Eitem Agenda

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw 2023/24 a’r rhaglen Gyfalaf Amlflwyddyn

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Nodi bod y codiad arfaethedig yn ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (eu hopsiwn o 13% i’r Gyllideb) yn golygu pwysau o £519,000 o ran y gost ar Gyllideb 23/24 y Cyngor, sy’n cyfateb â chynnydd o 1.3% yn Nhreth Gyngor preswylwyr Band D Ceredigion.

2.     Cymeradwyo opsiwn a ffefrir ar gyfer Gofyniad Cyllideb 23/24 drafft o £180.101m, a fyddai’n cynrychioli cynnydd arfaethedig o 7.3% i Dreth Gyngor Band D at ddibenion y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân).

3.     Argymell y dylai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ystyried yr opsiynau canlynol ar gyfer Gofyniad Cyllideb 23/24 a’r cynnydd canlyniadol i’r Dreth Gyngor at ddibenion y Cyngor Sir sef :

a)    Cynnydd o 6.3% i’r Dreth Gyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb o £179.627m ar gyfer 23/24, a fyddai'n darparu cyfraniad is tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig.

b)    Cynnydd o 7.3% i’r Dreth Gyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb o £180.101m ar gyfer 23/24.

c)     Cynnydd o 8.3% i’r Dreth Gyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb o £180.576m ar gyfer 23/24, a fyddai'n darparu cyfraniad uwch tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig.

d)    Cynnig opsiwn arall yn ychwanegol at Argymhellion 3a) i 3c) i ddarparu cynnydd penodol at ddiben penodol, ar yr amod bod unrhyw opsiwn yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfodydd Craffu'r Gyllideb a bod swyddog Adran 151 yn cael digon o amser ymlaen llaw i fodelu'r effaith yn llawn ac i roi barn ar ei gadernid.

4.     Pan gyhoeddir setliad Terfynol 23/24, bod:

a)    Gwerth unrhyw grantiau penodol pellach a drosglwyddir i RSG yn cael eu trosglwyddo i gyllideb y Gwasanaeth perthnasol, gan gynnwys Grant Pensiynau yr Awdurdod Tân o £143,000 i gyllideb yr Ardoll Tân.

b)    Dylai unrhyw newidiadau penodol eraill dargedu’r Gwasanaeth(au) sy’n cael eu heffeithio yn uniongyrchol, pan fo hynny’n briodol.

c)     Rhoddir sylw i unrhyw newid arall i’r AEF trwy wneud addasiad i gyllideb y Grŵp Arweiniol.

5.     Nodi yr ystyrir adroddiad am y Strategaeth Ariannol ar gyfer y Tymor Canolig wedi’i diweddaru fel eitem ar wahân yn y dyfodol ac y bydd yn adlewyrchu cynnydd dangosol yn Setliad 24/25 o 3.1% ar y mwyaf.

6.     Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Amlflwyddyn fel y nodir yn Atodiad 8 ac argymell hon i’r Cyngor Llawn i’w chymeradwyo.

7.     Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf fel y nodir yn Atodiad 9 ac argymell hon i’r Cyngor Llawn i’w chymeradwyo.

8.     Cyfeirio’r adroddiad Cabinet hwn er mwyn cael safbwyntiau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu y byddant yn cyfarfod ar 02/02/23, 09/02/23 a 10/02/23.   Bydd y pwyllgorau hyn yn cael gwybodaeth am y cynigion ynghylch Taliadau a Ffioedd hefyd.

9.     Nodi y caiff y penderfyniadau terfynol am Ofyniad Cyllideb 23/24 a lefel y cynnydd i’r Dreth Gyngor ar gyfer 23/24 eu gwneud gan y Cyngor Llawn ar 02/03/23.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn gallu paratoi Cyllideb 2023/24.

Dogfennau ategol: