, gan gynnwys Cyngor
Sir Ceredigion i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.
•
Mae Safon 145 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor Sir i
ddatblygu a chyhoeddi strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut mae’r Cyngor yn
bwriadu hybu’r Gymraeg ac hwyluso defnydd y Gymraeg o fewn yr ardal ehangach.
•
Mae Safon 146 yn ei gwneud yn ofynnol i asesu i ba raddau
mae’r Cyngor wedi dilyn y strategaeth honno ac wedi cyrraedd y targed.
Roedd cyfnod y Strategaeth gyfredol yn dod i ben yn 2023 ac roedd yr
adroddiad cyrhaeddiad wedi cael ei baratoi, gyda mewnbwn partneriaid.
Cyflwynwyd yr adroddiad mewn dau ran:
•
Adroddiad Adolygu Strategaeth Iaith: sy’n adrodd ar ein
dulliau o weithredu, ynghyd â’r dulliau o fesur canlyniadau
•
Adroddiad ar Gyflawniad Strategaeth Iaith: sy’n adrodd ar
yr holl weithgareddau a drefnwyd er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg (Atodiad 1)
Prif nod Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-23 oedd anelu at gynyddu defnydd
o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd y Sir; gosodwyd tri maes strategol i’w
gyflawni yn rhan o’r strategaeth:
•
Cynyddu sgiliau iaith trigolion Ceredigion
•
Cynnal a chynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng
Ngheredigion mewn amrywiol gyd-destunau
•
Sicrhau amodau cymdeithasol sy’n galluogi’r Gymraeg i
ffynnu yng Ngheredigion
Rhoddwyd crynodeb o brif lwyddiannau gweithredu'r Strategaeth Iaith.
Cydnabuwyd bod Covid-19 wedi effeithio ar lawer o’r gwaith gan fod ymgysylltu
yn un o’r prif nodau.
Pennodd y Strategaeth hefyd darged i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng
Ngheredigion o 47.5% i 48.5%, sef cynnydd o tua 1,500 erbyn 2023. Ers Cyfrifiad
2011, nododd canlyniadau Cyfrifiad 2021 ostyngiad o 3,286 (2%) o bobl a
ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Er gwaethaf gostyngiad cyffredinol,
roedd cyfran yr oedolion rhwng 16-44 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu
2.2% erbyn 2021. Rhaid nodi bod angen gofal wrth ddehongli data’r Cyfrifiad gan
fod y darlun yn un cymhleth iawn. Roedd arolygon eraill gan gynnwys yr Arolwg
Blynyddol o'r Boblogaeth yn dangos bod canran y siaradwyr Cymraeg yng
Ngheredigion wedi cynyddu. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg
ar y gwahanol ddata sy’n bodoli ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg, ac yn
ceisio datrys pam bod y canlyniadau mor wahanol i’w gilydd.
Wrth adolygu cyrhaeddiad y Strategaeth Iaith, roedd yn bwysig cydnabod bod
cynllunio iaith yn broses tymor hir, ac roedd gweithredu er lles y Gymraeg yn
cymryd amser i’w feithrin; fodd bynnag roedd y Cyngor yn teimlo’n hyderus bod y
Strategaeth Iaith wedi gosod y seiliau cywir ar gyfer symud ymlaen i’r cyfnod 5
mlynedd nesaf. Cynhaliwyd gweithdy ar 20 Mawrth 2023 i drafod y Strategaeth
Iaith Gymraeg newydd ac roedd nifer dda o aelodau’r Fforwm Dyfodol Dwyieithog
yn bresennol.
Codwyd y prif bwyntiau canlynol yn ystod y trafodaethau:
•
Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Craffu a’r Cabinet,
bydd proses ymgynghori yn cychwyn yn fuan ynghylch newid cyfrwng iaith y Cyfnod
Sylfaen yng Nghomins-coch, Llwyn yr Eos, Padarn Sant, Plascrug
ac Ysgol Ceinewydd.
•
Er i Brosiect Helo Blod Llywodraeth Cymru ddod i ben ym
mis Ebrill 2022, parhaodd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu am ddim hyd at 500
gair y mis i fusnesau a sefydliadau cymunedol. Mae Comisiynydd y Gymraeg nawr
yn canolbwyntio eu hymdrechion ar ‘Y Cynnig Cymraeg’ i gefnogi busnesau i wneud
mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn eu busnes.
•
Mae ffocws yn rhaglen Arfor ar
annog pobl ifanc i aros a llwyddo yn lleol. Mae cyfleoedd gwaith yng
Ngheredigion, ond mae angen mwy o hyrwyddo i sicrhau bod pobl yn ddigon hyderus
i ymgeisio am y rolau. Nodwyd bod llawer o brosiectau yn mynd rhagddynt gyda'r
tîm Twf a Menter.
•
O ystyried bod yr Urdd a’r Clybiau Ffermwyr Ifanc yn ddau
sefydliad ieuenctid cryf yng Ngheredigion, roedd yn anffodus bod Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd a Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc yn gwrthdaro.
Yn dilyn
cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad, ac yn argymell cyflwyno’r
Adroddiad i’r Cabinet ar gyfer cymeradwyaeth, ac er gwybodaeth yng nghyfarfod
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.
Dogfennau ategol: