Eitem Agenda

Adroddiad ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24

Cofnodion:

Amlinellodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor, weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd, y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor;  y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael; Aelodau’r Pwyllgor; gweddill Aelodau’r Cabinet; y Cynghorwyr nad oeddent yn Aelodau o’r Pwyllgor hwn a’r Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad am gyllideb ddrafft 2023/2024 gan gynnwys y rhaglen gyfalaf aml-flwyddyn ac esboniodd fod y gyllideb yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru a bod disgwyl setliad terfynol Llywodraeth Cymru ar 28 Chwefror 2023. 

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau’r Pwyllgor fod yna groeso i’r cynnydd uwch na’r disgwyl yn setliad dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer 23/24, sef 8.1% (ar sail ariannol). Ar gyfer blwyddyn ariannol 23/24, dylai hyn sicrhau bod modd diogelu’r gwasanaethau i breswylwyr Ceredigion gymaint ag y bo modd ond cydnabuwyd bod hon yn Gyllideb hynod o heriol o hyd. Roedd y prif bwyntiau a godwyd yn yr adroddiad hwn fel a ganlyn:

 

·       Roedd cyfanswm y pwysau yr oedd y Cyngor yn ei wynebu o ran costau yn £22m, swm nas gwelwyd ei debyg o’r blaen, ac roedd hyn yn cyfateb i ffactor chwyddiant penodol yng Ngheredigion o dros 13%. Yn gyffredinol, roedd y lefel chwyddiant ar draws y Deyrnas Unedig yn 10.5% (ffigwr CPI ar gyfer Rhagfyr 2022). Felly roedd angen gwneud yn iawn am y diffyg o £12m yn y gyllideb drwy gyfuniad o ystyriaethau gan gynnwys gwneud Arbedion yn y Gyllideb a chodi Treth y Cyngor.

 

·       Dywedodd yr Arweinydd nad oedd y meysydd lle’r oedd yna bwysau cyffredinol o ran costau yn unigryw i Geredigion. Roedd themâu’n dod i’r amlwg yn gyson a oedd yn debyg i’r rhai y cyfeirir atynt yn y wasg yn genedlaethol. Roedd y rhain yn effeithio ar ystod o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn ogystal ag ar sefyllfa ariannol teuluoedd unigol. Roedd hyn yn cynnwys costau ynni a thanwydd, dyfarniadau cyflog i staff a oedd yn uwch na’r disgwyl a chontractau gyda chymalau a oedd yn gysylltiedig â chwyddiant.

 

·       Hefyd, roedd cynnydd arfaethedig yn ardoll Awdurdod Tân

Canolbarth a Gorllewin Cymru a oedd ar lefel na welwyd ei

thebyg o’r blaen. Roedd y cynnydd arfaethedig o 13% yn ei

Gyllideb yn arwain yn ei dro at bwysau mawr o ran costau,

mewn termau cymharol, ar gyllideb y Cyngor ei hun.

 

·       Roedd y gofynion ar y cyllidebau a oedd yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn dal i gynyddu, ac roedd hefyd angen cyfeirio mwy nag £1.7m o arian yn y Setliad Dros Dro (1.5% o’r cynnydd o 8.1%) i wasanaethau a gomisiynir yn allanol yng Ngheredigion er mwyn sicrhau bod gweithwyr Gofal Cymdeithasol cofrestredig yn dal i dderbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol (a oedd wedi codi o £9.90 i £10.90 yr awr - cynnydd o 10.1%).

 

·       Er gwaethaf yr heriau gweithredol a oedd yn codi ar adegau mewn rhai gwasanaethau, roedd Cyngor Sir Ceredigion yn dal i ddarparu gwasanaeth o safon uchel a oedd yn cael ei gydnabod gan reoleiddwyr allanol. Roedd asesiadau Archwilio Cymru yn nodi bod y Cyngor yn parhau yn sefydlog yn ariannol. Er hynny, roedd yn cydnabod bod y Cyngor yn wynebu heriau a bod hyn yn peri risg ariannol parhaus nad oedd yn unigryw i Geredigion.

 

·       Roedd lefel bresennol Band D Treth y Cyngor ar gyfer 2022/2023 yng Ngheredigion (o ran pob elfen) yn £1,777.27 ac roedd hyn yn cyd-fynd â chyfartaledd Band D Treth y Cyngor yng Nghymru sef £1,777.18. Roedd lefelau cyfartalog  Treth y Cyngor yng Nghymru hefyd dipyn yn is na’r cyfartaledd cyfatebol ar gyfer Awdurdodau Unedol yn Lloegr, sef £2,034 ar gyfer 22/23. Yn 2022/2023, roedd elfen y Cyngor Sir ar gyfer eiddo Band D yn £1,447.90.

 

·       Dywedodd yr Arweinydd ei fod ef a’r Cabinet, fel yr oedd pob Cynghorydd, yn ymwybodol iawn o effaith Costau Byw ar gyllid personol teuluoedd. Cynigiwyd bod y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/2024 yn cael ei gadw islaw’r gyfradd chwyddiant bresennol a bod elfen y Cyngor Sir o Dreth y Cyngor yn cael ei gyfyngu i ddim mwy na £10.02 ychwanegol y mis.

 

·       Cynnydd arfaethedig o 7.3% yn Nhreth y Cyngor oedd yr opsiwn a ffefrid gan yr Arweinydd a'r Cabinet. Roedd hyn yn cynnwys elfen o 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn ardoll yr Awdurdod Tân ac roedd yn cyfateb i £8.81 y mis yn ychwanegol o ran elfen y Cyngor Sir.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd fod cyfnod heriol ac anodd o’n blaenau o hyd - gyda chynnydd cyfartalog dangosol o ddim ond 3.1% yn Setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025. Byddai sylw yn cael ei roi i hyd a lled yr her fel rhan o’r gwaith o gyflwyno fersiwn ddiweddaraf y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig maes o law. Un o egwyddorion arweiniol cychwynnol y weinyddiaeth wleidyddol newydd oedd (cyn belled ag yr oedd yn bosibl) osgoi toriadau yn y gwasanaethau a ddarperir, lleihau diswyddiadau, peidio â dilyn llwybr o wneud toriadau tameidiog a pharhau i fabwysiadu dull gweithredu corfforaethol a thrawsnewidiol tuag at arbedion yn y tymor canolig.

 

O ystyried maint yr her ariannol, roedd terfyn ar yr hyn y gellid ei gyflawni’n llawn yng nghyswllt holl elfennau’r dull hwn o weithredu ac yn achos y Cyllidebau a Ddirprwyir i’r Ysgolion, byddai gofyn i ysgolion unigol wneud penderfyniadau rhagweithiol wrth i lefel eu Mantolen Ysgol a’r arian grant leihau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael, at y canlyniadau allweddol i Geredigion yn sgil Setliad Dros Dro 23/24. Roedd hyn i’w weld ar dudalen 3 o 42 yn yr adroddiad. Dywedodd mai  £129.050m oedd y Cyllid Allanol Cyfun a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru i Geredigion ar gyfer 2023/24 o gymharu â £119.419m ar gyfer 2022/23. Roedd hyn yn gynnydd o £9.6m (8.1%) a’r cynnydd hwn oedd y 9fed uchaf yng Nghymru.

 

Cyfeiriodd hefyd at Ardoll yr Awdurdod Tân a nododd, yn dilyn trafodaethau gydag Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, y byddai cynnydd o £519,000 yn y swm perthnasol ar gyfer Ceredigion o dan yr opsiwn o 13%. Roedd hyn yn cyfateb i gynnydd o 1.3% yn Nhreth y Cyngor ar eiddo Band D. Yn ogystal, roedd yna grant o £143,000 a oedd yn gysylltiedig â’r Awdurdod Tân a fyddai angen ei drosglwyddo i Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru. Felly, byddai’r swm hwn yn cael ei gynnwys yn y gwaith cyfrifo ar gyfer y Gyllideb, a byddai angen ei drosglwyddo i bennawd cyllideb yr Ardoll Tân er mwyn sicrhau bod yr elfen hon yn parhau i fod yn niwtral o ran cost. Roedd yn siomedig bod y newid hwn wedi cael ei wneud mor hwyr yn ystod proses y Gyllideb, heb unrhyw ymgynghori ymlaen llaw.

 

Roedd canlyniad Setliad Ceredigion yn adlewyrchu amrediad o ffactorau, ond y prif sbardun oedd lefel gyffredinol y cyllid ychwanegol yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei chynnwys yn y Setliad. Roedd y ffactorau perthnasol eraill a oedd angen eu nodi yn ymwneud â newidiadau yn y data ynghylch poblogaeth, a oedd yn gyfrifol am gynnydd o £54,000, a’r newidiadau yn y data ynghylch niferoedd disgyblion, a oedd yn gyfrifol am ostyngiad o £70,000.

 

Dywedodd y Cynghorydd Davies y gallai’r cynnydd mewn perthynas â’r boblogaeth fod wedi bod yn uwch (tua £350,000) gan fod Cyfrifiad 2021 wedi nodi mai 71,468 oedd poblogaeth Ceredigion, ond roedd y set ddata o ran poblogaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer Setliad 23/24 yn gyfartaledd cyfunol o ddata poblogaeth Cyfrifiad 2021 ac amcanestyniadau poblogaeth 2018 ar gyfer 2023, sef 71,188. Yn ychwanegol at hyn, roedd o leiaf 2 o’r Setliadau blaenorol (2021/2022 a 2022/2023) wedi defnyddio data a oedd wedi tanddatgan y boblogaeth.

 

O ran niferoedd disgyblion, roedd niferoedd y disgyblion Meithrin a Chynradd wedi gostwng 2.7% i 4,951, ac roedd niferoedd y disgyblion Uwchradd (Blynyddoedd 7-11) wedi codi 2.5% i 3,599. Roedd hyn yn adlewyrchu’r duedd genedlaethol lle y gwelwyd cynnydd yn niferoedd y disgyblion Uwchradd a gostyngiad yn niferoedd y disgyblion Meithrin a Chynradd wrth gymharu’r data a ddefnyddiwyd ar gyfer Setliadau 22/23 a 23/24.

 

Roedd £70m ar draws Cymru wedi cael ei gynnwys yn y Setliad er mwyn parhau ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Gweithwyr Gofal Cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol, a fyddai bellach yn codi i £10.90 yr awr.

 

Rhoddodd Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael, ddiweddariad byr am y sefyllfa bresennol ac yn benodol gwybodaeth am y pwysau yr oedd yr Awdurdod yn ei wynebu o ran costau. Gwnaethpwyd gwaith iteraidd manwl i nodi ac asesu’r pwysau na ellid ei osgoi yr oedd pob Gwasanaeth yn ei wynebu o ran y costau, ynghyd â’r agweddau a ystyriwyd yn eitemau Corfforaethol. Roedd y gwaith hwn wedi nodi bod y pwysau o ran costau oddeutu £22m ac roedd hyn yn cyfateb i 13.4% o Gyllideb 2022/2023. Roedd lefel y Pwysau o ran y Costau yn eithriadol ac roedd yn uwch na’r swm o £13m a welwyd yng nghyllideb 22/23. Cyn COVID a’r lefelau chwyddiant uchel presennol yn economi’r Deyrnas Unedig, roedd y pwysau o ran costau ar y cyfan tua £8m a thua 6% o’r gyllideb net.  Aeth y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael, yn ei flaen i roi trosolwg o’r Pwysau o ran Costau a oedd yn effeithio ar bob gwasanaeth yn ogystal â’r eitemau a fyddai’n cael eu trin yn rhai Corfforaethol a’r gostyngiad yng nghyfradd cyflogwyr Cronfa Bensiwn Dyfed a fyddai’n fanteisiol i bob Gwasanaeth.

 

Cyflwynodd yr Aelodau Cabinet perthnasol y wybodaeth a oedd yn berthnasol i’w maes gwasanaeth.

 

Ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor y pwysau o ran costau o fewn y meysydd gwasanaeth a oedd yn dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor; sef:

 

·       Gwasanaethau Democrataidd

·       Pobl a Threfniadaeth

·       Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd (yr elfennau Polisi a Pherfformiad yn unig )

·       Y Grŵp Arweiniol

·       Cyllid a Chaffael

·       Yr Economi ac Adfywio 

·       Cyswllt Cwsmeriaid

·       Cyfreithiol a Llywodraethu        

 

Hefyd, ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor y Ffioedd a’r Costau arfaethedig a oedd yn dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor sef yr hyn a oedd wedi’i gynnwys yn Atodiad C, tudalennau 51 i 57 ym mhapurau’r Agenda.

 

Yna, rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau ac fe’u hatebwyd yn eu tro gan yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet neu’r Swyddog perthnasol. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r premiwm ar ail gartrefi, rhoddwyd esboniad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael.
  • Rhoddwyd dadansoddiad o’r gyllideb a oedd yn ymwneud â Lwfansau’r Aelodau.
  • Gofynnwyd cwestiwn am y cynnig i arbed £400,000 o dan yr Adolygiad o Gludiant i Ddysgwyr a chadarnhawyd mai cyllideb weithredol oedd hon. Ychwanegwyd bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd o ran manylion y cynnig hwn.
  • Cyfeiriwyd at adroddiad a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 14 Chwefror 2023; sef; Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys, Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023/24 a Pholisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) 2023/24 a allai fod o ddiddordeb i’r Aelodau.
  • Cyfeiriwyd at yr Adolygiad o Asedau Corfforaetholarbedion effeithiolrwydd  o £250k. Byddai’r ffrwd waith hon yn edrych ar ystod o gyfleoedd yn ymwneud â’r Ystâd Gorfforaethol, Adeiladau Gweithredol a chyfleoedd Masnachol, gan gynnwys adolygu’r defnydd a wneir o adeiladau’r Cyngor yn y dyfodol a chynnal adolygiad o sylfaen Asedau Adeiladau’r Cyngor. Byddai’r adolygiad yn canolbwyntio ar gyfleoedd i resymoli’r ystâd, yn nodi cyfleoedd ar gyfer creu incwm ac yn ystyried opsiynau ar gyfer rhannu adeiladau gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Disgwylir y bydd hyn yn sicrhau arbedion pellach yn y tymor canolig wrth i'r gwaith ddatblygu.
  • Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r costau o sicrhau bod pyllau slyri ffermydd y Cyngor yn cydymffurfio â’r rheoliadau o ran y Parthau Perygl Nitradau (NVZ), cadarnhawyd bod hyn wedi’i ystyried wrth bennu’r gyllideb a oedd wedi’i neilltuo.
  • Gofynnwyd cwestiynau am y capasiti staffio o fewn yr Adran Ystadau a chafwyd sicrwydd bod gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau yn cael eu dyrannu i’r ffrydiau ariannu mawr a’r gweithgareddau lleol o ran datblygu’r economi.
  • Cododd yr Aelodau bryderon am adeiladau penodol yn eu wardiau yr oedd yr Awdurdod wedi’u prynu ond a oedd yn dal yn wag. Cafwyd sicrwydd y byddai sylw yn cael ei roi i’r rhain yn y dyfodol agos.
  • Cododd yr Aelodau bryderon am yr hen safle Arriva yn Aberystwyth, o ystyried bod y safle yn parhau’n wag er iddo gael ei brynu nifer o flynyddoedd yn ôl. Er hynny, roedd marchnad y ffermwyr yn cael ei gynnal yno bob pythefnos. Cyfeiriodd yr Aelodau at y ddeddfwriaeth TAN15 newydd a allai effeithio ar ailddatblygiad y safle a chyfyngu ar hynny. Cadarnhawyd y byddai’r ddeddfwriaeth hon yn cael ei hystyried ac y byddai hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr opsiynau a oedd yn cael eu paratoi ar hyn o bryd.
  • Tynnwyd sylw at bwysigrwydd gwneud y mwyaf o asedau’r Cyngor, gan gynnwys cynyddu incwm / derbyniadau cyfalaf a sicrhau bod yna gyn lleied o adeiladau gwag ag y bo modd
  • Rhoddwyd sicrwydd bod gwaith yn cael ei wneud i unioni’r ôl-groniad o geisiadau cynlluniau ond byddai hyn yn cymryd amser.
  • Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ystyried adroddiad am yr Ystâd Gorfforaethol yn un o gyfarfodydd y dyfodol,
  • Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â staff y Cyngor yn gweithio’n hybrid, cadarnhawyd bod hyn yn cael ei dreialu ar hyn o bryd a bod y defnydd gorau y gellid ei wneud o swyddfeydd Penmorfa a Chanolfan Rheidol yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

Argymhellion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:

 

1.    Roedd wedi ystyried sefyllfa gyffredinol y gyllideb fel y dangosir yn yr adroddiad ar y gyllideb yn Atodiad A.

2.    Roedd wedi ystyried elfennau perthnasol y pwysau o ran costau ar y gyllideb sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn.

3.    Roedd wedi ystyried elfennau perthnasol y cynigion ar gyfer gwneud arbedion yn y gyllideb sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn.

4.       Roedd wedi ystyried elfennau perthnasol y cynigion ynghylch ffioedd a chostau sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn.

5.    Pleidleisiodd rhan fwyaf o Aelodau’r Pwyllgor o blaid cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor. Felly mae’r Pwyllgor yn argymell cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/2024, sef opsiwn 3b) yn yr argymhellion:

3b)   Cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad cyllidebol o £180.101m ar gyfer 23/24.

  1. Ni ddarparwyd unrhyw adborth arall gan y Pwyllgor ynghylch y gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24.  

 

    

 

Dogfennau ategol: