Cofnodion:
Amlinellodd y Cynghorydd Wyn Evans, Cadeirydd y Pwyllgor,
weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet
dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael, Aelodau’r Pwyllgor, gweddill Aelodau’r
Cabinet, yr Aelodau nad ydynt yn perthyn i Bwyllgor a Swyddogion i’r
cyfarfod.
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan
Davies yr adroddiad ar gyllideb ddrafft 2023/2024 gan gynnwys rhaglen gyfalaf
aml-flwyddyn wedi’i diweddaru a noddodd ei bod yn seiliedig ar setliad dros dro
Llywodraeth Cymru a bod setliad terfynol Llywodraeth Cymru i ddod ar 28
Chwefror 2023.
Cynghorodd
yr Arweinydd Aelodau’r Pwyllgor y croesawir y cynnydd uwch na’r disgwyl o 8.1%
(ar sail ariannol) yn y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
2023/2024. Dylai hyn sicrhau y gellir
diogelu gwasanaethau i breswylwyr Ceredigion cymaint ag sy’n bosibl ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2023/2024 er y cydnabyddir bod hon yn Gyllideb eithriadol o
heriol o hyd. Mae’r pwyntiau allweddol
sy’n deillio o’r adroddiad fel a ganlyn:
·
Mae’r pwysau costau a wynebir gan
y Cyngor yn dod i gyfanswm na welwyd ei debyg o £22m, sydd gyfwerth â ffactor
chwyddiant penodol i Geredigion o fwy na 13%. Mae hyn yn cymharu â chwyddiant
cyffredinol o 10.5% (ffigwr CPI Rhagfyr 2022). Mae angen dod o hyd i ddiffyg o
£12m yn y gyllideb felly drwy gyfuniad o ystyriaethau o ran Arbedion Cyllidebol
a chynnydd yn Nhreth y Cyngor.
·
Dywedodd nad oedd y meysydd lle
gwelir pwysau costau yn gyffredinol yn unigryw i Geredigion. Mae themâu’n dod
i’r amlwg yn gyson sy’n debyg i’r rhai y cyfeirir atynt yn y wasg yn
genedlaethol sy’n effeithio ar ystod o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat
yn ogystal ag ar sefyllfa ariannol teuluoedd unigol. Maent yn amrywio o gostau ynni a thanwydd i
ddyfarniadau cyflog staff uwch na’r rhagamcanion, i gontractau â chymalau sy’n
gysylltiedig â chwyddiant.
·
Mae cynnydd arfaethedig ar ei
ardoll gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd sydd ar lefel na
welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae cynnydd arfaethedig o 13% yn ei Gyllideb yn
arwain yn ei dro at bwysau costau mawr, mewn termau cymharol, ar gyllideb y
Cyngor ei hun.
·
Mae’r gofynion ar gyllidebau sy’n
ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn dal i gynyddu, ac mae hefyd angen cyfeirio mwy
nag £1.7m o gyllid o fewn y Setliad Dros Dro (1.5% o’r cynnydd o 8.1%) i
wasanaethau a gomisiynir yn allanol yng Ngheredigion er sicrhau bod gweithwyr
Gofal Cymdeithasol cofrestredig yn dal i gael eu talu ar y Cyflog Byw Real, o
leiaf, (sydd wedi codi o £9.90 i £10.90 yr awr - cynnydd o 10.1%).
·
Ar waethaf heriau gweithredol ar
adegau mewn rhai gwasanaethau, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dal i ddarparu
gwasanaeth o safon a gaiff ei gydnabod gan reoleiddwyr
allanol. Mae Asesu Cymru yn asesu bod y Cyngor yn parhau yn sefydlog yn
ariannol, er yn cydnabod bod heriau ariannol yn ei wynebu gan greu risg
ariannol parhaus nad yw’n unigryw i Geredigion.
·
Mae lefel bresennol Band D Treth y
Cyngor ar gyfer 2022/2023 yng Ngheredigion (o ran pob cydran) yn £1,777.27 sy’n
cyd-fynd â chyfartaledd Band D Treth y Cyngor yng Nghymru ar £1,777.18. Mae
lefelau cyfartalog Treth y Cyngor yng Nghymru hefyd dipyn yn is na’r
cyfartaledd cyfwerth o £2,034 ar gyfer 2022/2023 yn Awdurdodau Unedol Lloegr.
Mae elfen y Cyngor Sir o Fand D Treth y Cyngor ar gyfer 2022/2023 yn £1,447.90
ar hyn o bryd.
·
Dywedodd yr Arweinydd ei fod ef
a’r Cabinet, fel y mae pob Cynghorydd, yn ymwybodol iawn o’r effaith y mae
Costau Byw yn ei gael ar gyllid personol teuluoedd. Cynigir bod y cynnydd yn
Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/2024 yn cael ei gadw islaw’r gyfradd chwyddiant
bresennol a’i gyfyngu i ddim mwy na £10.02 ychwanegol y mis ar gyfer elfen y
Cyngor Sir.
·
Yr opsiwn a ffefrir
gan yr Arweinydd a’r Cabinet o ran y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yw cynnydd
arfaethedig o 7.3% yn Nhreth y Cyngor, sy’n cynnwys elfen o 1.3% mewn perthynas
â’r cynnydd arfaethedig yn ardoll yr Awdurdod Tân ac sydd gyfwerth ag £8.81 y
mis ychwanegol ar gyfer elfen y Cyngor Sir.
Pwysleisiodd
yr Arweinydd bod amserau anodd a heriol i ddod - gyda chynnydd cyfartalog
dangosol o ddim ond +3.1% yn Setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025.
Rhoddir sylw i faint yr her maes o law wrth gyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor
Canol wedi’i diweddaru. Un o egwyddorion
arweiniol cychwynnol y weinyddiaeth wleidyddol newydd oedd (cyn belled ag yr
oedd yn bosibl) osgoi toriadau yn narpariaeth Gwasanaethau, lleihau Dileu
Swyddi, peidio â mynd ar drywydd cwtogi fesul tipyn a pharhau i arfer dull
corfforaethol a thrawsnewidiol o fynd i’r afael ag arbedion yn y tymor
canol.
O
ystyried maint yr her ariannol, mae terfyn ar yr hyn y gellir ei gyflawni’n
llawn yng nghyswllt yr holl elfennau drwy’r dull hwn ac yn achos Cyllidebau
Dirprwyedig Ysgolion bydd gofyn i Ysgolion unigol wneud penderfyniadau
rhagweithiol wrth i lefel eu Mantolen Ysgol a’r arian grant sydd ar gael
leihau.
Cynghorwyd yr Aelodau i godi
pryderon ynghylch meysydd gwasanaeth penodol yn y pwyllgorau Craffu perthnasol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd
Gareth Davies, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael at y
canlyniadau allweddol i Geredigion o Setliad Dros Dro 23/24 a nodir ar dudalen
3 o 42 o’r adroddiad. Nododd bod Cyllid
Allanol Cyfun Llywodraeth Cymru a ddyrennir i
Geredigion yn £129.050m ar gyfer 2023/24 o gymharu â £119.419m ar gyfer
2022/23. Mae hwn yn gynnydd mewn cyllid o £9.6m (8.1%) a Cheredigion wedi’i rancio’n 9fed.
Cyfeiriodd hefyd at Ardoll yr Awdurdod Tân gan
nodi, yn dilyn trafodaeth gydag Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, y
byddai’r swm perthnasol i Geredigion yn gynnydd o £519k o dan ei Opsiwn
Cyllideb o 13%, sydd gyfwerth â 1.3% o gynnydd yn Nhreth y Cyngor ar eiddo Band
D. Mae grant ychwanegol o £143k sy’n
ymwneud â Thân hefyd i’w drosglwyddo i Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru ac
felly ymgorfforir y swm hwn i’r Gyllideb a bydd gofyn ei gyfeirio drwy’r
pennawd cyllidebol Ardoll Tân er sicrhau bod yr elfen hon yn parhau’n niwtral o
ran cost. Mae’n siomedig bod y newid hwn yn cael ei wneud yn hwyr ym mhroses y
Gyllideb heb ymgynghori ymlaen llaw.
Mae canlyniad Setliad Ceredigion yn adlewyrchu
ystod o ffactorau, ond y prif sbardun yw’r lefel gyffredinol o gyllid
ychwanegol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i’r Setliad. Mae ffactorau perthnasol
eraill i’w nodi yn ymwneud â newidiadau yn y data ar Boblogaeth sy’n cyfrif am
gynnydd o £54k a newidiadau yn y data ar Nifer Disgyblion sy’n cyfrif am
ostyngiad o £70k.
Dywedodd y Cynghorydd Davies y gallai’r enillion o
ran Poblogaeth fod wedi bod yn uwch (tua £350k) gan fod Cyfrifiad 2021 wedi
cofnodi poblogaeth o 71,468 yng Ngheredigion, tra bo’r set ddata ar boblogaeth
a ddefnyddiwyd ar gyfer Setliad 2023/2024 yn gyfartaledd cyfun o ddata ar
boblogaeth Cyfrifiad 2021 a’r amcanestyniadau poblogaeth ar sail 2018 ar gyfer
2023, sydd yn 71,188. Yn ychwanegol at hyn, mae o leiaf 2 o’r Setliadau
blaenorol (2021/2022 a 2022/2023) wedi defnyddio data ar boblogaeth wedi’i
dan-ddatgan.
O ran nifer disgyblion, mae’r nifer yn y Meithrin a
Chynradd wedi gostwng 2.7% i 4,951, tra bo’r nifer yn yr Uwchradd (blynyddoedd 7-11)
wedi cynyddu 2.5% i 3,599. Mae hyn yn adlewyrchu tuedd genedlaethol o ran nifer
y disgyblion Uwchradd yn cynyddu a nifer y disgyblion Meithrin a Chynradd yn
gostwng, wrth gymharu data a ddefnyddiwyd ar gyfer Setliadau 2022/2023 a
2023/2024.
Cafodd £70m ledled Cymru ei gynnwys yn y Setliad er
mwyn cael parhad yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru er sicrhau bod Gweithwyr Gofal
Cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn cael eu talu ar lefel Costau Byw Real,
o leiaf, sydd yn awr yn codi i £10.90 yr awr.
Darparodd Duncan Hall,
Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael, ddiweddariad byr ar y
sefyllfa bresennol ac yn arbennig ar bwysau costau yr Awdurdod. Gwnaed gwaith iteru manwl i nodi ac asesu’r
pwysau costau anochel a wynebir gan bob Gwasanaeth, yn ogystal â’r agweddau y’u
hystyrir yn eitemau Corfforaethol. Mae’r gwaith hwn wedi nodi tua £22m o bwysau
costau sydd gyfwerth â 13.4% o Gyllideb 2022/2023. Mae’r lefel hon o bwysau
costau yn eithriadol a thu hwnt i’r £13m a welwyd yng nghyllideb 2022/2023. Cyn
COVID a’r lefelau chwyddiant uchel presennol yn economi’r DU, roedd pwysau
costau yn nodweddiadol tua £8m a thua 6% o’r gyllideb net. Aeth yn ei flaen i roi trosolwg o’r Pwysau
Costau sy’n effeithio ar bob gwasanaeth yn ogystal â’r eitemau a gaiff eu trin
yn rhai Corfforaethol eu natur a’r arbediad yng nghyfradd Cyfraniadau Cronfa
Bensiwn Gweithwyr sy’n fanteisiol i bob Gwasanaeth.
Bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol yn
ystyried ar effaith ar Wasanaethau o fewn ei gylch gwaith unigol ar 09/02/23 a
10/02/23.
Yna, rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau ac fe’u hatebwyd yn eu tro gan yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet
neu’r Swyddog perthnasol. Codwyd y prif
bwyntiau a ganlyn:
•
Gofynnodd y Cadeirydd ar i fwy o wybodaeth gael
ei rhoi ym mhob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, sef, dadansoddiad manwl o gyllideb
weithredol pob adran. Mewn ymateb i’r
cais hwn, cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd papurau’r agenda yn dilyn yr un
fformat â’r llynedd. Anogodd y Prif
Weithredwr, Eifion Evans, yr Aelodau i ailedrych ar adroddiadau blaenorol, sef
adroddiadau chwarterol alldro refeniw a gyflwynwyd i’r Cabinet ac adroddiadau
chwarterol y Bwrdd Perfformiad Corfforaethol a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn
ariannol ddiwethaf er mwyn cael gwybodaeth o’r fath. Roedd hawl gan Bwyllgorau Craffu hefyd
ystyried unrhyw faes Gwasanaeth yn eu Blaenraglenni
Gwaith.
•
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd Aelodau a oedd yn bresennol sy’n
cynrychioli’r Awdurdod ar yr Awdurdod Tân bod cryn dipyn o drafod wedi bod
gyda’r Prif Swyddog Tân eleni a’i fod wedi’i nodi mewn cyfarfodydd y bydd
Ceredigion yn derbyn ei chyfran o’r cyllid ychwanegol;
•
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad yw’n
anghyfreithlon defnyddio cronfeydd wrth gefn er y cydnabyddid ei fod yn arfer
gwael os na archwiliwyd i ffyrdd eraill ac y rhoddwyd ystyriaeth i’r rheiny yn
y lle cyntaf;
•
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Hybu'r Economi,
y’i ystyrir yn flaenoriaeth yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, cadarnhawyd
bod tua £7m eisoes mewn cronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a chynigir yn awr na fydd cyllid ychwanegol yn cael ei
neilltuo i’r diben hwn yn 2023/24;
•
Awgrymodd y Cadeirydd y byddai unrhyw sesiynau
briffio yn y dyfodol mewn perthynas â’r Gyllideb yn cynnwys gwahoddiad i’r
Is-gadeirydd fod yn bresennol.
Yn dilyn trafodaeth, CYTUNODD
yr Aelodau ar y canlynol:
1.
Nodi y bydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystyried yr effaith ar
Wasanaethau o fewn eu cylchoedd gwaith unigol ar 09/02/23 a 10/02/23.
2.
Nodi’r sefyllfa gyffredinol o ran y Gyllideb fel y’i nodir yn yr adroddiad
ar y Gyllideb yn Atodiad A.
3.
Nid oedd y Pwyllgor yn cynnig unrhyw opsiwn ychwanegol mewn perthynas â
lefel Treth y Cyngor ar wahân i’r rhai a nodir yn yr adroddiad, sef:
a) Cynnydd o 6.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn
perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad
cyllidebol 23/24 o £179.627m, a fyddai’n darparu llai o gyfraniad tuag at
Bwysau Costau Cyllideb Ddirprwyedig Ysgolion.
b) Cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn
perthynas a’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad
cyllidebol 23/24 o £180.101m.
c) Cynnydd o 8.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn
perthynas â chynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad
cyllidebol 23/24 o £180.576m, i ddarparu cyfraniad uwch tuag at Bwysau Costau
Cyllideb Ddirprwyedig Ysgolion.
4.
Y bydd yn ofynnol i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a gynhelir ar 09/02/23
a 10/02/23 ystyried yr opsiynau gwahanol sy’n gysylltiedig â Threth y Cyngor.
RHESWM DROS YR ARGYMHELLION:
Cynorthwyo wrth baratoi cyllideb wedi’i mantoli a
sicrhau bod craffu priodol ar y Gyllideb gyffredinol arfaethedig.
Dogfennau ategol: