Cofnodion:
Croesawyd yr Arweinydd unwaith eto i gyflwyno
Adroddiad Hunanasesu
2021/22. Roedd
Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn disodli Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2009 gynt ac yn cyflwyno cyfundrefn
berfformiad newydd ar gyfer Prif
Gynghorau yn seiliedig ar Hunanasesu.
Bwriad y gyfundrefn
berfformiad newydd oedd adeiladu a chefnogi diwylliant lle’r oedd cynghorau
yn ceisio gwella a gwneud yn well yn barhaus
ym mhopeth a wnânt, heb ystyried
pa mor dda yr oeddent yn perfformio
eisoes. Roedd y Ddeddf yn disgwyl
y byddai’r cynghorau bob amser yn ymdrechu
i gyflawni mwy a cheisio sicrhau’r
canlyniadau gorau i bobl a chymunedau
lleol. Un ffordd o wneud hyn oedd
herio’r sefyllfa bresennol yn barhaus
a gofyn cwestiynau ynghylch sut yr
oeddent yn gweithredu.
Roedd y
Ddeddf yn cyflwyno 5 dyletswydd benodol ar gyfer
Cynghorau:
• Y ddyletswydd i adolygu perfformiad yn barhaus
• Y ddyletswydd i ymgynghori
ar berfformiad
• Y ddyletswydd i adrodd
ar berfformiad
• Y ddyletswydd i drefnu
asesiad o berfformiad gan banel
• Y ddyletswydd i ymateb
i adroddiad ar asesiad o berfformiad
gan banel
Byddai’r hunanasesiad
yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na
phrosesau ac roedd disgwyl i awdurdodau
lleol arfer ymagwedd wahanol at asesu eu perfformiad
i’r hyn ydoedd
cynt. Byddai hyn yn gofyn
am fwy o fyfyrio ar yr hunan.
Ers mis Mai 2022 bu Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal rownd gyntaf
y broses Hunanasesu ac roedd
y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu wedi chwarae rhan
ganolog ynddi:
• Ar 15 Mehefin 2022 cyflwynwyd y broses Hunanasesu a ddatblygwyd i’w defnyddio yng Ngheredigion
i’r Pwyllgor. (roedd dull y Cyngor
yn defnyddio set o Brif Lwybrau Ymholi
neu gwestiynau allweddol i helpu i
ganolbwyntio ar ofynion Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau).
• Ar 29 Gorffennaf 2022 cynhaliwyd gweithdy gyda’r Pwyllgor i gofnodi canfyddiadau
Aelodau ar berfformiad y Cyngor a chyfleoedd i wella
fel y gellid cyfrannu’r wybodaeth at y Matrics Hunanasesu. (tabl oedd
y Matrics a oedd yn casglu ynghyd
yr holl dystiolaeth,
heriau’r dyfodol, y gweithredu arfaethedig a’r sgoriau).
• Ar 10 Awst 2022 cynhaliwyd gweithdy arall gyda’r Pwyllgor i adolygu’r sgoriau
drafft a’r Matrics Prif Lwybrau
Ymholi.
Ers hynny, defnyddiwyd y dystiolaeth a gasglwyd i gynhyrchu
Adroddiad Hunanasesu, a oedd i’w
weld yn Atodiad 3. Hwn oedd allbwn
allweddol y broses Hunanasesu
ac roedd yn amlinellu’r modd yr oedd y Cyngor
yn perfformio ar hyn o bryd
a’r camau yr oedd yn
bwriadu eu cymryd wrth symud
ymlaen.
Roedd Adroddiad Hunanasesu 2021/22 yn cyflawni gofynion:
• Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
– wrth osod ein Hamcanion Llesiant
Corfforaethol ac adolygu’r cynnydd a wnaed o ran yr amcanion hyn.
• Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 –
y ddyletswydd i adolygu perfformiad yn barhaus, i
ymgynghori ar berfformiad, i adrodd ar berfformiad,
i drefnu asesiad o berfformiad gan banel ac i
ymateb i adroddiad ar asesiad
o berfformiad gan banel.
Roedd cyfrifoldeb statudol ar y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio i ystyried yr
Adroddiad Hunanasesu a gwneud argymhellion ar y canfyddiadau a’r camau yr
oedd y Cyngor yn bwriadu eu
cymryd. Ystyriwyd yr Adroddiad yn
y cyfarfod ar 27 Medi 2022
a chymeradwywyd yr adroddiad fel y gellid mynd ati
i’w gyhoeddi. Ni wnaed argymhellion ffurfiol i newid
y casgliadau na’r camau yr oedd
y Cyngor yn bwriadu eu cymryd.
Fodd bynnag, gofynnwyd am fân newidiadau o ran y fformatio a chodwyd nifer o gwestiynau ar sut
y gellid gwella’r trefniadau adrodd yn ystod y rownd
nesaf. Cafodd y newidiadau hyn eu gwneud ac roeddent
i’w gweld yn Atodiad 3. Ar
ôl i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio gymeradwyo’r adroddiad, cafodd y broses o gynhyrchu Adroddiad Hunanasesu 2021/22 ei chwblhau ac ni fyddai modd
ei newid rhagor.
Dywedwyd
wrth Aelodau’r Pwyllgor fod disgwyl
i’r Adroddiad Hunanasesu fynd gerbron y Cabinet ar 6 Rhagfyr a’r Cyngor
ar 15 Rhagfyr, cyn y byddai’n cael ei gyflwyno
i’r Gweinidogion, Estyn ac Archwilydd Cyffredinol Cymru a’i gyhoeddi ar
y wefan.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol:
· Dylid sicrhau
bod y buddion cymunedol yn parhau a’u
bod yn rhai gwerthfawr.
· Dylid cefnogi
contractwyr lleol i gydweithio ar
dendrau ar gyfer contractau mwy o faint.
· Awgrymodd yr
Aelodau y dylid ymchwilio i’r posibilrwydd
o sefydlu gwasanaethau hyd braich.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i dderbyn
Adroddiad Hunanasesu
2021/22 gan gynnwys yr Adolygiad Blynyddol
o Berfformiad a’r Amcanion Llesiant.
Dogfennau ategol: