Cofnodion:
Dywedwyd bod yr
Aelodau, yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar
19 Hydref 2022, wedi codi cwestiynau ynglŷn â’r ffordd yr aethpwyd ati i
brynu safle Feidr Fair yn Aberteifi. Cytunwyd y
byddai adroddiad yn cael ei baratoi a’i gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor.
Ym Mawrth 2021,
cysylltodd perchennog safle Feidr Fair â'r Cyngor i
ddweud ei fod wedi cael cynnig £680,000 oddi wrth barti arall am y tir a oedd
yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio. Gofynnodd y perchennog a oedd y Cyngor
eisiau prynu'r safle yn hytrach na'i fod yn cael ei werthu i ddatblygwr
preifat. O ystyried y potensial i
ail-ddatblygu’r tir, dywedodd y perchennog ar y pryd fod y tir yn werth £1.25m.
Roedd y safle, a
oedd yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio, mewn lleoliad da yn y dref ac roedd
nifer o bobl yn ei ddefnyddio at amrywiol ddibenion. Roedd y ffaith bod y maes
parcio mor gyfleus yn denu pobl i’r dref.
Byddai colli’r llefydd parcio hyn mor agos i'r dref yn tanseilio'r
ymdrechion i adfywio'r dref a’r gwaith o fynd i'r afael ag effaith y dirywiad economaidd.
Roedd y safle hefyd
yn cynnwys lleoliad pwysig ar gyfer codi a gollwng disgyblion a oedd yn mynychu
Ysgol Gynradd Aberteifi (430 o ddisgyblion), a phe bai’r safle’n cael ei golli,
ni fyddai lleoliadau amlwg eraill ar gael ar gyfer gwneud hyn. Roedd Ysgol Gynradd
Aberteifi yn safle cyfyng, a dim ond nifer cyfyngedig o lefydd parcio ar gyfer
y staff oedd ar gael ar y safle. Roedd y maes parcio yn allweddol o ran sicrhau
diogelwch disgyblion un o ysgolion cynradd mwyaf y sir wrth iddynt gael eu codi
a’u gollwng. Roedd y gwaith ar yr ysgol, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2022,
wedi dwysáu'r anawsterau ar y safle.
Roedd y tir wedi’i
osod ar brydles i’r Cyngor. Roedd y
brydles yn un a oedd yn para 99 mlynedd a byddai’n dod i ben yn 2053. Fel yr
oedd costau pethau ar y pryd hwnnw, roedd yr hyn a delid am y brydles yn rhad
iawn (swm ‘peppercorn’).
Cyn i’r cynnig i
brynu’r safle gael ei wneud, roedd defnyddio’r safle fel maes parcio wedi
creu’r incwm canlynol i’r Cyngor:
• 2019/20 £68,481
• 2018/19 £70,259
• 2017/18 £68,124
• 2016/17 £68,361
• 2015/16 £55,315
Mewn termau
buddsoddi syml, roedd yr incwm cyson o oddeutu £68,000 y flwyddyn yn golygu y
byddai’n cymryd 8.8 mlynedd i adennill yr arian a fuddsoddwyd h.y. 11.3% y
flwyddyn. Roedd y ffrwd incwm eisoes yn
bodoli, felly nid oedd hyn yn wariant cyfalaf at ddiben adenillion
masnachol hollol newydd, ond roedd yn dangos bod sicrhau'r ffrwd incwm hon yn
rhoi gwerth am arian wrth ystyried y metrigau hyn.
Yn ogystal,
cydnabuwyd y byddai gwerth y safle'n cynyddu wrth i nifer y blynyddoedd a oedd
yn weddill ar y brydles leihau. Roedd hyn yn adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol a
fu mewn gwerth tir at ddibenion datblygu.
Roedd yr ymatebion
cychwynnol i’r cais hwn yn gadarnhaol o ystyried diddordeb y parti arall ond roedd
hefyd yn betrus o ystyried hyd y brydles.
Gwnaeth y trafodaethau cychwynnol ganolbwyntio ar geisio cael rhagor o
wybodaeth am fwriadau’r gwerthwr, canfod a oedd cynnig y parti arall yn un
cadarn ai peidio, ac ystyried y goblygiadau i’r Cyngor pe byddai’r safle yn
cael ei werthu i’r parti hwnnw. Wrth
bwyso a mesur y ffactorau hyn, awgrymwyd nad oedd rhyw frys mawr i fwrw ymlaen
â hyn ond y dylid parhau i drafod yn anffurfiol.
Yn ystod 2021, daeth
yn fwy amlwg bod y gwerthwr yn ymwybodol o waith hanesyddol (o ran y pwll nofio
a’r tir o’i amgylch, lledaenu’r ffordd a’r palmentydd) a oedd fel petai’n
llechfeddiannu’r tir yr oedd wedi’i osod ar brydles. Gallai hyn achosi problemau i'r Cyngor pe
bai'r perchennog neu’r perchennog newydd yn ceisio gorfodi neu ail-drafod
amodau’r brydles gan gynnwys y risg y gallai’r brydles gael ei therfynu.
Roedd hyn yn golygu
ei bod yn bwysig sicrhau'r safle gan gadw’r maes parcio er mwyn cefnogi'r dref
a'r ysgol, sicrhau'r incwm presennol a sicrhau’r potensial i ddatblygu yn y
dyfodol yn hytrach na pheryglu colli'r safle.
Felly cafodd y
trafodaethau gyda'r datblygwyr eu dwysáu er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol
i'r dref ac i'r Cyngor.
Fel rhan o'r
trafodaethau uchod, ystyriwyd y posibilrwydd o wario cyllid Llywodraeth Cymru
yn 2022/23, yn hytrach na cholli rhywfaint o’r cyllid neu'r cyllid cyfan. Er mwyn gwneud hyn, roedd angen gwario’r
arian erbyn diwedd Mawrth 2022.
Roedd yn briodol
prynu safle Feidr Fair at y diben hwn. Byddai hyn yn cefnogi'r rhaglen Trawsnewid
Trefi yn Aberteifi yn fawr iawn, oherwydd byddai'r gwariant yn cael ei
ddefnyddio yn lle cyllid nad oedd wedi’i wario, gan ganiatáu i’r cyllid hwnnw
wedyn gael ei ddefnyddio at ddibenion adfywio yn Aberteifi (neu yn rhywle
arall) yn 2022/23.
Cafodd y cais a'r
achos busnes eu trafod yn y lle cyntaf ar lefel y swyddogion, yn bennaf o fewn
y Gwasanaeth Economi ac Adfywio. Roedd hyn yn rhywbeth arferol gan fod
swyddogion yn rheolaidd yn ystyried cyfleoedd i gefnogi prosiectau datblygu a
buddsoddi sy'n cefnogi’r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol, yn
enwedig y flaenoriaeth allweddol o Hybu'r Economi.
Yn sgil mwy o gyllid
gan Lywodraeth Cymru yn 2021 a 2022, cafwyd nifer o drafodaethau yng
nghyfarfodydd y Grŵp Datblygu Asedau (26 Ionawr 2022) a'r Grŵp
Datblygu (28 Chwefror 2022). Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio'n bennaf ar
eiddo gwag, tir masnachol a diwydiannol, datblygu asedau'r Cyngor, a chaffael
rhai adeiladau a darnau o dir. Roedd
cofnodion cyfarfod y Grŵp Datblygu ar 28 Chwefror yn nodi bod y
posibilrwydd o brynu'r safle yn cael ei ystyried.
Ar y pryd hwnnw,
roedd Aelodau (y Cynghorwyr Rhodri Evans, Dafydd Edwards, Dan Potter, Ivor
Williams a Keith Evans) a swyddogion yn mynd i gyfarfodydd y Grŵp Datblygu
Asedau. Roedd Aelodau (y Cynghorwyr Ellen ap Gwynn, Rhodri Evans, Dafydd
Edwards a Gareth Lloyd) a swyddogion hefyd yn bresennol yng nghyfarfodydd y
Grŵp Datblygu.
Cafodd y
posibilrwydd o brynu’r safle hefyd ei drafod gydag aelodau'r Cabinet. Cafodd yr aelodau fanylion penodol yr achos
busnes a oedd yn cefnogi’r broses o brynu'r tir yn Feidr Fair
a chytunwyd bod angen sicrhau cyfrinachedd cyn adrodd am y manylion a fyddai’n
cael eu rhannu fel rhan o ddiweddariad
cyffredinol ynglŷn â datblygu asedau ar ôl i'r Grŵp Datblygu ailddechrau.
Aelodau'r Cabinet ar y pryd oedd y Cynghorwyr Ellen ap Gwynn, Ray Quant, Catrin
Miles, Rhodri Evans, Gareth Lloyd, Dafydd Edwards, Alun Williams a Catherine
Hughes.
Rhoddodd y
Prif Weithredwr yr awdurdod i brynu'r eiddo ym mis Mawrth 2022, yn unol â'r
Cyfansoddiad lle dirprwyir pwerau i ‘wneud penderfyniadau ynghylch unrhyw
swyddogaethau Cabinet lle bo angen gweithredu ar frys yn unol â Pharagraff 4
Erthygl 12 y Cyfansoddiad’.
Roedd y dull
hwn o weithredu hefyd yn adlewyrchu’r protocolau cyn-etholiad. Er nad oedd
gwaharddiad ar gynnal busnes arferol y Cyngor neu wneud penderfyniadau yn ystod
y cyfnod cyn etholiad, roedd yn debygol y byddai hyd yn oed yr hyn a ystyrir yn
"fusnes fel arfer" yn dod yn fwyfwy gwleidyddol. Roedd angen i Gynghorau felly fod yn ofalus
er mwyn osgoi'r honiad bod adroddiad yn ymddangos fel pe bai’n cefnogi/hyrwyddo
neu’n tanseilio/mynd yn groes i safbwyntiau unrhyw ymgeisydd neu blaid
wleidyddol. Yn yr un modd, dylai adroddiadau osgoi materion y mae ymgeisydd yn
ymgyrchu’n frwd yn eu cylch. Lle bo
hynny’n bosibl, dylid gohirio adroddiadau fel hyn tan ar ôl yr etholiadau.
Yn ogystal,
dirprwyir pwerau i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros yr Economi ac Adfywio
i brynu eiddo. Nodir y pwerau hyn yn
Rhan 3.5 o'r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion – Cyfrifoldeb dros Swyddogaethau’r
Cyngor a'r Cabinet.
Roedd y
cynllun hwn yn dirprwyo rhai o swyddogaethau neilltuol y Cyngor a'r Cabinet i
swyddogion a dylid ei ddehongli yn yr ystyr ehangaf yn hytrach nag yn gyfyng.
Roedd Adran H yn ymwneud â’r Dirprwyaethau i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Economi ac
Adfywio ar yr amod bob tro bod y penderfyniad a) o fewn cyllideb y Cyngor neu’i
gynlluniau benthyca: b) o fewn strategaeth gyffredinol y Cyngor neu’i
fframwaith polisi; c) o fewn y Rheoliadau Ariannol a’r Gweithdrefnau Ariannol
Cysylltiedig; a d) heb fod yn fater a neilltuir yn benodol i’r Cyngor Llawn,
Pwyllgor o'r Cyngor, y Cabinet, Swyddog Statudol, y Prif Weithredwr, y
Cyfarwyddwyr Corfforaethol neu’r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol.
Roedd Adran
H yn cynnwys y canlynol:
Caiff y
swyddogaethau canlynol eu dirprwyo i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi
ac Adfywio ac i unrhyw swyddogion a awdurdodir ganddo/ganddi o dro i dro fel y
bo'n briodol ar yr amod bod y swyddogion yn meddu ar gymwysterau addas i
gyflawni'r dyletswyddau a'r swyddogaethau hynny:
1. Trafod a
chwblhau trafodion i brynu a gwerthu tir ac eiddo, rhoddi prydlesau i’r Cyngor
ac oddi wrtho’n unol â’r Cynllun Rheoli Asedau a
Rhaglen Gyfalaf y Cyngor.
Cwblhawyd y
broses o brynu’r safle am £600,000 ar 28 Mawrth 2022. Roedd y pris yn adlewyrchu gwerth yr incwm,
pwysigrwydd y safle i’r Cyngor a’r dref, y posibiliadau o ran datblygu’r safle
at y dyfodol a’r ansicrwydd a grëwyd
o ran y
materion llechfeddiannu.
CYTUNWYD i
nodi’r adroddiad er gwybodaeth. Dywedwyd hefyd y dylai’r Aelod Lleol wastad
gael gwybod am ddatblygiadau yn ei ward. Nid oedd y Cynghorydd Elaine Evans
wedi cael gwybod yn yr achos hwn.
Dogfennau ategol: