Eitem Agenda

Y llwybr cyfeirio cyfredol i gael diagnosis o awtistiaeth

Cofnodion:

Dywedwyd bod aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach wedi’u gwahodd i’r cyfarfod hwn fel y gallent gyfrannu at y drafodaeth dan sylw.

 

Esboniodd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau mai diben yr adroddiad oedd darparu gwybodaeth am y llwybr cyfredol i gael diagnosis o awtistiaeth, nodi’r heriau ac amlinellu’r modd yr oedd y Gwasanaethau Ysgolion yn bodloni anghenion y plant a’r bobl ifanc a oedd wedi derbyn diagnosis a’r rhai a oedd yn aros am hynny. Tynnwyd sylw at y ffaith bod awtistiaeth yn gyflwr gydol oes a bod  symptomau pob unigolyn yn wahanol.

 

Rhoddodd Angharad Behnan, Prif Seicolegydd Addysg gyflwyniad i'r Pwyllgor, gan amlinellu'r canlynol:

·       Cefndir

·       Newid

·       Y sefyllfa bresennol

·       Effaith ar blant a phobl ifanc yn ysgolion Ceredigion

·       Cefnogaeth i ysgolion

·       Cymorth ehangach gan yr Awdurdod Lleol i deuluoedd, plant a phobl ifanc

·       Y camau nesaf

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch eu meysydd o ddiddordeb ac atebwyd y rhain yn eu tro gan y Swyddogion. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol:

·       Pwysleisiwyd nad oedd diagnosis o awtistiaeth yn effeithio ar yr addysg a oedd yn cael ei ddarparu i blant a phobl ifanc yng Ngheredigion, ac mewn gwirionedd, byddai cymorth yn cael ei roi ar waith ar unwaith os byddai unrhyw symptomau o awtistiaeth yn cael eu nodi.

·       Roedd y Tîm Asesu Cyfathrebu Cymdeithasol (SCAT) yn cwrdd bob 6 wythnos i drafod atgyfeiriadau. Y gwasanaeth iechyd oedd yn arwain y gwaith hwn oherwydd mai iechyd oedd yr unig gorff a fedrai ddarparu diagnosis o awtistiaeth. Roedd yn allweddol bwysig bod yn ofalus er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y diagnosis cywir.

·       Meddygon Teulu a Nyrsys Ysgolion ddylai fod yn gwneud yr atgyfeiriadau.

·       Roedd gan 70% o ysgolion Ceredigion Dystysgrifau Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth ac Eiriolwyr Awtistiaeth (byddai’r rhestr yn cael ei rhannu â’r Aelodau maes o law).

·       Codwyd pryderon am restrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Anogwyd yr aelodau i godi’r mater hwn ar bob cyfle posibl. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal Adolygiad Capasiti lle nodwyd bod Byrddau Iechyd yn genedlaethol yn ei chael hi’n anodd ymdopi ag asesiadau ac felly, roedd addewid wedi’i wneud am gyllid ychwanegol.

·       Codwyd pwysigrwydd cynhwysiant er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc y cyfle cyfartal i dderbyn addysg prif ffrwd yn y lle cyntaf. Os na fyddai hynny’n addas, roedd unedau arbenigol ar gampysau rhai ysgolion a chan eu bod yn agos, roedd modd i’r plant a’r bobl ifanc dderbyn gwersi prif ffrwd lle bo hynny’n briodol.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r isod:

1.    I gael gwybod am y llwybr cyfeirio cyfredol i gael diagnosis o awtistiaeth yng Ngheredigion.

2.    I gael gwybod am sut mae’r Gwasanaethau Ysgolion yn bodloni anghenion plant sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth neu’n aros i gael diagnosis.

Dogfennau ategol: