Cofnodion:
Ystyriwyd
Cynllun Gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32. Yn unol ag adran
84, Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, roedd disgwyl i bob
Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i
Lywodraeth Cymru. Roedd y cynllun a luniwyd yn cydymffurfio â rheoliadau
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru 2019 ac roedd
Cabinet Cyngor Ceredigion wedi mabwysiadu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn
Addysg ar 22 Chwefror 2022. Cymeradwywyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru ar 20
Gorffennaf 2022.
Roedd
y cynllun yn un strategol a oedd yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol er mwyn
datblygu a chryfhau’r Gymraeg:
Deilliant
1: Mwy o blant meithrin/
tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant
2: Mwy o blant dosbarth
derbyn/ pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant 3: Mwy
o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u
haddysg statudol i un arall
Deilliant
4: Mwy o ddysgwyr yn
astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg
(fel
pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant
5: Mwy o gyfleoedd i
ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr Ysgol
Deilliant
6: Cynnydd yn y
ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
(“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau
a
bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
2018)
Deilliant
7: Cynnydd yn nifer y
staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y
Gymraeg
Ar ôl
cymeradwyo’r cynllun, o dan adran 85(7), Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013, roedd yn rhaid i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i
weithredu eu CySGA a pharatoi cynllun gweithredu, a fyddai’n cael ei fonitro yn
flynyddol ar ffurf adroddiad adolygu. Roedd y Cynllun Gweithredu yn nodi lle’r
oedd yr Awdurdod Lleol arni yn 2022 yn y meysydd dan sylw ac roedd yn egluro
beth oedd y nod ymhen 5 mlynedd a sut y byddai modd cyrraedd hynny. Yn ogystal,
amlinellwyd y nodau a’r hyn a ddisgwylid ar ddiwedd oes y Cynllun ymhen degawd.
Roedd y Cynllun Gweithredu a gyflwynwyd yn rhoi trosolwg o’r gweithdrefnau dros
5 mlynedd, ac roedd y cynllun gweithredol mwy manwl ar gyfer y ddwy flynedd
gyntaf yn nodi cyfrifoldebau staff penodol o ran gwireddu’r camau gweithredu
angenrheidiol.
Cyflwynwyd
fersiwn ddrafft y cynllun gweithredu i’r Llywodraeth ar 23 Rhagfyr 2022. Cafwyd
cadarnhad ar 28 Chwefror 2023 fod y camau gweithredu a’r amserlen yn glir ac yn
bwrpasol. Roedd y sylwadau a dderbyniwyd wedi eu cynnwys yn y cynllun
gweithredu a gyflwynwyd. Roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y cynllun
gweithredu yn ddogfen fyw a hyblyg y byddai angen ei diwygio ar hyd y ffordd yn
ôl anghenion a datblygiadau lleol. Byddai’r cynllun gweithredu yn cael ei fonitro
bob tymor gan Fforwm Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’r is-bwyllgorau
yn ôl yr angen.
Un
o’r camau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu oedd dechrau’r broses ymgynghori ar
gyfer newid cyfrwng iaith y Cyfnod Sylfaen mewn pum ysgol yn y sir. Er mwyn
cysoni oed derbyn y pum ysgol, cytunwyd yn y CySGA y byddai tair ysgol yn newid
eu hoed derbyn i 3 oed, yn lle 4 oed. Yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion
2018, roedd angen caniatâd Cabinet y Cyngor ar gyfer dechrau’r broses
ymgynghori, a byddai papur yn mynd gerbron y Cabinet ar 2.5.23. Pe byddai’r Cabinet yn rhoi ei ganiatâd yn y
cyfarfod hwnnw, y bwriad oedd dilyn yr amserlen ganlynol o ran y broses
statudol ynghylch cynnal ymgynghoriad.
30 Mawrth 2023 |
Pwyllgor Craffu |
2 Mai 2023 |
Cabinet |
15 Medi – 30 Hydref 2023 |
Cyhoeddi Dogfennau Ymgynghori Cod Trefniadaeth Ysgolion 3.4 Rhaid cyhoeddi’r ddogfen
ymgynghori ar un o ddiwrnodau ysgol yr ysgol neu’r ysgolion y mae’r cynnig yn
ymwneud â hi/nhw, a rhaid rhoi o leiaf 42 o ddiwrnodau i bobl ymateb
i’r ddogfen, gydag 20 o’r rhain yn ddiwrnodau ysgol. |
9 Ionawr 2024 |
Cabinet Cod Trefniadaeth Ysgolion 3.6 Rhaid i'r cynigydd gyhoeddi
adroddiad ar yr ymgynghoriad ar ei wefan neu wefan yr awdurdod lleol
perthnasol. Rhaid cyhoeddi’r adroddiad o leiaf pythefnos cyn cyhoeddi
hysbysiad statudol. |
22 Ionawr – 19 Chwefror 2024 |
Cod Trefniadaeth Ysgolion 4.1 Cyhoeddi hysbysiad statudol Rhaid i’r hysbysiad statudol gael ei gyhoeddi ar ddiwrnod ysgol ond nid
ar ddiwrnod ysgol sy’n cynnwys sesiwn sydd wedi’i neilltuo (yn llwyr neu’n
bennaf) i wella safonau addysgu neu arferion rheoli staff yn yr ysgol
(diwrnodau hyfforddiant mewn swydd). Rhaid i’r cyfnod gwrthwynebu gynnwys 15
diwrnod ysgol (yn ychwanegol at y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad). Rhaid
cyhoeddi am 28 diwrnod. |
4 Mehefin 2024 |
Cabinet Penderfyniad i
weithredu ai peidio |
Yn
dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell i’r Cabinet:-
(i)
i fabwysiadu Cynllun Gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar
gyfer 2022-2032, a’i weithredu o ddechrau tymor yr haf 2023, a’i adolygu’n
flynyddol;
(ii)
y byddai’r Cynllun Gweithredu yn cael ei fonitro drwy gyfrwng cyfarfodydd
Fforwm Iaith y CySGA a phwyllgor Dyfodol Dwyieithog;
(iii)
y byddai adroddiad blynyddol am y cynnydd a wnaed o ran Cynllun Gweithredu
Cynllun Strategol Addysg y Gymraeg yn cael ei gyflwyno i’r Fforwm Iaith, y
Pwyllgor Dyfodol Dwyieithog, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu
ac i’r Cabinet; ac
(iv)
yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, y byddai’r Awdurdod Lleol yn dechrau ar y
broses o newid cyfrwng iaith y Cyfnod Sylfaen yn ysgolion Comins Coch, Llwyn yr
Eos, Padarn Sant, Plascrug a Chei Newydd. Yn ogystal, byddai ymgynghoriad
parthed newid oed derbyn mewn tair ysgol sef Comins Coch, Padarn Sant a Chei
Newydd yn cyd-fynd â hyn. Byddai’r cyfnodau ymgynghori hyn yn dechrau ar 15
Medi 2023.
Dogfennau ategol: