Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oed a
Llesiant) y Cynllun Gweithredu yn dilyn Arolygiad Gwerthuso Perfformiad
Arolygiaeth Gofal Cymru. Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru werthusiad trylwyr
o berfformiad y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant rhwng 27 Chwefror
2023 a 10 Mawrth 2023. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 18 Mai 2023. Yn unol â’r
dyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,
roedd yr arolygiad yn gwerthuso’r meysydd canlynol: Pobl - Llais a Rheolaeth,
Atal, Llesiant a Phartneriaeth.
Roedd pum
arolygydd yn rhan o’r arolygiad a gynhaliwyd yn rhithiol ac wyneb yn wyneb.
Roedd 114 o unigolion yn rhan o'r broses o gasglu tystiolaeth gan gynnwys y
swyddogion, yr Aelodau Etholedig, y defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr,
sefydliadau statudol a sefydliadau partneriaethol yn
y trydydd sector.
Yn ogystal â’r
gwaith o archwilio’r ffeiliau achosion, craffwyd ar y prif bolisïau a
datblygiadau. Roedd hyn yn cynnwys y ffeiliau gorchwylio, y Polisi diwygiedig ynghylch Canmoliaethau a Chwynion,
y Fframwaith Sicrwydd Ansawdd drafft, yr ymgynghoriad ynghylch Therapi Galwedigaethol
a’r strwythurau diwygiedig o ran Diogelu a Llesiant Meddyliol a Phorth Cymorth
Cynnar. Arsylwyd ar gyfarfodydd strategol a gweithredol ar-lein ac wyneb yn
wyneb. Rhoddwyd pwyslais ar brofiadau’r plant, y gofalwyr a’r teuluoedd a’r
modd yr oedd y gwasanaeth yn gwrando ar eu safbwyntiau. Roedd yr Arolygwyr am
weld bod y defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan yn yr asesiadau a’r cynlluniau
a’u bod yn cael y cyfle i gyfathrebu eu gofynion gofal eu hunain. Roedd yr
Arolygwyr hefyd yn awyddus i ddeall a gwerthfawrogi buddion y model Llesiant Gydol
Oes.
Roedd yr
adborth cychwynnol a roddwyd ar 16 Mawrth 2023 yn galonogol iawn, ac roedd yr
adroddiad yn canmol y Gwasanaethau a ddarperir i ddinasyddion Ceredigion. Yn
ystod yr Arolygiad, ni nodwyd yr un maes lle nad oeddem yn cydymffurfio â’r
gofynion. Rhoddwyd trosolwg o'r canfyddiadau a'r dystiolaeth allweddol. Roedd
Cynllun Gweithredu bellach wedi’i ffurfio er mwyn ymateb i’r gwelliannau yr
oedd Arolygiaeth Gofal Cymru yn eu hargymell yn yr adroddiad. Roedd mwyafrif
helaeth y camau gweithredu eisoes ar waith gan fod y materion a nodwyd gan
Arolygiaeth Gofal Cymru eisoes yn cael sylw cyn i’r arolygiad ddechrau.
Llongyfarchwyd
yr holl staff sy'n ymwneud â'r gwasanaeth ar eu perfformiad fel yr amlygwyd yn
yr adroddiad.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· Roedd yn anodd
cymharu ag awdurdodau lleol eraill oherwydd nifer o ffactorau megis poblogaeth,
lefelau staffio, nifer yr achosion a natur wledig. Credai Swyddog Arweiniol
Corfforaethol Porth Cynnal fod y gwasanaeth yn chwarter uchaf Cymru.
· O ystyried yr
heriau gyda recriwtio, roedd pob darpariaeth bosibl yn cael ei harchwilio i
gadw a recriwtio staff. Roedd cyflogi gweithwyr tramor yn opsiwn a ddefnyddiwyd
mewn mannau eraill i gefnogi sector y Gofal Cymdeithasol ac nid oedd wedi'i
ddefnyddio yng Ngheredigion. Amlygwyd y gwahaniaeth mewn diwylliannau ac
ieithoedd; felly, roedd angen gofal os oedd bwriad i archwilio'r opsiwn hwn
ymhellach.
· Wrth i awdurdodau
lleol eraill gynyddu cyflog staff Gofal Cymdeithasol, roedd mwy o
gystadleuaeth, ac felly byddai angen adolygu cyflogau yn fuan a fyddai’n arwain
at oblygiadau i gyllideb y Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod
pwysigrwydd cyflog cyfartal ledled Cymru, ond byddai hyn yn heriol yn ariannol
hefyd.
· Cydnabuwyd bod
dull cymysg o weithredu yng Ngheredigion ar hyn o bryd, gyda chyfuniad o
weithwyr y Cyngor a gweithwyr asiantaeth y trydydd sector. Er mwyn lleihau
nifer y gweithwyr asiantaeth, nid yn unig yr oedd angen ystyried cyflog ac
amodau ond gellid defnyddio adroddiad llwyddiannus gan Arolygiaeth Gofal Cymru
fel arf recriwtio.
· Cydnabuwyd bod
staff yn dysgu oddi wrth ei gilydd, ond teimlai swyddogion na fyddai gorfodi
staff i fynychu swyddfeydd o reidrwydd yn ddefnyddiol. Yn ystod y misoedd
diwethaf, roedd staff wedi dysgu sicrhau cydbwysedd rhwng gweithio gartref ac
yn y swyddfa, anogwyd timau i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac roedd staff
yn gallu neilltuo desgiau gyda’i gilydd. Byddai’r model gweithio hybrid yn cael
ei adolygu ym mis Gorffennaf 2023.
· Roedd adborth
prydlon yn hanfodol i asiantaethau partner a byddai'n cael sylw ynghyd â
chefnogi asiantaethau partner i ddeall y Model Gydol Oed a Llesiant.
· Mae ymchwil
wedi dangos bod pobl wedi troi’n ôl at eu hiaith gyntaf ar adegau o argyfwng.
Oherwydd hyn, roedd rhoi hyfforddiant yn lleol yn allweddol i annog rhagor o
bobl leol i weithio yn y sector ac aros yn lleol. Ar hyn o bryd, roedd yr
awdurdod lleol yn gweithio gyda'r Brifysgol Agored i hyfforddi Gweithwyr
Cymdeithasol ac roedd gwaith yn cael ei wneud gyda Phrifysgol Aberystwyth.
· Roedd y
Gwasanaeth yn cael ei fonitro'n gyson ac roeddent yn gweithio mewn hinsawdd
lle'r oedd angen gwelliant parhaus. Roedd bod yn dryloyw gydag Arolygiaeth Gofal
Cymru ynghylch y meysydd i’w gwella’n bwysig, ac os nad eir i’r afael â nhw,
byddai’r meysydd yn dod yn fater gorfodi.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd:
· Bod y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach yn derbyn y Cynllun Gweithredu drafft,
sydd wedi’i lunio i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn adroddiad
Arolygiaeth Gofal Cymru, a’i fod yn ystyried bod yr hyn sydd wedi’i gynnwys
ynddo yn ymateb cymesur i’r argymhellion yn yr adroddiad.
· Bod y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach yn monitro’r Cynllun Gweithredu ar ôl chwe
mis ac ar ôl blwyddyn er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud a bod y
momentwm yn cael ei gynnal hyd nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.
Dogfennau ategol: