Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor,
yr adroddiad gan nodi bod y wybodaeth wedi’i hystyried gan y Cabinet a’r holl
Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Ychwanegodd fod y Cabinet wedi cytuno â’r cynnig
a gyflwynwyd gan un o’r Pwyllgorau Craffu i beidio â chodi tâl am barcio yn Nhregaron a Llandysul a bod y cynnig hwn wedi’i gynnwys yn
yr adroddiad.
Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i’r Swyddogion, gan
nodi bod y Cabinet wedi gosod her iddynt fantoli’r gyllideb heb effeithio ar
swyddi na gwasanaethau ar y rheng flaen, gymaint â sydd bosib. Nododd fod
chwyddiant, pwysau o ran costau gan gynnwys ynni, tanwydd, dyfarniadau cyflog a
galwadau cynyddol yn y gyllideb Gofal Cymdeithasol, a chostau byw cynyddol wedi
golygu diffyg o £22m yn y gyllideb a bod y cynnydd o 8.1% yn Setliad
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 wedi golygu y byddai angen sicrhau £12m o
arbedion o ffynonellau incwm. Roedd y Cabinet wedi cynnig cynnydd o 7.3% yn
Nhreth y Cyngor ac roedd hyn yn cynnwys 6% i ariannu’r cynnydd yn y pwysau a
fyddai ar y Cyngor o ran cost, a chynnydd i ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a
Gorllewin Cymru o’u cyllideb o 13% nad oedd yn agored i drafodaeth, sy’n golygu
1.3% yn ychwanegol ar Dreth y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet
dros Gyllid a Chaffael nad oeddent yn medru rhoi sicrwydd na fyddai unrhyw
swyddi yn cael eu torri, ac y gallai’r ansicrwydd parhaus ynghylch cyflogau
effeithio ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor gan fod, o bosib, yn uwch na’r swm a
neilltuwyd ar ei gyfer. Diolchodd i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am eu
trafodaethau agored ac aeddfed a nododd pe byddai’r Aelodau wedi dymuno cynnig
atebion gwahanol, y byddent wedi gorfod cyflwyno'r rhain yn ystod y broses
graffu fel y gallai’r Swyddog Adran 151 ystyried costau’r cynigion a rhoi
sicrwydd am gadernid unrhyw gynlluniau o'r fath.
Bu i Eifion Evans, y Prif Weithredwr, gydnabod y gwaith
cefndir yr oedd pob Swyddog wedi’i wneud i nodi’r arbedion ac i sicrhau bod
swyddi a gwasanaethau yn cael eu diogelu gymaint â sydd bosib. Nododd fod y
rheoleiddwyr allanol yn cydnabod bod Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i ddarparu
gwasanaethau o’r ansawdd uchaf er gwaethaf yr heriau. Er hynny, rhagwelwyd y
byddai cyllideb y flwyddyn ganlynol hyd yn oed yn fwy heriol.
Cadarnhaodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ei farn ar
y Gyllideb fel y Swyddog Adran 151, a oedd yn
cynnwys rhoi diweddariad ar Setliad Terfynol LlC a chyflwyniad diweddar Cynigion Cyflog yn ddiweddar
ar gyfer staff cyffredinol ar gyfer 2023/24.
Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Arweinydd y Grŵp
Annibynnol, fod ardoll yr awdurdod tân wedi bod yn isel iawn yn hanesyddol, ac
mai dim ond un Orsaf Dân gyda chriw llawn amser oedd yn bodoli ar draws
Ceredigion a Phowys. Roedd hyn wedi cael effaith ar y staffio ac roedd yr
Awdurdod Tân yn ceisio denu pobl newydd drwy adolygu contractau cyflogaeth, a
dyna yn rhannol oedd y rheswm dros y cynnydd sylweddol yn yr Ardoll. Diolchodd
i bawb am eu gwaith a diolchodd i'r Cabinet am wrando ar argymhellion y
Pwyllgorau Craffu. O ran pennu cyllideb y flwyddyn nesaf, nododd y byddai angen
i'r Cyngor ddechrau ar y gwaith yn syth drwy adolygu ffynonellau incwm megis
talu am barcio a rhenti, yn ogystal ag arbedion o ran staff asiantaeth a phrynu
offer yn hytrach na’i logi.
Diolchodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Arweinydd
Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, i’r Swyddogion am gynnwys Arweinwyr y
Grwpiau yn gynnar ac am wrando ar eu cynigion. Nododd fod y cynnydd yn Nhreth y
Cyngor yn ddigynsail ond y byddai’r trigolion yn anfodlon iawn gweld unrhyw
ostyngiad posibl mewn gwasanaethau. Ar y llaw arall, dywedodd fod pryder y
gallai cynnydd arall yng nghostau aelwydydd y sir wthio hyd yn oed fwy o bobl i
galedi. Nododd fod morâl hefyd yn isel iawn ymhlith yr Aelodau. Fodd bynnag,
dywedodd y byddai unrhyw gynnydd yn Nhreth y Cyngor a oedd o dan 7.3% yn arwain
at ostyngiad pellach mewn gwasanaethau. Ychwanegodd na allai wrthwynebu'r
cynnydd am nad oedd fel arweinydd un o’r Gwrthbleidiau wedi medru awgrymu
unrhyw opsiynau eraill i leddfu'r sefyllfa.
Fel enghraifft, mae’r gwahaniaeth lefel Treth y Cyngor rhwng 6.0% a 7.3%
yn 37c yr wythnos ar gyfer eiddo Band D.
Cynigiodd y Cynghorydd Gareth Lloyd y dylai’r bleidlais
ar gyfer Argymhellion 1 – 5 fod yn Bleidlais Gofrestredig. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gareth Davies.
Cafwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol.
Cafwyd pleidlais
gofrestredig ynghylch argymhellion 1 i 5 yn yr adroddiad, yn unol â’r hyn a
gytunwyd iddo ac yn unol â Rheol 14.5, Rheolau Gweithdrefn y Cyngor yng
Nghyfansoddiad y Cyngor.
O blaid: Y
Cynghorwyr Bryan Davies, Catrin M S Davies, Clive Davies, Euros Davies, Gareth Davies,
Gethin Davies, Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Rhodri Davies, Amanda
Edwards, Endaf Edwards, Elaine Evans, Elizabeth Evans, Eryl Evans, Gwyn Wigley
Evans, Keith Evans, Rhodri Evans, Wyn Evans, Keith Henson, Paul Hinge, Geraint
Hughes, Hugh Hughes, Chris James, Gwyn James, Ceris Jones, Maldwyn Lewis,
Gareth Lloyd, Sian Maehrlein, Ann Bowen Morgan, Caryl Roberts, John Roberts,
Mark Strong, Wyn Thomas, Matthew Vaux, Alun Williams a Carl Worrall (37).
Yn erbyn: Neb (0)
Ymatal: Neb (0)
Ni wnaeth y Cynghorydd Steve Davies bleidleisio.
Yn dilyn pleidlais gofrestredig, PENDERFYNWYD:
1.
Nodi, ym marn y Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Cyllid a Chaffael (Swyddog Adran 151):
• bod amcangyfrifon Cyllideb 2023/24 wedi'u paratoi
mewn modd cadarn, a
• bod lefel arfaethedig y Cronfeydd Wrth Gefn a
Glustnodwyd a’r Balansau Cyffredinol yn ddigonol ar gyfer y flwyddyn
ariannol i ddod.
2.
Cymeradwyo Gofyniad y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/24 o £180.101m, fel yr
amlinellir yn Atodiad 1.
3.
Cymeradwyo Cyllidebau 2022/23 a Chyllidebau 2023/24, y cyllidebau manwl a
ddiweddarwyd, fel yr amlinellir yn Atodiad 2.
4. Pennu
Treth y Cyngor Band D o £1,553.60 ar gyfer 2023/24 at ddibenion Cyngor Sir
Ceredigion, sef cynnydd o £105.70 neu 7.3%.
5. Nodi bod
y cynnydd o 7.3% ym Mand D Treth y Cyngor yn cynrychioli cynnydd o 6.0% ar
gyfer Gwasanaethau craidd y Cyngor ac 1.3% pellach er mwyn ariannu cynnydd yn
ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2023/24.
Yn dilyn
pleidlais arall, PENDERFYNWYD hefyd:
6. Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf, fel
yr amlinellir yn Atodiad 3.
7.
Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn, fel yr amlinellir yn Atodiad 4.
8.
Cymeradwyo’r Dangosyddion Darbodus, fel yr amlinellir yn Atodiad 5.
9. Dirprwyo
awdurdod i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Cyllid a Chaffael i weithredu
symudiad o fewn cyfanswm y terfyn Awdurdodedig ar gyfer benthyca allanol, a'r
ffin Weithredol.
Dogfennau ategol: