Eitem Agenda

Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau bod y bwlch o ran bwlch o ran cyrhaeddiad a chyfleoedd wedi lledu rhwng dysgwyr difreintiedig a’r rhai mwy breintiedig yn dilyn Covid-19. Mae canlyniadau ar lefel TGAU yn awgrymu fod y bwlch amddifadedd a geir ym myd addysg yng Nghymru yn gyfystyr â thua 24 mis o gynnydd addysgol. Mae'r argyfwng costau byw ond yn ehangu’r bwlch o ran cyrhaeddiad a chyfleoedd addysgol a fodolai eisoes. Tynnwyd sylw at y ffaith fod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi siarad yn rheolaidd am ei ymrwymiad i gefnogi dysgwyr bregus a difreintiedig. Rhoddwyd trosolwg o’r sefyllfa bresennol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd Gareth Lewis, Cydlynydd Strategaeth Ddifreintedd a Thlodi Gwledig gyflwyniad i'r Pwyllgor, gan amlinellu'r canlynol:

1.    Cefndir

2.    Sylwadau gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

3.    Pwrpas y Strategaeth

4.    Cynnwys y Strategaeth

5.    Cyfleodd I fyfyrio

6.    Pa effaith rydyn ni’n gobeithio gweld

7.    Y camau nesaf

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch eu meysydd o ddiddordeb ac atebwyd y rhain yn eu tro gan y Swyddogion. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol:

·       Er bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn cefnogi ysgolion, codwyd pryderon fod y gyllideb yn cael ei thorri o hyd. Byddai’r £8 miliwn yng nghronfeydd wrth gefn yr ysgolion yn gostwng yn sylweddol wrth i gyflogau staff ysgolion a chostau ynni gynyddu. Roedd y Swyddogion eisoes wedi codi eu pryderon â Llywodraeth Cymru.

·       Dywedwyd y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle cyfartal i lwyddo yn yr ysgol. Roedd y strategaeth yn cynnwys nifer o bwyntiau ymarferol i gefnogi teuluoedd o gefndiroedd difreintiedig, er cydnabuwyd bod cyllid yn ffactor.

·       Ystyriwyd bod presenoldeb mewn ysgolion yn bwysig iawn am nifer o resymau. Yn dilyn gwaith gan yr adran, roedd presenoldeb yn yr ysgolion cynradd wedi gwella ond roedd angen gwneud rhagor o waith o ran presenoldeb yn yr ysgolion uwchradd.

·       Ni ddylai’r un plentyn na pherson ifanc deimlo’n oer yn yr ystafell ddosbarth. Os oedd plant neu bobl ifanc yn teimlo’n oer, dylai’r Aelodau anfon tystiolaeth at swyddogion yr adran.

·       Er mwyn paratoi pobl ifanc ar gyfer profiad gwaith a’u gyrfaoedd yn ddiweddarach mewn bywyd, roedd cynllun peilot wedi’i gynnal yn Aberteifi lle’r oedd yr ysgol yn gweithio’n agos gyda’r gymuned a’r busnesau yn lleol. Hefyd, roedd y cwricwlwm newydd yn caniatáu i’r ysgolion ddysgu sgiliau bywyd gan gefnogi’r bobl ifanc i fod yn annibynnol. Soniwyd hefyd am rwydwaith Seren, menter gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cefnogi pobl ifanc i wireddu eu dyheadau a chyrraedd eu llawn botensial yn academaidd.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD:

1.    i fabwysiadu cynnwys Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion ar gyfer ysgolion.

2.    bod adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wneir gyda Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion yn cael ei gyflwyno i’r ysgolion a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau sy’n Dysgu.

Dogfennau ategol: