Eitem Agenda

Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3, 2022/2023

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad y Swyddog Adolygu Annibynnol ar gyfer Chwarter 3 2022/2023. Roedd yr adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gwaith monitro a sicrhau ansawdd mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal a adolygwyd yn ystod trydydd chwarter 2022/23. Roedd y wybodaeth hon yn cynorthwyo’r Aelodau i gyflawni eu swyddogaethau fel Rhieni Corfforaethol. Sail y wybodaeth oedd y ffurflenni monitro a gwblhawyd gan y Swyddogion Adolygu Annibynnol yn dilyn pob Adolygiad Statudol o Blant sy’n Derbyn Gofal yn ogystal â’r wybodaeth arall yr oedd y Gwasanaethau Plant yn ei chasglu am berfformiad. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddiwyd i fesur canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal adeg eu hadolygiad statudol, gan gynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru a Thargedau Perfformiad Lleol.

 

Ar sail y wybodaeth a oedd ar gael a’r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu plant sy’n derbyn gofal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn llunio barn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd Cynllun Gofal y plentyn / person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gallai argymell newidiadau i’r Cynllun Gofal.

 

Yn ystod y cyfarfod adolygu roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd angen cymorth ar y plentyn / person ifanc i nodi pobl eraill berthnasol er mwyn cael cyngor cyfreithiol / cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o’r farn bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 1 person ifanc yn ystod y cyfnod dan sylw. Yn ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a fu unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn / person ifanc, ac os felly, gallai gyfeirio’r achos i CAFCASS. Ni chododd yr angen i gymryd y cam hwn mewn unrhyw adolygiad.

 

      CRYNODEB O’R PRIF BWYNTIAU:

  • Ar ddiwedd Chwarter 3, roedd 122 o blant yn derbyn gofal o’i gymharu â 112 ar ddiwedd Chwarter 2.
  • Cafodd 116 o blant eu hadolygu yn y chwarter hwn o’i gymharu â 63 yn y chwarter blaenorol. Cwblhawyd nifer fawr o adolygiadau yn y chwarter hwn oherwydd bod y Tîm Innovate wedi dechrau ar eu gwaith yn y sir. Cafodd adolygiadau o blant sy’n derbyn gofal eu gohirio tan Chwarter 3 pan fyddai mwy o gapasiti, gydag Innovate yn dechrau, a chafodd achosion y plant eu hailneilltuo i weithwyr cymdeithasol newydd a allai gymryd rhan yn y broses adolygu. Cafodd 85.3% o blant eu hadolygu o fewn y terfynau amser statudol o’i gymharu ag 88.9% yn Chwarter 2. 
  • Gadawodd 8 o blant ofal yn y chwarter hwn o’i gymharu â 6 yn Chwarter 2. Dirymwyd Gorchmynion Gofal 6 o blant, dychwelodd 6 o blant adref at eu teuluoedd, aeth 1 plentyn i leoliad Pan Fyddaf yn Barod, ac aeth 1 plentyn i lety â chymorth neu i leoliad byw’n annibynnol neu i leoliad cysylltu bywydau.
  • O ran y lleoliadau a ddarparwyd ar gyfer y plant a adolygwyd yn ystod y chwarter hwn, roedd 13 o dan ofal maeth yr Awdurdod Lleol, 24 mewn lleoliadau gofalwyr sy’n berthnasau (19 yn y sir, 5 y tu allan i’r sir), roedd 22 mewn lleoliadau Asiantaeth Faethu Annibynnol (7 yn y sir, 15 y tu allan i’r sir), roedd 15 o blant wedi’u lleoli gyda’u rhieni (12 yn y sir, 3 y tu allan i’r sir) ac roedd 12 mewn darpariaeth gofal preswyl y tu allan i’r sir.
  • Roedd 74 o blant yn derbyn gofal o dan statws cyfreithiol Gorchymyn Gofal Llawn, 18 o dan Orchymyn Gofal Dros Dro, 4 o dan Orchymyn Lleoli, ac 20 o dan Adran 76. 
  • O’r plant a adolygwyd yn ystod y chwarter hwn, cafodd 83.6% ymweliad statudol, o’i gymharu â 93.7% yn Chwarter 2.
  • Cofnodwyd bod 42.9% o’r Cynlluniau Gofal a Chymorth wedi’u sefydlu yn yr adolygiad cyntaf. Roedd y ganran isel yn ystod y chwarter hwn oherwydd problemau staffio yn y Tîm Gofal wedi’i Gynllunio a oedd wedi atal cynlluniau rhag cael eu cwblhau mewn pryd.
  • Dim ond 16.7% o’r plant a adolygwyd yn y chwarter hwn oedd â Chynllun Parhad yn ei le ac wedi’i gytuno erbyn yr ail adolygiad, o’i gymharu â 57.2% yn y chwarter blaenorol.
  • O ran y plant mewn gofal o Geredigion a adolygwyd yn ystod Chwarter 3, roedd y ffigurau ynghylch faint o amser yr oeddent wedi bod mewn gofal fel a ganlyn - 27 llai na 6 mis, 9 rhwng 6 –12 mis, 19 rhwng 1 – 2 flynedd, a 61 ers dros 2 flynedd.
  • Ar gyfer y plant a oedd yn cael eu hail adolygiad neu adolygiadau dilynol, dyma oedd y cynlluniau parhad a oedd yn eu lle ar eu cyfer –gofal maeth tymor hir ar gyfer 37 o blant, gofal gan berthnasau ar gyfer 17 o blant, tracio deuol ar gyfer 15 o blant, lleoliad gyda rhiant ar gyfer 15 o blant, gofal preswyl ar gyfer 8 o blant, mabwysiadu ar gyfer 5 o blant, lleoliad byw’n annibynnol ar gyfer 4 o blant, ac adsefydlu yn ôl gyda’r rhieni ar gyfer 1 plentyn. 
  • Canran y plant (â digon o grebwyll) a oedd yn deall y rheswm dros dderbyn gofal oedd 95.3%.
  • Canran y plant (â digon o grebwyll) oedd wedi cymryd rhan neu a gafodd eu hymgynghori ynghylch eu hadolygiad oedd 100%.
  • Canran y plant a gafodd wybod am eu hawl i gael gwasanaeth eirioli oedd 92.5%.
  • Nifer a chanran y plant sy’n derbyn gofal o oed ysgol oedd â Chynllun Addysg Personol o fewn 20 diwrnod ysgol ar ôl iddynt ddechrau derbyn gofal neu ar ôl dechrau mewn ysgol newydd yn ystod y chwarter hwn oedd 95.5%.
  • Nifer a chanran y rhieni y bu i’r Gweithiwr Cymdeithasol ymgynghori â hwy cyn yr adolygiad neu a fu’n bresennol yn yr adolygiad oedd 100%.
  • Cynhaliwyd 17 o Gynlluniau Llwybr yn ystod y chwarter hwn, o’i gymharu â 33 yn Chwarter 2. Cynhaliwyd 70.6% o’r Adolygiadau o’r Cynlluniau Llwybr o fewn y terfynau amser gofynnol.
  • Canran y bobl ifanc ag Ymgynghorydd Personol / Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig oedd 100% yn ystod y chwarter hwn.
  • Canran y bobl ifanc yr ymgynghorwyd â hwy ar gyfer y cyfarfod adolygu yn ystod y chwarter hwn oedd 82.4%.

 

            CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd.

 

 

Dogfennau ategol: