Cofnodion:
Cyfarfu
Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu i ystyried y cyllidebau
ar gyfer y gwasanaethau sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, ynghyd ag ystyried
yr argymhellion canlynol:
1. Ystyried sefyllfa gyffredinol
y gyllideb fel y dangosir yn yr adroddiad ar y gyllideb yn Atodiad A.
2. Ystyried elfennau perthnasol y
pwysau o ran costau ar y gyllideb, sef cyfanswm o £22.2m ar draws yr holl
wasanaethau.
3. Ystyried elfennau perthnasol y
cynigion ar gyfer gwneud arbedion yn y gyllideb, sef cyfanswm o £8.9m ar draws
yr holl wasanaethau.
4. Ystyried elfennau perthnasol y
cynigion ynghylch ffioedd a chostau.
5. Ystyried y 4 opsiwn a
amlinellir yn Argymhelliad 3a) i 3d) o adroddiad Cabinet 24/01/23, sef:
3a)
Cynnydd o 6.3% yn Nhreth y Cyngor (gan
gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân)
a gofyniad cyllidebol o £179.627m ar gyfer 23/24, a fyddai’n darparu cyfraniad
is tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion.
3b)
Cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor (gan
gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân)
a gofyniad cyllidebol o £180.101m ar gyfer 23/24.
3c)
Cynnydd o 8.3% yn Nhreth y Cyngor (gan
gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân)
a gofyniad cyllidebol o £180.576m ar gyfer 23/24, a fyddai’n darparu cyfraniad
uwch tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion.
3d)
Cynnig opsiwn arall yn ychwanegol at
Argymhellion 3a) i 3c) i ddarparu cynnydd penodol at ddiben penodol, ar yr amod
bod unrhyw opsiwn yn cael ei ystyried yn ystod y cyfarfodydd a gynhelir i
graffu ar y gyllideb a bod y Swyddog Adran 151 yn cael digon o amser ymlaen
llaw i fodelu’r effaith yn llawn ac i roi ei farn ar ei gadernid.
6. Darparu unrhyw adborth priodol
arall ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 23/24 i’r Cabinet.
Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan Arweinydd y
Cyngor (y Cynghorydd Bryan Davies), yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael (y
Cynghorydd Gareth Davies) a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a
Chaffael (Duncan Hall). Yna cyflwynodd yr Aelod
Cabinet priodol yr eitemau yn y gyllideb sy’n berthnasol ar gyfer y meysydd
gwasanaeth sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn
cwestiynau a atebwyd yn eu tro gan yr Aelodau Cabinet a/neu’r Uwch Swyddogion.
Argymhellion:
Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:
3b) Cynnydd o 7.3% yn Nhreth y
Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr
Awdurdod Tân) a gofyniad cyllidebol o £180.101m ar gyfer 23/24.
6. Cytunwyd i argymell y canlynol i’r Cabinet: os bydd rhagor o arian ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru ac nad oes amodau ynghlwm wrtho, dylid neilltuo’r arian hwnnw ar gyfer ysgolion.
Dogfennau ategol: