Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, Diana
Davies a Tim Bray, Swyddogion, i’r cyfarfod i gyflwyno Cynllun Llesiant Lleol
Ceredigion a chyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd
ar Ebrill 24ain 2023. O dan Adran 35 o Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau
bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu'r pŵer i graffu ar y
penderfyniadau a wneir, neu gamau eraill a gymerir, gan Fwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus ardal yr Awdurdod Lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau. Mae Adran
39 hefyd yn nodi bod yn rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus anfon copi o’i
Gynllun Llesiant Lleol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Awdurdod Lleol.
Mae’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg
a Chraffu wedi derbyn diweddariadau yn y gorffennol am y broses o ddatblygu’r
Asesiad Llesiant Lleol a Chynllun Llesiant Lleol 2023-2028 yng Ngheredigion.
Ar ôl i Gynllun Llesiant Lleol
2023-28 gael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar
Fawrth 6ed 2023, gwnaeth pob un o sefydliadau statudol y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried y Cynllun Llesiant Lleol yng nghyfarfodydd eu
byrddau yn unigol, gan wneud hynny rhwng Mawrth 22ain ac Ebrill 20fed.
Gallwn gadarnhau bod pob un o aelodau statudol unigol y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus wedi cymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol 2023-28 drwy eu trefniadau
llywodraethu arferol. Fel un o’r aelodau statudol, cymeradwyodd Cyngor Sir
Ceredigion y cynllun yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar
Fawrth 22ain 2023, y Cabinet ar Ebrill 4ydd 2023 a’r
Cyngor llawn ar Ebrill 20fed 2023. Cyfarfu’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus ar Ebrill 24ain 2023 i gadarnhau’r broses o gymeradwyo’r
Cynllun Llesiant 2023-28 a bu i’r holl bartneriaid gytuno’n unfrydol. Cytunwyd
y byddai’r Cynllun yn cael ei gyhoeddi ar 2il Mai, gan fodloni’r terfyn amser
statudol fel y nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (ddim hwyrach na
blwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir pob etholiad cyffredin o dan adran 26 o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).
Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor
ystyried cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn
dwyn dyddiad Ebrill 24ain 2023.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd
y canlynol:
·
Swyddogion i adrodd yn ôl drwy e-bost ar y cwestiwn a ofynnwyd ynghylch sut
mae’r cynnydd o 1% yn nifer y perchnogion tai yng Ngheredigion, yn unol â
Chyfrifiad 2021, yn cymharu ag Awdurdodau eraill,
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Adroddiad Sylfaenol Cyfoeth
Naturiol Cymru o ran Risgiau yn Sgil y Newid yn yr Hinsawdd, bydd Swyddogion a
Chadeirydd y pwyllgor hwn yn codi’r cwestiwn yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu ag Aelodau’r
Pwyllgor,
·
Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y ffigurau cyflogaeth a
Statws Gweithgarwch Economaidd a ddangoswyd yn y Cyfrifiad diwethaf. Dywedwyd bod y ffigurau hyn yn cael eu
monitro’n barhaus gan Is-grŵp Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac
felly mae’r blaenoriaethau yn y Cynllun Llesiant Lleol yn adlewyrchu’r sefyllfa
bresennol.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd
Aelodau’r Pwyllgor i:
1. Nodi bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi
cymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion, a,
2. Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar Ebrill 24ain 2023.
Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu
Trosolwg a Chraffu gyflawni ei rôl o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Diolchodd y Cadeirydd i’r
Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor am fynychu a chyflwyno’r wybodaeth yn y
cyfarfod heddiw. Diolchodd Arweinydd y
Cyngor hefyd i Aelodau'r Pwyllgor am eu mewnbwn i'r Cynllun Llesiant Lleol yn
ystod y broses lywodraethu.
Dogfennau ategol: