Eitem Agenda

Adroddiad ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24

Cofnodion:

Gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus gyfarfod i ystyried Cyllideb y Gwasanaeth ar gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor ac i ystyried yr argymhellion canlynol:

 

  1. Ystyried sefyllfa gyffredinol y Gyllideb fel y’i dangosir yn yr adroddiad ar y Gyllideb ym Mhapur A.
  2. Ystyried elfennau perthnasol pwysau Costau’r Gyllideb, sef cyfanswm o £22.2m ar draws yr holl Wasanaethau.
  3. Ystyried elfennau perthnasol y cynigion ar gyfer Arbedion yn y Gyllideb, sef cyfanswm o £8.9m ar draws yr holl Wasanaethau.
  4. Ystyried elfennau perthnasol cynigion y Ffioedd a chostau.
  5. Ystyried y 4 opsiwn a amlinellwyd yn Argymhelliad 3a) i d) adroddiad Cabinet 24/01/23, sef:

3a)   Cynnydd o 6.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb o £179.627m ar gyfer 23/24, a fyddai'n darparu cyfraniad is tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig.

3b)   Cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb 23/24 o £180.101m.

3c)   Cynnydd o 8.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb 23/24 o £180.576m, i roi cyfraniad uwch tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig.

3d)   Cynnig opsiwn arall yn ychwanegol at Argymhellion 3a) i 3c) i roi cynnydd penodol at ddiben penodol, ar yr amod bod unrhyw opsiwn yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfodydd Craffu ar y Gyllideb a bod swyddog Adran 151 yn cael digon o amser ymlaen llaw i fodelu'r effaith yn llawn ac i roi barn ar ei gadernid.

  1. Rhoi unrhyw adborth priodol arall ar Gyllideb Ddrafft 23/24 i'r Cabinet.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan Arweinydd y Cyngor (y Cynghorydd Bryan Davies), Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael (y Cynghorydd Gareth Davies) a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael (Duncan Hall).  Yna cyflwynodd Aelod perthnasol y Cabinet eitemau’r Gyllideb sy'n berthnasol i'w Faes Gwasanaeth.  Yna rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb yn eu tro gan Aelodau’r Cabinet a/neu Uwch Swyddogion.

 

Argymhellion:

 

Cytunodd y Pwyllgor:

 

  1. Ei fod wedi ystyried sefyllfa gyffredinol y Gyllideb fel y’i dangosir yn yr adroddiad ar y Gyllideb ym Mhapur A.
  2. Ei fod wedi ystyried elfennau perthnasol pwysau Costau’r Gyllideb sy'n dod o dan y Pwyllgor Craffu hwn.
  3. Ei fod wedi ystyried elfennau perthnasol y cynigion ar gyfer Arbedion yn y Gyllideb sy'n dod o dan y Pwyllgor Craffu hwn.
  4. Ei fod wedi ystyried elfennau perthnasol cynigion y Ffioedd a Chostau sy'n dod o dan y Pwyllgor Craffu hwn, ac eithrio bod y Pwyllgor Craffu yn argymell i'r Cabinet bod Ffioedd a Chostau arfaethedig y Meysydd Parcio yn Nhregaron a Llandysul yn cael eu dileu, fel na fyddai dim costau am Barcio Ceir yn parhau yn y trefi hynny o 01/04/23 ac y dylai'r gost bosibl o £40,000 sy'n gysylltiedig â hyn gael ei hariannu o'r Ddarpariaeth o £400k a neilltuwyd ar gyfer risgiau o ran Chwyddiant Cyflogau ac Ynni.
  5. Pleidleisiodd y mwyafrif o Aelodau’r Pwyllgor o blaid cynnydd o 7.3% yn lefelau Treth y Cyngor.  Mae’r Pwyllgor felly yn argymell cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/2024, sef opsiwn 3b) yr argymhellion, fel a ganlyn:

3b)   Cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb 23/24 o £180.101m).

6. Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn rhoi’r eitem ganlynol ar flaenraglen waith y Pwyllgor: Ystyried yr opsiwn o ganiatáu 2 awr o barcio am ddim cyn 11am.

 

Dogfennau ategol: