Eitem Agenda

Cyflwyno i'r Pwyllgor ddiweddariad ar Wasanaeth Therapi Galwedigaethol Porth Gofal

Cofnodion:

 

            Ystyriwyd yr adroddiad diweddaru ynghylch Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol Porth Gofal. Rhoddwyd cefndir manwl ynghylch y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol ynghyd â diweddariad ynghylch y sefyllfa bresennol. 

 

Roedd gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol niferoedd uchel o bobl ar y rhestr aros ac roedd y niferoedd hyn wedi cynyddu yn sgil y cyfyngiadau COVID gan mai ymweliadau brys a gynhaliwyd yn unig yn ystod y cyfyngiadau. Gan na lwyddwyd i recriwtio i lanw swyddi gwag am gyfnod hir, nid oedd y gwasanaeth yn gallu lleihau’r rhestr aros. Yn ogystal, roedd rhywfaint o salwch hirdymor yn y gwasanaeth ac roedd yr unig Therapydd Galwedigaethol llawn amser newydd ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnod mamolaeth.

 

            Adroddwyd mai’r heriau i’r gwasanaeth ar y pryd oedd fel a ganlyn:-

1) Recriwtio Therapyddion Galwedigaethol cymwys – roedd hysbyseb ar gyfer 2 swydd Therapydd Galwedigaethol lawn amser wedi bod allan ers bron i flwyddyn heb unrhyw ymgeiswyr.

2) Roedd y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Integredig yn arwain ar bryderon am y gallu i reoli’r tîm oherwydd mynediad i TG a’r adnoddau oedd ar gael. Ar y pryd roedd y galw am y gwasanaeth yn fwy na’r hyn yr oeddent yn medru ei ddarparu ac o’r herwydd roeddent wedi camu nôl o reolaeth weithredol i ddarparu cyfarwyddyd clinigol yn unig. Roedd y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn cael ei reoli’n weithredol gan Reolwr Brysbennu Integredig Porth Gofal a oedd yn Weithiwr Cymdeithasol.

3) Roedd 2 Uwch Ymarferydd wedi rhoi rhybudd eu bod yn gadael eu swyddi. Roedd 1 wedi ymddeol ar 18.5.2022. Roedd y llall yn gweithio o bell ac wedi’i leoli y tu allan i Geredigion, ac roedd ar rybudd estynedig tan 31/3/23.

4) Ni chafwyd unrhyw ymgeiswyr ar gyfer hysbyseb diweddar am 2 uwch ymarferydd (ers y mis Mai blaenorol). Ar y pryd, roedd y swydd wag yn cael ei rheoli gan weithiwr asiantaeth tra bo’r uwch ymarferydd arall yn gweithio cyfnod rhybudd estynedig.

5) Roedd risg y byddai’r rhestr aros yn parhau i gynyddu, gan arwain at fwy o risg oherwydd yr oedi pellach ac wrth i sefyllfaoedd waethygu ar gyfer unigolion a theuluoedd.

6) Cynnydd yn yr angen am ofal a chymorth yn sgil oedi yn yr ymyrraeth ataliol a oedd ar gael gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol.

7) Cynnydd yn nifer y cwynion a diffyg ffydd yn y gwasanaeth wrth i ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u teuluoedd deimlo’n rhwystredig gyda’r oedi a’r ffaith nad oedd datrysiad nac amserlen i fynd i’r afael â’r problemau.

 

O ran y penderfyniad i ddefnyddio asiantaeth allanol i gynorthwyo gyda’r rhestr aros, ni fu hyn mor llwyddiannus â’r disgwyl oherwydd cafodd yr asiantaeth drafferthion wrth geisio cael gafael ar Therapyddion Galwedigaethol a oedd yn medru teithio i Geredigion. Dim ond 34 asesiad a gwblhawyd mewn cyfnod o 4 mis a chodwyd pryderon am ansawdd y gwaith felly terfynwyd y contract. Roedd y gwasanaeth wrthi’n trafod ag asiantaeth arall yn Ne Cymru a oedd wedi dweud y byddent yn fodlon darparu nifer o Therapyddion Galwedigaethol er mwyn cefnogi’r gwasanaeth i leihau’r rhestr aros a hynny am gost o £255 yr asesiad.

 

Roedd y gwasanaeth yn edrych ar y posibilrwydd o recriwtio Therapyddion Galwedigaethol drwy ymgyrch recriwtio rhyngwladol. Roedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng rheolwyr o Iechyd a Gofal Cymdeithasol i drafod problemau ac ystyried cyfleoedd i gefnogi’r gwasanaeth.

 

         Ar y pryd, roedd strwythur y tîm yn cael ei adolygu er mwyn nodi cyfleoedd i wella’r broses recriwtio ar gyfer y tîm. Roedd asesiad risg wedi’i baratoi ar gyfer y gwasanaeth ac roedd yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

         

             CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol.   

 

Dogfennau ategol: