Cynigydd: Cynghorydd Meirion Davies
Eilydd: Cynghorydd Paul Hinge
Noda’r Cyngor:
O ystyried yr
argyfwng sy'n wynebu'r rhwydwaith bysiau gwledig yng Ngheredigion a Chymru wledig,
mae Cyngor Ceredigion yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu tasglu trafnidiaeth
wledig er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn ar frys.
Rydym yn
cydnabod nad yw trigolion ac ymwelwyr wedi dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus
ar ôl Covid, yn y niferoedd y byddem yn ei ddisgwyl. Fodd bynnag, o ganlyniad i
dynnu llawer o lwybrau bysiau gwledig yn ôl oherwydd fforddiadwyedd, mae ein
cymunedau'n cael eu hynysu’n gynyddol rhag cael mynediad at wasanaethau
cyhoeddus a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.
Mae tynnu llawer
o lwybrau bysiau gwledig yn gwaethygu tlodi gwledig lle mae'r effaith i'w
deimlo fwyaf mawr. Mae gan oedolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn,
a'r rhai sydd heb drafnidiaeth yr hawl i gael mynediad at drafnidiaeth
gyhoeddus yn eu cymunedau.
Mae Cyngor
Ceredigion yn cefnogi ffocws Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â'r argyfwng
hinsawdd. Eto, drwy ofyn i drigolion symud o geir i drafnidiaeth gyhoeddus, mae
angen buddsoddi a'r cymhorthdal cysylltiedig ar gyfer isadeiledd trafnidiaeth wledig.
Rhaid i
drafnidiaeth wledig gael ei drin yn gyfartal â'n trefi a'n dinasoedd mwy os
ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd o ddifri, ac atal cymunedau
gwledig rhag cael eu hynysu ymhellach.
Felly, mae'r
Cyngor yn nodi:
1.
Bod
Cyngor Ceredigion yn gofyn i Lywodraeth Cymru gydnabod bod angen buddsoddi mewn
trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig, a’i sybsideiddio yn unol â hynny.
2.
Bod
trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau gwledig fel y rhai yng Ngheredigion, sydd
wedi cael eu heffeithio'n andwyol gan danariannu trafnidiaeth gyhoeddus gan
Lywodraeth Cymru, yn gofyn am gydraddoldeb mynediad tebyg i gymunedau mwy.
3.
Bod
tasglu trafnidiaeth wledig yn cael ei sefydlu ar unwaith gan Lywodraeth Cymru
ac ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol fel Cyngor Ceredigion, i fynd i'r afael â
mater trafnidiaeth wledig.
Cofnodion:
Cynigydd: Y Cynghorydd Meirion Davies
Eilydd: Y
Cynghorydd Paul Hinge
O ystyried yr
argyfwng sy'n wynebu'r rhwydwaith bysiau gwledig yng Ngheredigion a Chymru
wledig, mae Cyngor Ceredigion yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu tasglu
trafnidiaeth wledig er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn ar frys.
Rydym yn cydnabod
nad yw trigolion ac ymwelwyr wedi dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl
Covid, yn y niferoedd y byddem yn eu disgwyl.
Fodd bynnag, o ganlyniad i ddileu llawer o lwybrau bysiau gwledig
oherwydd fforddiadwyedd, mae ein cymunedau'n cael eu hynysu’n gynyddol rhag
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.
Mae dileu llawer o
lwybrau bysiau gwledig yn gwaethygu tlodi gwledig lle y teimlir yr effaith
fwyaf. Mae gan oedolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn, a'r
rheini sydd heb drafnidiaeth yr hawl i gael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus yn
eu cymunedau.
Mae Cyngor
Ceredigion yn cefnogi ffocws Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael ag argyfwng yr
hinsawdd. Ac eto, drwy ofyn i drigolion
symud o geir i drafnidiaeth gyhoeddus, mae angen buddsoddi a'r cymhorthdal
cysylltiedig ar gyfer isadeiledd trafnidiaeth wledig.
Rhaid i drafnidiaeth
wledig fod yn gyfartal â'n trefi a'n dinasoedd mwy os ydym am fynd i'r afael ag
argyfwng yr hinsawdd o ddifrif, ac atal cymunedau gwledig rhag cael eu hynysu
ymhellach.
Felly, mae'r Cyngor
yn nodi:
1. Bod Cyngor Ceredigion yn gofyn i Lywodraeth
Cymru gydnabod bod angen buddsoddi mewn trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig,
a’i sybsideiddio yn unol â hynny.
2. Bod trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau
gwledig fel y rhai yng Ngheredigion, sydd wedi’u heffeithio'n andwyol gan
danariannu trafnidiaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, yn gofyn am fynediad
cyfartal i gymunedau mwy.
3. Bod tasglu trafnidiaeth wledig yn cael ei
sefydlu ar unwaith gan Lywodraeth Cymru ac ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol
fel Cyngor Ceredigion, i fynd i'r afael â mater trafnidiaeth wledig.
Amlinellodd y Cynghorydd Meirion Davies y sefyllfa
ar hyn o bryd gan nodi bod trigolion yn cael eu hynysu gan ddiffyg trafnidiaeth
gyhoeddus ac yn methu mynychu apwyntiadau meddygol, siopa a bancio, a bod
ganddo bryderon ynglŷn â lles ac iechyd y trigolion hyn. Roedd yr argyfwng costau byw yn golygu nad
oedd pawb yn gallu fforddio rhedeg car, a bod colli gwasanaeth bws dydd Sadwrn
a lleihad i wasanaethau eraill yn cael effaith ar ieuenctid ei ward ef a
wardiau eraill. Nododd y dylai
Llywodraeth Cymru ariannu gwasanaethau trafnidiaeth oherwydd yr effaith ar y
rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn unol â'u pwyslais ar yr
amgylchedd. Nododd ei bryder bod y
cynllun Brys ar gyfer y sector Bysiau ar fin dod i ben, a fydd yn cael mwy o
effaith ar y rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, a bod Ben Lake AS, Elin
Jones AS a Jane Dodds AS i gyd wedi nodi eu cefnogaeth iddo barhau.
Canmolodd y Cynghorydd Paul Hinge y Cynghorydd
Meirion Davies am ei esboniad o bwysigrwydd trafnidiaeth i Geredigion, a
adlewyrchwyd hefyd yn y cyflwyniad gan gynrychiolwyr y Cyngor Ieuenctid yn
gynharach yn y dydd. Nododd y dylai
Llywodraeth Cymru fod yn meddwl yn ehangach ac ystyried iechyd a lles
cenedlaethau’r dyfodol, ond nid oes dim adnoddau wedi’u rhoi i gyflawni hyn.
Galwodd am sefydlu Tasglu Gwledig ar unwaith gan gynnwys rhanddeiliaid
allweddol i edrych ar ddosbarthiad priodol cyfoeth a chydraddoldeb â lleoedd
eraill yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â phroblem trafnidiaeth wledig.
Nododd y Cynghorydd Bryan Davies ei fod yn
cefnogi’r Cynnig yn llawn, a bod trafodaethau’n cael eu cynnal yn rheolaidd
gyda Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn Fforwm Gwledig
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Nododd fod Lee Waters yn awyddus i sicrhau
bod gan bob pentref fynediad at drafnidiaeth, fodd bynnag, diffiniad
Llywodraeth Cymru o bentref yw 200 neu ragor o gartrefi, nad yw'n berthnasol i
fwyafrif pentrefi Ceredigion. Yn dilyn
COVID, bu newidiadau demograffig gan gynnwys gweithio gartref, gyda llai o bobl
yn defnyddio’r gwasanaethau bysiau, sy’n cael effaith ar fusnesau lleol, fodd
bynnag mae hyn yn rhywbeth y byddai’n gobeithio ei drafod os caiff y fforwm ei
sefydlu. Nododd hefyd y byddai angen
iddynt edrych ar gynllun 10-15 mlynedd, ac nid y sefyllfa ar hyn o bryd yn
unig, a byddai angen iddo hefyd ystyried ail-agor y rheilffordd.
Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd yr effaith
ganlyniadol ar y Cynllun Datblygu Lleol, oherwydd canllawiau Llywodraeth Cymru
yn datgan nad yw cymuned yn gynaliadwy oni bai bod ganddi wasanaeth bws, a
fyddai’n golygu na fyddai dim tai newydd yn cael eu hadeiladu oni bai eu bod ar
goridor y briffordd drwy'r sir.
Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans ei chefnogaeth
lawn, a diolchodd i bawb am y gefnogaeth ar draws y Siambr.
Nododd y Cynghorydd Alun
Williams, er mwyn lleihau nifer y ceir ar y ffyrdd, y byddai angen system
trafnidiaeth bws ardderchog. Nododd fod
Ceredigion hefyd wedi bod dan anfantais o ran Teithio Llesol gyda dim ond 3
tref yng Ngheredigion yn gymwys ar gyfer y cynllun. Mae dwy ran o dair o Gymru yn ardaloedd
gwledig felly dylai Llywodraeth Cymru fod yn dda am hyn, ac roedd yn gobeithio
y byddai’r safbwyntiau hyn yn cael eu hadlewyrchu gan awdurdodau cyfagos
oherwydd yr effaith ar yr economi, iechyd a Chymru garbon isel.
Nododd y Cynghorydd Keith Henson ei fod wedi codi’r
materion hyn gyda Lee Robinson, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Gogledd
Cymru, fel Cadeirydd Tracc Cymru a’i fod yn aros am ymateb i’w gais am ddata yn
ymwneud â hyn. Nododd hefyd fod yna ddiffyg
darparwyr a gyrwyr ac y byddai angen adolygu hyn hefyd. Nododd fod Dolen Teifi
hefyd yn darparu gwasanaeth rhagorol, y byddai angen edrych arno yn y tymor
hir.
Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod Aelodau wedi
cyfarfod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ychydig wythnosau yn ôl ynghylch
cynigion i adeiladu ysbyty newydd yn ardal Hendy-gwyn ar Daf a nododd eu bod
wedi codi eu pryderon ynghylch hygyrchedd i drigolion Ceredigion oherwydd y
diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.
Eglurodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans fod y
cyfeiriad a wnaed gan yr Athro Stuart Cole at gysylltiad y rheilffordd yn
annhebygol o ddigwydd yn y 30-40 mlynedd nesaf oherwydd rhesymau ariannol, ac y
byddai gweithredu 3 bws y dydd i Gaerfyrddin yn llawer rhatach nag adfer y
rheilffordd.
Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD derbyn y cynnig fel y’i cyflwynwyd.
Dogfennau ategol: