Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y
Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a
Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Adroddiad Blynyddol
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi’i gyhoeddi ym mis
Chwefror 2023 ac wedi’i ystyried gan bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn ei
gyfarfod ar 24 Mawrth 2023.
Rhoddodd amlinelliad o'r cydnabyddiaethau ariannol, gan
bwysleisio bod angen cydnabyddiaeth ariannol digonol er mwyn denu
cynrychiolaeth eang o bobl, gan atgoffa'r aelodau o'r cymorth sydd ar gael ar
gyfer cost gofal, a'r gwasanaeth cwnsela sydd ar gael.
Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad
yn ei gyfarfod dyddiedig 24 Mawrth 2023 ac wedi penderfynu argymell i'r Cyngor
gymeradwyo cynnwys yr adroddiad. Nododd
ei siom fodd bynnag fod y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi
methu â chydnabod bod cynghorwyr yn gweithio mwy na'r hyn sy'n cyfateb i 3
diwrnod yr wythnos, a bod angen annog yr angen i ddenu aelodaeth fwy amrywiol.
Gofynnodd yr Aelodau am yr opsiwn i optio allan o
gymryd y codiad mewn cyflog, a chadarnhawyd y byddai angen iddynt gyflwyno cais
ysgrifenedig i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd.
Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod nifer y
Cynghorwyr wedi gostwng o 42 i 38, a oedd yn achosi problemau o ran penodi
aelodau i bwyllgorau ac yn rhoi mwy o bwysau ar Aelodau o ran amser, a
chyfrifoldebau ychwanegol, yn ychwanegol at eu rolau ar gyrff allanol.
Nododd y Cynghorydd Gareth Davies, o ran cyllideb y
Cyngor, fod cyflogau Aelodau yn cyfrif am lai na 0.5% o’r gyllideb gyffredinol.
PENDERFYNODD y Cyngor nodi’r canlynol:
1. Talu’r Cyflogau Sylfaenol a’r Uwch Gyflogau yn unol â’r hyn a bennwyd
gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, fel y nodir yn Atodlen
1, Atodiad A;
2. Talu’r Cyflogau Dinesig sy’n daladwy i Gadeirydd ac Is-gadeirydd
y Cyngor, fel y nodir yn Atodlen 1, Atodiad A;
3. Y Rhestr sy’n dangos y taliadau eraill, fel y nodir yn Atodlen
1;
Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor
gymeradwyo’r canlynol:
1. Parhau â’r arfer presennol o beidio â thalu costau teithio wrth
gyflawni dyletswyddau yn yr etholaeth;
2. Cymeradwyo bod y lwfansau teithio, cynhaliaeth, llety dros nos a
pharcio ceir yn 2023/24 parhau ar yr un lefelau ag yr oeddent yn 2022/23;
3. Parhau â’r cynllun lwfans misol y gellir optio i mewn iddo gydag
uchafswm o £10 i dalu am gostau ffôn, band eang a phostio;
4. Adlewyrchu talu’r lwfans hwn yn y Datganiad Taliadau blynyddol a
wneir i Aelodau;
5. Talu ffioedd i Aelodau Cyfetholedig yn amodol ar uchafswm
cyfwerth â 10 diwrnod llawn ar gyfer pob pwyllgor y cafodd unigolyn ei gyfethol
iddo ar sail taliad hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn;
6. Parhau i gyhoeddi cyfanswm y swm a ad-dalwyd gan yr awdurdod yn
ystod y flwyddyn heb ei bennu’n benodol i unrhyw Aelod a enwyd o ran y costau
gofal a ad-dalwyd;
7. Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i’r Aelodau ar gyfer 2023-2024,
yn amodol ar gynnwys unrhyw newidiadau y penderfyna’r Cyngor arnynt yn y
cyfarfod hwn; ac
8. Awdurdodi’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau
Democrataidd i gynnwys unrhyw newidiadau cyn cyhoeddi’r ddogfen ar ôl y
Cyfarfod Blynyddol sydd i’w gynnal ar 19eg Mai 2023.
Dogfennau ategol: