Cofnodion:
Amlinellodd y Cynghorydd Caryl
Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor, weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y
Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet
dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael, Aelodau’r Pwyllgor, gweddill Aelodau’r Cabinet,
yr Aelodau nad ydynt yn perthyn i Bwyllgor a Swyddogion i’r cyfarfod.
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad ar
gyllideb ddrafft 2023/2024 gan gynnwys rhaglen gyfalaf amlflwyddyn wedi’i
diweddaru gan nodi ei fod yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru, a
bod setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 28 Chwefror 2023.
Dywedodd yr Arweinydd wrth
Aelodau’r Pwyllgor y croesawir y cynnydd uwch na’r disgwyl o 8.1% (ar sail
ariannol) yn y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/2024. Dylai hyn sicrhau y gellir diogelu
gwasanaethau i breswylwyr Ceredigion cymaint ag sy’n bosibl ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2023/2024 er y cydnabyddir bod hon yn Gyllideb eithriadol o heriol o
hyd. Mae’r pwyntiau allweddol sy’n
deillio o’r adroddiad fel a ganlyn:
·
Mae’r pwysau o ran costau a
wynebir gan y Cyngor yn dod i gyfanswm na welwyd ei debyg o £22m, sydd gyfwerth
â ffactor chwyddiant penodol i Geredigion o fwy na 13%. Mae hyn yn cymharu â
chwyddiant cyffredinol o 10.5% (ffigwr CPI Rhagfyr 2022). Mae angen dod o hyd i
ddiffyg o £12m yn y gyllideb felly drwy gyfuniad o ystyriaethau o ran Arbedion
Cyllidebol a chynnydd yn y Dreth Gyngor.
·
Dywedodd nad oedd y meysydd lle
gwelir pwysau o ran costau yn gyffredinol yn unigryw i Geredigion. Mae themâu’n
dod i’r amlwg yn gyson sy’n debyg i’r rhai y cyfeirir atynt yn y wasg yn
genedlaethol sy’n effeithio ar ystod o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat
yn ogystal ag ar sefyllfa ariannol teuluoedd unigol. Maent yn amrywio o gostau ynni a thanwydd i
ddyfarniadau cyflog staff uwch na’r rhagamcanion, i gontractau â chymalau sy’n
gysylltiedig â chwyddiant.
·
Mae cynnydd arfaethedig ar ei
ardoll gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd sydd ar lefel na
welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae cynnydd arfaethedig o 13% yn ei Gyllideb yn
arwain yn ei dro at bwysau mawr o ran costau, mewn termau cymharol, ar gyllideb
y Cyngor ei hun.
·
Mae’r gofynion ar gyllidebau sy’n
ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn dal i gynyddu, ac mae hefyd angen cyfeirio mwy
nag £1.7m o arian yn y Setliad Dros Dro (1.5% o’r cynnydd o 8.1%) i wasanaethau
a gomisiynir yn allanol yng Ngheredigion er sicrhau bod gweithwyr Gofal
Cymdeithasol cofrestredig yn dal i gael eu talu ar y Cyflog Byw Real, o leiaf
(sydd wedi codi o £9.90 i £10.90 yr awr - cynnydd o 10.1%).
·
Ar waethaf heriau gweithredol ar
adegau mewn rhai gwasanaethau, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dal i ddarparu
gwasanaeth o safon a gaiff ei gydnabod gan reoleiddwyr allanol. Mae Archwilio
Cymru yn asesu bod y Cyngor yn parhau yn sefydlog yn ariannol, er yn cydnabod
bod heriau ariannol yn ei wynebu gan greu risg ariannol parhaus nad yw’n
unigryw i Geredigion.
·
Mae lefel bresennol Band D y Dreth
Gyngor ar gyfer 2022/2023 yng Ngheredigion (o ran pob cydran) yn £1,777.27 sy’n
cyd-fynd â chyfartaledd Band D y Dreth Gyngor yng Nghymru ar £1,777.18. Mae
lefelau cyfartalog y Dreth Gyngor yng Nghymru hefyd dipyn yn is na’r
cyfartaledd cyfwerth o £2,034 ar gyfer 2022/2023 yn Awdurdodau Unedol Lloegr.
Mae elfen y Cyngor Sir o Fand D y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/2023 yn £1,447.90
ar hyn o bryd.
·
Dywedodd yr Arweinydd ei fod ef
a’r Cabinet, fel y mae pob Cynghorydd, yn ymwybodol iawn o effaith Costau Byw
ar gyllid personol teuluoedd. Cynigir bod cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer
2023/2024 yn cael ei gadw islaw’r gyfradd chwyddiant bresennol a’i gyfyngu i
ddim mwy na £10.02 ychwanegol y mis ar gyfer elfen y Cyngor Sir.
·
Yr opsiwn a ffefrir gan yr
Arweinydd a’r Cabinet o ran codi’r Dreth Gyngor yw cynnydd arfaethedig o 7.3%
yn y Dreth Gyngor, sy’n cynnwys elfen o 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd
arfaethedig yn ardoll yr Awdurdod Tân ac sydd gyfwerth ag £8.81 y mis
ychwanegol ar gyfer elfen y Cyngor Sir.
Pwysleisiodd yr Arweinydd bod
amserau anodd a heriol i ddod - gyda chynnydd cyfartalog dangosol o ddim ond
+3.1% yn Setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025. Rhoddir sylw i faint yr
her maes o law wrth gyflwyno Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig wedi’i
diweddaru. Un o egwyddorion arweiniol
cychwynnol y weinyddiaeth wleidyddol newydd oedd (cyn belled ag yr oedd yn
bosibl) osgoi toriadau yn narpariaeth Gwasanaethau, lleihau Dileu Swyddi a
pheidio â mynd ar drywydd cwtogi fesul tipyn a pharhau i arfer dull
corfforaethol a thrawsnewidiol o fynd i’r afael ag arbedion yn y tymor
canolig.
O ystyried maint yr her ariannol, mae
terfyn ar yr hyn y gellir ei gyflawni’n llawn yng nghyswllt yr holl elfennau
drwy’r dull hwn ac, yn achos Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion, bydd gofyn i
Ysgolion unigol wneud penderfyniadau rhagweithiol wrth i lefel eu Mantolen
Ysgol a’r arian grant sydd ar gael leihau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd
Gareth Davies, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael, at y
canlyniadau allweddol ar gyfer Ceredigion o Setliad Dros Dro 23/24 a nodir ar
dudalen 3 o 42 o’r adroddiad gan nodi bod Cyllid Allanol Cyfun Llywodraeth
Cymru a ddyrannwyd i Geredigion yn £129.050m ar gyfer 2023/24 o gymharu â
£119.419m ar gyfer 2022/23. Mae hwn yn godiad ariannol o £9.6m (8.1%) ac mae
Ceredigion yn y 9fed safle.
Cyfeiriodd hefyd at Ardoll yr Awdurdod Tân a nododd, yn dilyn deialog gydag Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, y byddai’r swm perthnasol ar gyfer Ceredigion yn godiad o £519k dan ei Opsiwn Cyllideb o 13% sydd gyfwerth â chynnydd o 1.3% yn y Dreth Gyngor ar eiddo Band D. Yn ogystal, mae grant sy’n gysylltiedig â Thân o £143k i’w drosglwyddo i Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru ac ymgorfforir y swm hwn, felly, i’r gwaith cyfrifo ar gyfer y Gyllideb, a bydd gofyn ei drosglwyddo i bennawd cyllideb yr Ardoll Tân er mwyn sicrhau bod yr elfen hon yn parhau i fod yn niwtral o ran cost. Mae’n siomedig bod y newid hwn yn cael ei wneud yn hwyr yn ystod proses y Gyllideb, heb unrhyw ymgynghori ymlaen llaw.
Mae canlyniad Setliad Ceredigion yn adlewyrchu ystod
o ffactorau, ond y prif sbardun yw’r lefel gyffredinol o gyllid ychwanegol a
roddwyd gan Lywodraeth Cymru i’r Setliad. Mae ffactorau perthnasol eraill i’w
nodi yn ymwneud â newidiadau yn y data ar Boblogaeth sy’n cyfrif am gynnydd o
£54k a newidiadau yn y data ar Nifer Disgyblion sy’n cyfrif am ostyngiad o
£70k.
Dywedodd y Cynghorydd Davies y gallai’r enillion o
ran Poblogaeth fod wedi bod yn uwch (tua £350k) gan fod Cyfrifiad 2021 wedi
cofnodi poblogaeth Ceredigion yn 71,468, tra bo’r set ddata ar boblogaeth a
ddefnyddiwyd ar gyfer Setliad 2023/2024 yn gyfartaledd cyfun o ddata ar
boblogaeth Cyfrifiad 2021 a’r amcanestyniadau poblogaeth ar sail 2018 ar gyfer
2023, sydd yn 71,188. Yn ychwanegol at hyn, mae o leiaf 2 o’r Setliadau
blaenorol (2021/2022 a 2022/2023) wedi defnyddio data ar boblogaeth wedi’i
dan-ddatgan.
O ran nifer disgyblion, mae’r nifer yn y Meithrin a
Chynradd wedi gostwng 2.7% i 4,951, tra bo’r nifer yn yr Uwchradd (blynyddoedd
7-11) wedi cynyddu 2.5% i 3,599. Mae hyn yn adlewyrchu tuedd genedlaethol o ran
nifer y disgyblion Uwchradd yn cynyddu a nifer y disgyblion Meithrin a Chynradd
yn gostwng, wrth gymharu data a ddefnyddiwyd ar gyfer Setliadau 2022/2023 a
2023/2024.
Cafodd £70m ledled Cymru ei gynnwys yn y Setliad er
mwyn cael parhad yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru er sicrhau bod Gweithwyr Gofal
Cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn cael eu talu ar lefel Costau Byw Real,
o leiaf, sydd yn awr yn codi i £10.90 yr awr.
Darparodd Duncan Hall,
Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael, ddiweddariad byr ar y
sefyllfa bresennol ac yn arbennig ar bwysau costau yr Awdurdod. Gwnaed gwaith iteru manwl i nodi ac asesu’r
pwysau costau anochel a wynebir gan bob Gwasanaeth, yn ogystal â’r agweddau y’u
hystyrir yn eitemau corfforaethol. Mae’r gwaith hwn wedi nodi tua £22m o bwysau
costau sydd gyfwerth â 13.4% o Gyllideb 2022/2023. Mae’r lefel hon o bwysau o
ran costau yn eithriadol a thu hwnt i’r £13m a welwyd yng nghyllideb 2022/2023.
Cyn COVID a’r lefelau chwyddiant uchel presennol yn economi’r DU, roedd pwysau
costau yn nodweddiadol tua £8m a thua 6% o’r gyllideb net. Aeth yn ei flaen i roi trosolwg o’r Pwysau o
ran Costau sy’n effeithio ar bob gwasanaeth yn ogystal â’r eitemau a gaiff eu
trin yn rhai Corfforaethol eu natur a’r arbedion yng nghyfradd Cyfraniadau
Cronfa Bensiwn Gweithwyr sy’n fanteisiol i bob Gwasanaeth.
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet
priodol y wybodaeth a oedd yn berthnasol i’w Faes Gwasanaeth.
Ystyriodd
Aelodau’r Pwyllgor y Pwysau o ran y Costau ar y meysydd gwasanaeth hynny o dan
gylch gwaith y Pwyllgor, sef:
·
Porth Cynnal;
·
Porth Gofal;
·
Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd (elfen Ddiogelu’r Cyhoedd yn unig);
a
·
Porth Cymorth Cynnar.
ac;
Ystyriodd
Aelodau’r Pwyllgor y Taliadau a’r Ffioedd arfaethedig o dan
gylch
gwaith y Pwyllgor yn Atodiad C, Atodiad 1, tudalennau 1 i 15 o 57 ym mhapurau’r
Agenda.
Yna, rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau ac
fe’u hatebwyd yn eu tro gan yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet neu’r Swyddog
perthnasol. Mae’r prif bwyntiau a gododd
fel a ganlyn:
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch faint o arian hyd yma (gan gynnwys yr hyn a
gynigir yn y gyllideb) a ddyrannwyd i roi hwb i’r Gwasanaethau Porth. Cadarnhawyd bod y wybodaeth ar gael ar
dudalen 2, Atodiad 3, Atodiad A.
·
Cadarnhawyd, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch nifer a chost cysylltiedig
staff asiantaeth sy’n gweithio yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion, bod y
wybodaeth hon yn fasnachol sensitif a gellid ei hychwanegu at Flaenraglen Waith
y Pwyllgor i’w hystyried ymhellach, gan gynnwys y camau sy’n cael eu cymryd i
recriwtio staff.
·
Cadarnhawyd, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd digon o gyllid yn cael
ei ddyrannu i’r gwasanaethau Porth, bod perfformiad presennol y gwasanaethau yn
awgrymu bod hynny’n wir. Cydnabyddwyd,
fodd bynnag, y bydd cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau, cynnydd yn y
boblogaeth sy’n heneiddio a mwy o dlodi yn y Sir yn rhoi pwysau cynyddol ar y
gwasanaethau hyn er y rhoddwyd sicrwydd bod cyllidebau gwasanaethau Porth yn
cael eu monitro’n agos drwy gydol y flwyddyn.
·
Codwyd cwestiwn ynghylch lleoliadau y tu allan i'r sir a’r cynlluniau sydd
ar waith i sicrhau bod lleoliadau ar gael i blant o fewn y sir. Amlinellodd y Cynghorydd Alun Williams y
manteision o sicrhau, lle’n bosibl, y gall plant aros yn eu cymunedau gyda’u
ffrindiau ac ati. Nodwyd hefyd yr arbedion ariannol ar gyfer y model hwn.
·
Roedd yr Aelodau’n bryderus o wybod y bydd dau gynllun cyllid grant yn dod
i ben a fydd yn cael effaith ar y Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd. Yn ogystal, codwyd pryder ynghylch colli
cyllid ar gyfer Cydlynydd Llesiant ac Adnoddau Naturiol rhan-amser am fod y
cynllun wedi’i gynllunio i ddod i ben cyn bo hir.
·
Cytunwyd y rhoddir ystyriaeth i’r adnoddau a ddyrennir i arolygiadau
safonau bwyd ac arolygiadau ar ffermydd mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn
gwneud yn siwr bod y gofynion statudol perthnasol yn cael eu diwallu.
·
Cyfeiriwyd at y taliadau a’r ffioedd sy’n gysylltiedig â’r Canolfannau
Lles. Nodwyd mai’r nod oedd cadw prisiau’n isel er mwyn denu defnyddwyr
gwasanaethau ond bod gofyn adlewyrchu’r cynnydd mewn costau. Trafododd y
Pwyllgor y ddirprwyaeth sydd yn ei lle ar hyn o bryd sy’n galluogi’r gwasanaeth
i gynnal cynigion hyrwyddo tymor byr/cyfnod penodedig a phleidleisiodd i
argymell i’r Cabinet bod hwn yn cael ei ymestyn i 2023/24.
·
Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor, hefyd, ar i weithdy gael ei gynnal i’r holl
Aelodau yn y dyfodol i roi diweddariad ar y cynnydd a’r cynlluniau diweddaraf
sy’n rhan o’r Strategaeth Gydol Oed a Lles.
Argymhellion:
Cytunodd y Pwyllgor:
1.
Ei fod wedi ystyried sefyllfa’r Gyllideb yn gyffredinol fel y’i nodir yn yr
adroddiad ar y Gyllideb yn Atodiad A.
2.
Ei fod wedi ystyried elfennau perthnasol y pwysau o ran costau ar y
Gyllideb a oedd yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn.
3.
Ei fod wedi ystyried elfennau perthnasol y cynigion o ran arbedion i’r
Gyllideb a oedd yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn.
4.
Ei fod wedi ystyried elfennau perthnasol y cynigion o ran Taliadau a
Ffioedd a oedd yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn, heblaw bod y
Pwyllgor Craffu yn argymell bod y Cabinet yn cytuno i ymestyn penderfyniad
blaenorol y Cabinet ar 22 Chwefror 2022, am flwyddyn arall ar gyfer y cyfnod
2023/2024 fel a ganlyn:
·
Rhoi awdurdod dirprwyedig i Swyddog
Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar, mewn ymgynghoriad â’r Aelod
Cabinet â chyfrifoldeb dros y Canolfannau Hamdden a Lles, i amrywio Taliadau a
Ffioedd y Canolfannau Lles ar gyfer 2023/2024, i gynnal cynigion hyrwyddo tymor
byr/cyfnod penodedig.
5. Pleidleisiodd mwyafrif Aelodau’r Pwyllgor o blaid cynnydd
o 7.3% yn lefelau’r Dreth Gyngor. Felly,
mae’r Pwyllgor yn argymell cynnydd o 7.3% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/2024,
sef opsiwn 3b) o’r argymhellion, fel a ganlyn:
3b) Cynnydd o 7.3% i’r
Dreth Gyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll
yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb o £180.101m ar gyfer 23/24.
Dogfennau ategol: